Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhun ap Iorwerth am sefyll yn ras arweinyddol Plaid Cymru
Mae Rhun ap Iorwerth wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu sefyll yn ras arweinyddol Plaid Cymru.
Rhoddodd Adam Price y gorau i'w r么l fel arweinydd wedi i adroddiad dynnu sylw at ddiwylliant o fisogynystiaeth, aflonyddu a bwlio o fewn y blaid.
Fe wnaeth Mr ap Iorwerth, sy'n gyn-newyddiadurwr gyda 大象传媒 Cymru, herio Mr Price a Leanne Wood am yr arweinyddiaeth yn 2018, gan ddod yn ail.
Llyr Gruffydd yw'r arweinydd dros dro - mae Mr ap Iorwerth yn gyd-ddirprwy arweinydd gyda Sian Gwenllian, ac wedi bod yn lefarydd ar faterion iechyd yn y blynyddoedd diweddar.
Newid cynlluniau
Rhun ap Iorwerth yw'r cyntaf o ASau Plaid Cymru i ddatgan bwriad pendant i sefyll yn y ras, gydag eraill gan gynnwys y Llywydd Elin Jones eisoes wedi dweud na fydd hi'n sefyll.
Mae Mr ap Iorwerth wedi cynrychioli Ynys M么n yn Senedd Cymru ers 2013, ond y llynedd fe gyhoeddodd ei fod am gystadlu am sedd yr ynys yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Ar hyn o bryd mae'r sedd yn San Steffan yn cael ei chynrychioli gan y Ceidwadwyr.
Ond petai wedi cael ei ethol i San Steffan byddai wedi gorfod rhoi'r gorau i'w sedd yn y Senedd, fyddai'n golygu na fyddai'n gallu arwain Plaid Cymru chwaith, gan fod y blaid yn dewis eu harweinydd o'u gr诺p yn y Senedd.
Mae'n ymddangos felly y bydd yn gwneud tro pedol ar ei gyhoeddiad i sefyll yn yr etholiad cyffredinol, er na wnaeth gadarnhau hynny'n swyddogol.
Mewn fideo gafodd ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod yn edrych ymlaen i chwarae ei ran yn uno ei blaid.
Talodd deyrnged i'w ragflaenydd, Adam Price, a'r arweinydd dros dro, Llyr Gruffydd, gan ddweud bod y blaid "o ddifrif am y dasg o'n blaenau".
Dywedodd bod rhaid i Blaid Cymru gynnig gweledigaeth o Gymru "yn hyderus, yn deg, yn wyrdd, yn ffynnianus gyda'r pwerau sydd eu hangen r诺an ar y daith i annibyniaeth".
'Uno'r blaid'
Cyfeiriodd at y "talent" o fewn ei blaid "mewn llywodraeth leol, yn San Steffan, yn y Senedd ac ymhlith yr aelodaeth".
"Y mae pob t卯m cryf angen arweiniad," meddai. "Os galla i gynnig yr arweiniad yna... dwi'n barod i wneud hynny a dwi'n gyffrous am y cyfle i wneud hynny.
"Mae 'ngwlad i'n golygu cymaint i fi, a fy nghymuned i hefyd, ac mi fydd fy ymroddiad i Ynys M么n gymaint ag erioed.
"Ond o fan hyn i gymoedd y de lle ges i fy ngeni, r诺an ydi'r amser i uno Plaid Cymru er mwyn i ni allu arwain y gwaith o adeiladu dyfodol Cymru, a dwi'n edrych ymlaen i allu chwarae rhan yn hynny."
Mae'r enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth yn cau ar 16 Mehefin, a hyd yma Rhun ap Iorwerth yw'r unig ymgeisydd.