Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nifer teithwyr Maes Awyr Caerdydd wedi haneru
Mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd wedi gostwng yn sylweddol ers y pandemig, 么l data trafnidiaeth awyr.
Er bod nifer y teithwyr wedi codi i 857,397 y llynedd maen nhw 48% yn is na niferoedd 2019.
Ar gyfartaledd roedd nifer defnyddwyr y maes awyr yn 1.3m yn ystod y 10 mlynedd cyn Covid.
Fe brynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Caerdydd ym mis Mawrth 2013 i "sicrhau ei ddyfodol" wedi cwymp yn nifer y teithwyr.
Mae sawl cwmni hedfan wedi rhoi'r gorau i hedfan oddi yno, gyda WizzAir yn cyhoeddi yn gynharach eleni eu bod yn stopio eu gwasanaeth o Gaerdydd.
Yn y blynyddoedd ar 么l i Lywodraeth Cymru gymryd drosodd, cynyddodd nifer y teithwyr i 1.7 miliwn ond roedd yna gwymp sylweddol wedi hynny yn sgil Covid.
Ken Skates oedd gweinidog economi Llywodraeth Cymru rhwng 2016-2021.
"Dwi'n sicr petai Covid ddim wedi digwydd byddem wedi pasio dwy filiwn o deithwyr y flwyddyn erbyn hyn ac y byddem yn cystadlu gyda meysydd awyr eraill," meddai wrth raglen Politics Wales y 大象传媒.
Llai yn defnyddio meysydd awyr yn Ewrop
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fis diwethaf: "Ers y pandemig, mae'r galw am deithiau awyr ar draws y byd wedi gostwng.
"Er y dirywiad yn economi'r DU, rydym wedi ymrwymo i gynnal maes awyr yng Nghymru.
"Rydym wedi rhoi pecyn adfer ar waith sydd wedi'i gynllunio i wneud Maes Awyr Caerdydd yn hunan-gynhaliol a phroffidiol ar gyfer y dyfodol."
Ond nid Maes Awyr Caerdydd yw'r unig un sydd wedi gweld gostyngiad mewn teithwyr.
Ers 2019, mae sawl maes awyr wedi dilyn yr un patrwm - Amsterdam (-61% o gwymp mewn teithwyr), Dulyn (-37%) a Paris (-70%).
Dywedodd Spencer Birns, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd wrth raglen 大象传媒 Politics Wales, fod y maes awyr am sicrhau "cynaladwyedd" yn dilyn gostyngiad mawr yn nifer y teithwyr wedi'r pandemig.
"Cyn Covid roedden ni'n sicrhau gwerth economaidd sylweddol - 拢240m," meddai.
"Mae'r galw am deithio yno, mae ein hediadau allan o Gaerdydd yn llawn - prin iawn yw'r awyrennau na sy'n llawn."