´óÏó´«Ã½

Dawnsio Burlesque: Codi hyder a chreu cymuned

  • Cyhoeddwyd
Lili Del FflurFfynhonnell y llun, Jo Cox

Mae'r berfformwraig Lili Del Fflur yn cystadlu yng nghystadleuaeth burlesque fwyaf Ewrop, Burlesque Idol, yn Llundain ddiwedd Mai.

Wedi bod yn dawnsio ers saith mlynedd gyda grŵp yng Nghaerdydd, mae hi'n teimlo fod burlesque wedi helpu gyda'i hyder, ac eisiau addysgu eraill ei fod yn fwy na jest tynnu dy ddillad ar lwyfan, fel bu'n egluro wrth Cymru Fyw:

Beth yw burlesque?

Mae hynny'n anodd i'w ateb, oherwydd gallai fod beth bynnag wyt ti eisiau iddo fod. Mae'n ddawnsio, art of the tease, dadwisgo, bach o gomedi weithiau…

Ond mae'n empowering iawn, nid jest i mi ond i'r gynulleidfa hefyd. Mae e'r ffordd dwi'n cael bod yn greadigol a mynegi fy hun.

Ac mae burlesque jest yn sexy. I mi, teimlad ydi 'sexy', yn hytrach na rhywbeth penodol. Os ydi'r perfformiwr ar y llwyfan yn teimlo felly, mae'r gynulleidfa am feddwl eu bod nhw.

Alli di fod wedi gwisgo mewn bag papur, ond mae e i gyd am dy symudiadau a'r edrychiad ar dy wyneb.

Ffynhonnell y llun, Lili Del Fflur
Disgrifiad o’r llun,

Flossie Smalls, Lili Del Fflur a Lana Del Red o'r grŵp Beauties in Bute sy'n cynnal digwyddiadau i godi arian i elusen

Pryd 'nes di ddechrau dawnsio burlesque?

Yn 2015, ges i wahoddiad i fynd i sioe burlesque - o'n i wastad wedi bod eisiau mynd - a ges i'n syfrdanu gan bob un person ar y llwyfan; o'n i jest eisiau bod yna gyda nhw! Mae'n swnio'n cheesy, ond roedd yr holl berfformwyr mor ysbrydoledig - o bob siâp, maint a rhywedd.

Es i'n syth at un o'r perfformwyr ar ôl y sioe i ofyn sut 'swn i'n gallu ymuno oherwydd roedd rhaid i mi 'neud hyn, ac es i i fy ngwers gyntaf gyda'r Cardiff Cabaret Club ddechrau 2016.

Ers hynny, dwi wedi gwneud degau o sioeau, mewn grwpiau ac ar fy mhen fy hun, yn cynhyrchu sioeau a dwi nawr yn cynnal fy ngwersi fy hun yn y Cymoedd.

Oes angen llawer o hyder corfforol i wneud hyn?

Roedd fy ffrind wastad wedi bod eisiau gwersi, ond roedd hi'n dweud ei bod hi eisiau colli pwysau gyntaf. Ond pan ddechreuodd hi, 'nath hi sylweddoli fod pawb mor wahanol - tal, byr, tenau, tew, rhywle yn y canol, curvy, bronnau mawr, bronnau bach...

Ac mae llawer o burlesque yn smoke and mirrors beth bynnag - siapio dy gorff i edrych ar ei orau. Sefyll yn dal, pen lan, bŵbs a'r pen-ôl mas, 'tits and teeth'… Hyd yn oed os ti ddim yn teimlo'n hyderus, os ti'n edrych fel dy fod di, wnei di ei deimlo fe.

Ffynhonnell y llun, Bright Rabbit Photography
Disgrifiad o’r llun,

Cymerodd Lili ran mewn sesiwn ffotograffiaeth am hyder corfforol, 'You are enough'

Dywedodd un o fy myfyrwyr ei bod hi'n crynu cyn ei gwers gyntaf achos ei bod hi mor nerfus, ac mi adawodd hi yn teimlo fel y gallai hi reoli'r byd! Dyna sydd ei angen!

Mae Lili Del Fflur yn estyniad o'r fi go iawn, ond ychydig mwy hyderus. Weithiau dwi mor nerfus cyn mynd ar y llwyfan, ond cyn gynted â maen nhw'n galw fy enw a dwi ar y llwyfan, dwi fel person gwahanol.

