Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y 'wefr' a'r torcalon o fod yn filfeddyg
"Mae dyfodol milfeddygaeth yn ansicr ond dwi moyn annog pobl i ofyn cwestiynau caled a gofyn os ydy hwn yn yrfa sy'n siwtio chi - mae lot o bethau caled ond chi'n cael cymaint o wefr o 'neud y swydd bob dydd."
Dyma eiriau Si么n Rowlands, sy' wedi gweithio fel milfeddyg ers dros 25 mlynedd gan brofi pob math o her fel rhan o'i waith, o achub ceffyl o waelod clogwyn i helpu rheinos yn Affrica.
Erbyn hyn mae Si么n yn gweithio i bractis yng Nghaerdydd ac hefyd i'r llywodraeth fel milfeddyg yn cynghori ac yn arwain hyfforddiant i filfeddygon sy'n newydd i'r maes.
Mae Si么n newydd gyhoeddi llyfr, Letting the Cat Out of the Bag: The Secret Life of a Vet, sy'n rhoi cipolwg o'r tu mewn ar heriau a hwyl y swydd ac sy'n datgelu'r straen sy'n gallu bod yn rhan o'r gwaith. Fel mae'n s么n: "O fod yn gwrs gradd eitha' hir ac eitha' caled mae'n swydd eitha' unig - i raddau mae timoedd ond eto ti sydd ar flaen y penderfyniadau fel milfeddyg ac felly mae pobl yn disgwyl lot ohonot ti.
"Mae disgwyliadau yn uchel ac mae hwnna yn rheswm mae lot o iselder yn y gwaith yn anffodus ac mae'n un o'r swyddi 'na le mae'r niferoedd o ran pobl yn cymryd bywydau eu hunain yn uchel.
"Fel proffesiwn ni yn cydnabod rhai o'r rhesymau yngl欧n 芒 hyn - oriau hir, yn enwedig gyda anifeiliaid anwes. Ac mae costau uchel o ran gofalu am a thrin anifeiliaid ac mae hynny'n cynyddu. Mae 'na gostau i brofion ac ati."
Effaith y cyfnod clo
Mae'r cynnydd yn y nifer sy' wedi prynu anifail anwes yn y cyfnod clo hefyd wedi cael effaith ar y maes ac mae'r argyfwng costau byw wedi arwain at bobl yn methu fforddio triniaeth, sy'n arwain at benderfyniadau torcalonnus, yn 么l Si么n: "Mae'n arwydd o'r amser bod pobl yn canslo yswiriant - wrth i anifeiliaid heneiddio mae yswiriant yn cynyddu ac mae pobl yn chwilio am lefydd i dorri corneli ar hyn o bryd.
"Wrth i anifeiliaid anwes gynyddu mewn oedran maen nhw'n fwy tebygol o fynd yn dost. Felly yn aml mae pobl yn dweud 'dwi newydd ganslo fy yswiriant a nawr ti'n dweud mae ishe i fi wario 拢500 ar ymchwil'.
Penderfyniadau anodd
"Mae fe mor drist ac mae pobl yn gorfod neud penderfyniad rhwng rhoi'r anifail lawr neu gwario arian ar waith ymchwil. Mae'n dorcalonnus.
"Mae milfeddygon ifanc yn graddio ac yn mynd drwy hyn - mae'n lot i nhw ac mae'n lot i ysgolion milfeddygol i ddysgu nhw sut i ymdopi ac maen nhw'n cario fe'n drwm ar eu ysgwyddau."
Cefndir
Mae Si么n yn diolch i'w gefndir a'i fagwraeth yn Sir Gaerfyrddin am ei helpu i ddelio gyda'r swydd. Cafodd ei fagu yng Nghaerfyrddin gan fynychu Ysgol Bro Myrddin.
Mae'r llyfr yn cynnwys pennod am dyfu fyny yn Nyffryn Tywi a pha mor bwysig oedd hynny yn ei ddyddiau cynnar fel milfeddyg: "Fel rhywun o orllewin Cymru sy' wedi cael ei godi mewn teulu cariadus ond eto wedi graddio a dechrau gyrfa pan oedd yn amser ble nad oedd pobl yn siarad am sut ti'n teimlo, (y neges oedd) ti ddim yn 'neud e'n gyhoeddus.
"Nawr mae pethau lot yn well. Ar yr amser bydden i byth wedi siarad 芒 neb ac wedi meddwl, mae hwn yn rhan o'r swydd, just get on with it. 'Dyw 'na ddim yn iachus o bell ffordd.
"Ac mi nes i 'na. O'n i'n gweld milfeddygon mewn oedran yn cael ysgariad a ballu, colli mas ar amser gyda'u plant nhw. Yn gynnar yn fy ngyrfa 'nes i feddwl dwi ddim ishe 'neud hynny.
"Bydden i'n annog unrhyw un i siarad. Mae siarad yn helpu pawb a ti'n mynd i ennill mwy na ti'n mynd i golli yn siarad.
"Pan ti'n rhoi tri anifail anwes lawr mewn un bore, mae unrhyw un sy'n dweud bod hwnna ddim yn cael effaith arno ti wedi cael ei weirio'n wahanol.
Galar
"Dwi'n siarad yn y llyfr am bobl mewn oedran, falle bod nhw wedi colli partner a chi neu chath yw eu hunig ffrind - ti'n gweld nhw'n cerdded mas o'r lle aros gyda tennyn yn tynnu ar hyd y llawr heb y ci.
"Ti'n meddwl, sut mae pobl yn mynd gartref a mynd i d欧 gwag? Yn aml dwi'n gwario amser yn siarad gyda phlant ifanc i drio helpu'r sefyllfa, yn enwedig plant sy' heb gael unrhyw golled yn eu bywyd. Mae dywediad hyfryd - grief is like love without the hope.
"Ti'n trio ffeindio'r geiriau i drio eu cynorthwyo nhw ac mae'n gallu bod yn galed ac mae sawl person yn y proffesiwn yn stryglo gyda hwnnw."
Cwnsela
Mae cynnig y gefnogaeth yma'n rhan bwysig o'r swydd, gyda chwnsela cwsmeriaid sy'n gwneud penderfyniadau anodd ac yn delio gyda colli anifail yn hanfodol, yn 么l Si么n: "Dwi wedi 'neud lot o fe ar hyd yr amser ac hefyd ar raddfa mwy o faint gyda'r llywodraeth gyda clwy'r traed a'r genau - mae'n effeithio ar bawb.
"Mae lot o bobl yn meddwl fod ffermwyr yn bobl sy' ddim yn teimlo'r golled. Ond maen nhw'n codi'r anifeiliaid 'ma ar y ffermydd - mae ffermwyr yn gweld colled, maen nhw'n teimlo fe. Ac mae siarad amdano fe gyda chwsmeriaid yn help mawr.
"Ti'n clywed pobl yn dweud, you just get on with it. Dwi'n ffodus iawn gyda'r wraig a'r plant os dwi moyn trafod e."
Y llon a'r lleddf
Yn y llyfr mae Si么n hefyd yn s么n am brofiadau doniol a sefyllfaoedd lle mae pethau wedi mynd o'i le yn ei yrfa. Er gwaetha'r heriau, mae'n credu'n angerddol yn y buddiannau sy'n dod fel rhan o'r gwaith: "Y pethau ti'n cael 'neud gyda dy yrfa yn enwedig pan ti'n ifanc - dwi newydd ddod n么l o Dde Affrica a dwi'n awyddus i 'neud mwy o waith conservation gydag anifeiliaid yn Affrica. Mae hwnna'n rhan bwysig o roi n么l hefyd.
"Os na ni'n neud y gwaith 'ma o drio achub nhw maen nhw mewn rial peryg o farw mas," meddai am anifeiliaid fel y rheino.
Beth yw'r peth gorau am fod yn filfeddyg?
Yn 么l Si么n: "Helpu pobl a gweld hapusrwydd pobl a rhoi nhw mewn sefyllfaoedd le maen nhw'n cael y cymorth maen nhw angen. Dwi'n eitha cyfforddus yn trafod gyda pobl beth sy' ishe iddi nhw 'neud - beth yw'r penderfyniadau gorau.
"Hefyd helpu y genhedlaeth nesaf o filfeddygon - dwi'n mwynhau be' allai neud o ran hyfforddiant a trafod.
"Os ti moyn bod yn filiwnydd ddim 'ma'r swydd i ti. Ond o ran mwynhad a gweithio fel t卯m mae'r gwobrau yn ddiri."