拢10,000 wedi'i gasglu i deulu merch a fu farw mewn t芒n

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Alysia, 5, yn y t芒n nos Sadwrn

Mae dros 拢10,000 bellach wedi ei gasglu ar gyfer teulu merch bum mlwydd oed a fu farw wedi t芒n yn eu t欧 yn Sir Benfro.

Bu farw Alysia Salisbury yn ei chartref ym mhentref Pontyglasier ger Crymych ychydig cyn 22:00 nos Sadwrn.

Mae ap锚l gan ddau gynghorydd am ddillad ac eitemau wedi ei chau am y tro wrth iddyn nhw asesu'r gofynion.

Mae'r ddau wedi diolch am haelioni a charedigrwydd pobl.

Dywedodd arweinwyr cymunedol fod marwolaeth Alysia wedi "siglo yr ardal".

Cafodd ei disgrifio fel "merch a chwaer hardd" gan ei theulu.

'Ardal yn dod at ei gilydd'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, fe ddywedodd y Cynghorydd Shon Rees fod nwyddau yn cael eu casglu ar gyfer y teulu gan eu bod wedi "colli'r cyfan".

"Mae wedi rhoi sioc a wedi wir siglo yr ardal," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Cynghorydd Shon Rees y byddai ef yn "ddiolchgar am unrhyw beth" gan y cyhoedd

"Ond ni wedi gweld yr ardal yng ngogledd Sir Benfro fel hyn yn y Preselau yn dod at ei gilydd, a wir ni wedi cael ein syfrdanu gan ymateb y cyhoedd gyda y nwyddau sydd yn dod i finne a'r cynghorydd John Davies.

"Maen nhw wedi colli'r cyfan yn dy'n nhw - a hwnnw sydd yn wir yn anodd ei gredu.

"Ni'n apelio am ddillad, mae 'na ddau oedolyn a dau blentyn.

"Ni yn annog d诺r, rhywbeth i yfed, bwyd sych ac unrhyw beth all rhywun sbario.

"Ni yn ddiolchgar am unrhyw beth. Fi wedi gweld pobl yn dod 芒 brwsh dannedd, pethe syml ni yn cymryd yn ganiataol mewn ffordd.

"Ond ni yn ddiolchgar achos mae wedi bod yn trasiedi ofnadwy yma yng ngogledd y sir a ni wir yn gweld pobl yn dod at ei gilydd."

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i d欧 yn ardal Crymych, Sir Benfro ychydig cyn 22:00 nos Sadwrn

Yn 么l Heddlu Dyfed-Powys roedd Alysia Salisbury wedi marw yn y fan a'r lle.

Ddydd Gwener fe gyhoeddon nhw ddiweddariad gan ddweud bod yr ymchwiliad yn parhau, a bod y crwner bellach wedi cael gwybod.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r gwasanaeth t芒n i ymchwilio i amgylchiadau'r t芒n," meddai'r llu.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth. Mae'n meddyliau i gyd gyda theulu Alysia."