Gyda phwy wyt ti'n perfformio?

Pan ti'n meddwl am grŵp dawnsio, ti'n dychmygu fod pawb yn bitchy a chas, ond dyw e ddim fel yna o gwbl. Mae pawb mor gefnogol ac annwyl a dwi'n credu fod hynny'n rhoi boost i ti.

Mae fy ngrŵp i yng Nghaerdydd yn llawn o'r bobl oedd ddim wir yn ffitio mewn unrhywle, a ry'n ni wedi dod o hyd i'n teulu rhyfedd yn ein gilydd. Ry'n ni'n gymuned ac mae pawb yn gwarchod ei gilydd.

Ffynhonnell y llun, Lili Del Fflur
Disgrifiad o’r llun,

Lili (yn y canol, mewn gwyn) gyda rhai o'i chyd-berfformwyr o Cardiff Cabaret Club

Beth yw cystadleuaeth Burlesque Idol 2023?

'Nes i benderfynu ei bod hi'n amser i roi fy hun mas 'na, a 'nes i anfon cais mewn ar gyfer Burlesque Idol, sef y gystadleuaeth burlesque fwyaf yn Ewrop - a ges i fewn! Mae rownd pob mis, a diwedd y flwyddyn, bydd pob enillydd yn cystadlu yn y rownd derfynol. Mae yn yr Hippodrome yn Llundain, felly dwi'n barod yn teimlo fel mod i wedi ennill.

Dwi'n gwneud fy rwtîn Paddington Bear (neu Paddington 'Bare'!), yn bennaf fel teyrnged i fy ffrind Lorraine, oedd yn dawnsio gyda fi yn y Cardiff Cabaret Club. Roedd hi'n fenyw anhygoel a mor gefnogol; hi wnaeth greu fy het Paddington Bear i mi mas o lenni ei lolfa!

Ar ôl iddi weld y rwtin am y tro cyntaf, trodd ata i a dweud 'mae'n rhaid i ti fynd â Paddington i Lundain'… a saith mlynedd yn ddiweddarach, o'r diwedd, mi ydw i!

Ffynhonnell y llun, Dave Purcell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lili yn edrych ymlaen at fynd â'i dehongliad hi o Paddington 'Bare' draw i Lundain

Sut fath o bobl sy'n dod i wylio sioeau burlesque?

Llawer o grwpiau o ferched, ond mae pobl o bob math yn dod. Ffrindiau a theulu hefyd; mae Mam wedi bod i fy ngwylio i. Mae rhai pobl yn meddwl ei fod yn rhyfedd - 'mae dy fam yn dod i dy weld di'n stripio?!'… 'mae Mam yn dod i fy ngweld i'n perfformio, ydi'.

Dwi wedi gwneud un sioe lle oedd criw o fois rygbi wedi dod, ac roedden nhw'n gwneud lot o sŵn ac yn bod yn eitha sleazy, ond 'naeth y perfformiwr drag oedd yn llywio'r noson eu sortio nhw mas.

Mae gennyn ni reolau ar ddechrau pob sioe, sy'n ei gwneud hi'n glir bod neb yn cael cyffwrdd y perfformwyr - mae burlesque yn 'non-contact sport' - felly dwi byth wedi cael profiad gwael, hyd yn oed os ydw i'n perfformio ymysg y gynulleidfa.

Ffynhonnell y llun, Cathryn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Lili gyda'i ffrindiau yn ystod un o'i pherfformiadau

Sut wyt ti'n ymateb i sylwadau negyddol?

Dwi wedi cael ychydig o sylwadau cas iawn ar-lein, ond 'nes i ddim ymwneud gyda nhw. Yn lle, dwi'n canolbwyntio ar yr holl sylwadau cadarnhaol dwi'n eu derbyn.

A dwi wedi cael pobl yn holi 'o, ti'n stripper?' mewn ffordd rili bychanol, ond dwi'n ei weld yn rhywbeth positif iawn, a dwi eisiau eu haddysgu.

Gwna beth sy'n dy wneud di'n hapus. Mae'n empowering i mi, ac mae'n rhoi hyder i eraill.

Ar ddiwedd y dydd, fy newis i yw e, ac mae'n fy ngwneud i deimlo'n dda, felly sut all hynny fod yn beth gwael?

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig