Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llanelli: Bwriad i gartrefu 300 o geiswyr lloches yn achosi pryder
Mae Cyngor Sir G芒r wedi dweud eu bod yn bryderus iawn yngl欧n 芒 chynlluniau gan y Swyddfa Gartref i leoli dros 300 o geiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli.
Mewn datganiad ar y cyd gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys a'r bwrdd iechyd lleol, dywedodd yr awdurdod lleol eu bod wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gartref am eu bwriad i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade yn ardal Ffwrnes y dref fel "llety wrth gefn".
Ond mae'r cyngor wedi ychwanegu eu bod nhw'n poeni am effaith hyn "ar y gymuned leol", a hefyd sut mae modd cynnig gwasanaethau i'r safle.
Mae'r datganiad hefyd yn nodi fod gan yr awdurdodau "bryder mawr" yngl欧n 芒'r bwriad i gartrefu dros 300 o bobl ar un safle, gan gynnwys pa mor addas yw'r safle ar gyfer y ceiswyr lloches eu hunain.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod nifer y bobl sydd angen lloches yn y Deyrnas Unedig wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed a bod y "system lloches o dan straen aruthrol".
"Rydym wedi bod yn glir nad yw'r defnydd o westai i gartrefu ymgeiswyr lloches yn dderbyniol," meddai.
"Ar hyn o bryd mae dros 51,000 o ymgeiswyr lloches mewn gwestai yn y DU ac yn golygu cost o 拢6m y dydd i drethdalwyr.
"Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymroi i wneud pob ymdrech i leihau'r defnydd o westai ac felly hefyd y gost i'r trethdalwyr."