Gwrthod dyfarnu g锚m rygbi ar 么l cam-drin geiriol

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mike Bubbins ei fod yn teimlo mae diffyg unigolion dylanwadol da sydd ar fai am ymddygiad chwaraewyr ifanc

Mae'r digrifwr a'r dyfarnwr rygbi Mike Bubbins wedi dweud iddo wrthod dyfarnu ail hanner gem rygbi dan 13 oed ar 么l i chwaraewyr ifanc a hyfforddwr regi tuag ato.

Dywedodd y cyn-athro chwaraeon o Gaerdydd fod y cam-drin geiriol wedi dechrau cyn hanner amser, wedi i blentyn regi ato am roi sgrym i'w gwrthwynebwyr.

Ar hyn, mi roddodd y chwiban i ddyfarnwr arall a gadawodd y cae.

Dywedodd Bubbins: "Dwedais i 'Dwi ddim yn gwneud yr ail hanner. Galli di ddyfarnu. Dwi ddim angen hyn'.

"Roedd yr hyfforddwr a'r chwaraewyr ar y cae yn rhegi ataf mewn gem rygbi dan 13 oed.

"T卯m fy machgen oedd yn chwarae, ac roeddem yn digwydd bod yn well na'n gwrthwynebwyr, ond yn lle meddwl 'rydyn ni'n cael ein curo o bum cais am nad ydyn ni cystal', gwnaeth y t卯m arall feddwl 'mae'n rhaid mae bai'r dyfarnwr yw hyn'."

Yn siarad ar y podlediad Parenting Hell dywedodd Bubbins ei fod yn teimlo mae diffyg unigolion dylanwadol da sydd ar fai am ymddygiad chwaraewyr ifanc.

"Gallan nhw fod y plant mwyaf cl锚n yn y byd, ond os mai rhain yw'r unigolion sy'n eu dysgu, yna dyna'r diwedd arni."

Dywedodd iddo geisio bod yn amyneddgar efo'r plant am ei fod yn cofio colli ei dymer ei hun wrth chwarae, ond ychwanegodd: "pan mae hyfforddwyr yn dechrau ymddwyn yn wael, does gen i ddim amynedd gyda hynny."