Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canslo rhai trenau yng Nghymru oherwydd streiciau
Mae nifer o drenau ar hyd arfordir y gogledd, a rhwng dinasoedd y de a Llundain, wedi cael eu canslo wrth i weithwyr fynd ar streic 24 awr ddydd Mercher.
Aelodau undeb y gyrwyr trenau, ASLEF, sy'n gweithredu'n ddiwydiannol wrth i'w hanghydfod â nifer o gwmnïau rheilffordd barhau.
Yng Nghymru, dim ond gwasanaethau Avanti West Coast a GWR sy'n cael eu heffeithio.
Dydy staff prif gwmni trenau'r wlad, Trafnidiaeth Cymru, ddim ar streic ond mae disgwyl i'w gwasanaethau nhw fod yn fwy prysur na'r arfer.
Dywedodd un o arweinwyr y diwydiant ymwelwyr yn y gogledd mai streiciau ydy'r "peth olaf 'dan ni ei angen".
Tridiau o weithredu
Dydd Mercher ydy'r cyntaf o dridiau o weithredu dros wythnos y Sulgwyn, gydag undeb yr RMT yn streicio ddydd Gwener cyn i aelodau ASLEF weithredu eto ddydd Sadwrn.
Dywedodd cwmni Avanti West Coast - sy'n rhedeg gwasanaethau rhwng Caergybi a Llundain - bod yr holl wasanaethau i ogledd Cymru ddydd Mercher wedi eu canslo.
Fydd y cwmni ddim yn rhedeg gwasanaethau ar y lein honno ddydd Gwener na ddydd Sadwrn chwaith.
Yn y de, mae trenau GWR fel arfer yn cysylltu Abertawe a Chaerdydd gyda Bryste a Llundain.
Yr unig wasanaeth sy'n rhedeg ddydd Mercher ydy trên bob dwy awr rhwng Caerdydd a Bryste.
Yr un fydd y sefyllfa pan fydd ASLEF yn streicio am yr eilwaith ddydd Sadwrn, tra bydd nifer "cyfyngedig iawn" o drenau'n cysylltu Caerdydd gyda Llundain a Westbury ddydd Gwener.
'Y peth olaf 'dan ni ei angen'
A hithau'n wyliau ysgol i lawer yr wythnos hon, mae ymwelwyr yn tyrru i atyniadau'r gogledd - gyda rhai'n dod ar drên.
Yn ôl Jim Jones, prif weithredwr Twristiaeth Gogledd Cymru, mae angen datrys yr anghydfod diwydiannol gan ei fod yn cael effaith ar fusnesau.
"Mae'r streiciau yn digwydd am gyfnod hir bellach," meddai.
"Ac mae'r diwydiant [twristiaeth] dan gymaint o bwysau'n barod, gyda'r argyfwng costau byw, prisiau bwyd, a phob dim arall sy'n digwydd.
"Y peth olaf 'dan ni ei angen rŵan, wrth geisio rhoi dau linyn ynghyd, ydy streiciau sy'n effeithio ar isadeiledd, achos fe fydd o'n cael effaith enfawr yn y pendraw.
"Fe fydd ymwelwyr sy'n wynebu oedi a chanslo ar y trenau yn cefnu ar drefniadau maen nhw wedi eu gwneud chwech, saith, wyth mis neu hyd yn oed flwyddyn yn ôl."
Ond dywedodd Nia Rhys Jones, cyd-gadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn, mai prin fydd yr effaith ar yr ardal honno.
"Dwi ddim yn meddwl bod Ynys Môn yn or-ddibynnol ar y farchnad drenau," meddai.
"Ymwelwyr annibynnol efo car sy'n dod yma yn ystod wythnos y Sulgwyn, faswn i'n dweud - teuluoedd ac yn y blaen.
"Faswn i'n dweud mai impact bychan iawn 'sa hwn yn ei gael yr wythnos yma.
"Mae'r rhan fwyaf yn dod efo ceir i symud o gwmpas ar yr ynys unwaith maen nhw wedi cyrraedd."
'Prysur' ar Drafnidiaeth Cymru
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru bydd eu trenau nhw ddydd Mercher a ddydd Sadwrn yn rhedeg yn ôl yr amserlen arferol, ond bydd sawl gwasanaeth yn fwy prysur na'r arfer.
Mae'r cwmni'n credu bydd mwy yn teithio ar eu trenau rhwng Caerfyrddin a Chyffordd Twnnel Hafren, sy'n galw yn Abertawe a Chaerdydd.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio y bydd eu gwasanaethau rhwng arfordir y gogledd a Chaer, Crewe a Manceinion yn brysur.
Dydd Gwener mae'n bosib y bydd amharu ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru cyn 07:00 ac ar ôl 19:00 sy'n mynd i neu'n dod o Fanceinion, Lerpwl, Birmingham neu Gaerloyw.
Dywedodd undeb ASLEF eu bod wedi llwyddo i ddod i ddealltwriaeth â chwmnïau a llywodraethau yng Nghymru a'r Alban, ond nid y rheiny sydd wedi eu lleoli yn bennaf yn Lloegr.
Yn ôl eu hysgrifennydd cyffredinol, Mick Whelan, dydy gyrwyr ddim wedi cael codiad cyflog ers 2019 - y flwyddyn pan ddaeth eu cytundeb cyflog diwethaf i ben.
"Dydy hi ddim yn ymddangos bod gan yr 15 cwmni trenau rydym ni mewn anghydfod â nhw… na'r Llywodraeth Dorïaidd sy'n gefn iddyn nhw, unrhyw ddiddordeb mewn dod o hyd i ddatrysiad fyddai o fudd i deithwyr a busnesau yn ogystal â'u staff, ac fyddai'n helpu i roi rheilffyrdd Prydain ar ben ffordd eto," meddai.
Ond mae Llywodraeth y DU yn dweud bod tâl gyrwyr trenau wedi "codi 39% ers 2011".
Diolchodd Andy Mellors, rheolwr gyfarwyddwr Avanti West Coast, i'w cwsmeriaid am eu "hamynedd a'u dealltwriaeth".
"Allwn ni ond ymddiheuro bod eu teithiau wedi cael eu hamharu gan fod aelodau ASLEF a'r RMT yn streicio yn ystod wythnos sy'n wyliau ysgol i nifer, a phan fo nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys rownd derfynol Cwpan yr FA yn cael eu cynnal," meddai.