Alun Wyn Jones a Justin Tipuric yn ymddeol o rygbi rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae Alun Wyn Jones a Justin Tipuric wedi cyhoeddi'n annisgwyl eu bod ymddeol o rygbi rhyngwladol ar unwaith.
Mae hyn yn golygu na fydd y p芒r yn chwarae yng Nghwpan y Byd ym mis Medi, er iddynt gael eu henwi yn y garfan estynedig gan Warren Gatland bythefnos yn 么l.
Jones, 37, yw'r chwaraewr sydd 芒'r nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol erioed - ar 么l chwarae 158 o gemau i Gymru a 12 i'r Llewod.
Daeth ei gyhoeddiad tua awr ar 么l i Tipuric, 33, gyhoeddi ei fod yntau yn rhoi'r gorau i rygbi rhyngwladol.
Alun Wyn Jones
Ar 么l cael ei ddewis yng ngharfan hyfforddi Cwpan Rygbi'r Byd eleni, eglurodd Alun Wyn ei fod wedi cael sgyrsiau gyda'r staff hyfforddi ac wedi penderfynu camu 'n么l o'r g锚m ryngwladol.
"Ar 么l 17 mlynedd rwy'n edrych yn 么l ar atgofion arbennig gyda mawrion Cymru a mawrion Cymreig y dyfodol," meddai.
"Fe wnaeth fy nhad-cu a fy nhad feithrin fy angerdd am rygbi pan roeddwn i'n blentyn, sydd wedi parhau drwy'r amser.
"Roedd y cyfle i fod yn broffesiynol yn y gamp rwy'n ei charu yn gwireddu breuddwyd, ac roedd cynrychioli fy rhanbarth genedigol, y Gweilch, a chlybiau o fewn y rhanbarth, sef y Mwmbwls ac yn enwedig Bonymaen tu hwnt i arbennig.
"Diolch yn fawr iawn i'r staff a'r chwaraewyr sydd wedi bod yn rhan o'm taith. Rwy'n dymuno'n dda i chi i gyd ar gyfer y dyfodol.
"I'r cefnogwyr, diolch am y gefnogaeth a gwneud yr achlysuron mwyaf arbennig hyd yn oed yn fwy cofiadwy.
"Er gwaethaf popeth rydw i wedi'i gyflawni, fy mhlant fydd fy nghyflawniad mwyaf bob amser. Cymru am byth."
Justin Tipuric
Chwaraeodd y blaenasgellwr 93 o weithiau i Gymru, ac unwaith dros y Llewod.
Mewn datganiad dywedodd: "Ers diwedd y tymor, rydw i wedi cael amser i fyfyrio ar fy ngyrfa, ac mae'n ymddangos mai nawr yw'r amser cywir i gamu i ffwrdd o rygbi rhyngwladol."
Fe wnaeth Tipuric ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn 2011 yn erbyn Ariannin, ac fe aeth ymlaen i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bedair gwaith yn 2012, 2013, 2019 a 2021.
Roedd hefyd yn aelod allweddol o d卯m Cymru a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2015 a 2019.
Roedd disgwyl iddo ymddangos mewn trydydd twrnament ar 么l cael ei enwi yng ngharfan ymarfer estynedig Gatland i fynd i Ffrainc ym mis Medi.
"Mae wedi bod yn fraint gwisgo crys Cymru a chael cymaint o atgofion gwych," meddai yn ei ddatganiad.
"Rwy'n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gartref a rhoi fy holl egni a chwarae dros fy rhanbarth, y Gweilch."
'Ddim wedi gweld hyn yn dod'
Dywedodd y sylwebydd rygbi Gareth Charles fod y newyddion wedi bod yn "syndod llwyr" iddo.
"O'n i ddim wedi gweld hyn yn dod o gwbl," meddai ar raglen Newyddion S4C.
"Doedd dim unrhyw syndod y byddai Alun Wyn efallai wedi chwarae ei g锚m olaf i'r Gweilch - oedden ni wedi gweld y ffordd oedd e wedi ffarwelio diwedd tymor diwetha'.
"Ond y ffaith ei fod e wedi cael ei ddewis i Gwpan y Byd, oedden ni'n meddwl falle bod un tymor arall i gael 'da fe.
"Ond Justin Tipuric, oedd neb wedi rhagweld hyn yn dod.
"Mae e 'di cael ei anafiadau yn ddiweddar ond wedi dod 'n么l ar 么l hynny.
"Mae'n golled fawr ac yn ben tost i Warren Gatland i golli dau mor brofiadol ac sy'n cyfrannu shwt gymaint mor agos 芒 hyn i Gwpan y Byd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2023
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2023