大象传媒

Nyrsys yng Nghymru yn strecio am ddeuddydd arall

  • Cyhoeddwyd
streic tu allan i Bronglais
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd staff y tu allan i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth yn rhan o'r streic ddydd Mawrth

Bydd cannoedd o nyrsys ar draws Cymru ar streic eto ddydd Mawrth a dydd Mercher fel rhan o anghydfod gyda Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒 chyflogau ac amodau gwaith.

Fe fydd y streic yn digwydd rhwng 07:00 a 19:00 ar y ddau ddiwrnod.

Dyma'r trydydd tro i'r Coleg Nyrsio Brenhinol gynnal streic yng Nghymru, ar 么l gweithredu'n ddiwydiannol ddwywaith yn ystod mis Rhagfyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig" ond eu bod yn deall fod gan aelodau "deimladau cryfion".

Mae disgwyl y bydd y gweithredu yn cael effaith ar nifer sylweddol o wasanaethau.

Ond bydd gwasanaethau sy'n cynnal bywyd - fel unedau gofal dwys, gofal canser ac unedau brys i blant - yn cael eu diogelu rhag effeithiau'r streic.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma fydd y trydydd tro i'r Coleg Nyrsio Brenhinol gynnal streic yng Nghymru

Fe fydd lefelau staffio nyrsys ar wardiau cyffredinol ac unedau brys i oedolion yn debycach i'r hyn sy'n cael ei weld yn ystod shifft nos.

Ond bydd yr effaith fwyaf yn cael ei deimlo ar wasanaethau sydd fel arfer ond yn digwydd yn ystod y dydd, fel apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw.

Ni fydd gweithredu diwydiannol yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan am fod llai na'r trothwy cyfreithiol o 50% wedi pleidleisio yno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 10 o'r 12 undeb sy'n cynrychioli gweithwyr yn y sector wedi derbyn cynnig Llywodraeth Cymru

Mae nyrsys yng Nghymru yn dal i fod mewn anghydfod 芒 Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒 thal ac amodau gwaith, er bod 10 o 12 undeb sy'n cynrychioli staff fel nyrsys, ffisiotherapyddion a gweithwyr ambiwlans wedi derbyn y cynnig cyflog.

Y cynnig oedd 5% o godiad cyflog i'r staff iechyd perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a thaliad un-tro ychwanegol ar gyfer llynedd o rhwng 拢900 a 拢1,190.

O dan y drefn bresennol, gan fod mwyafrif yr undebau wedi cytuno i hynny, fe fydd nyrsys hefyd yn derbyn y taliadau ychwanegol er eu bod yn parhau i streicio.

Mae Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) Cymru yn dadlau fod ganddynt ddyletswydd i fwrw 'mlaen a gweithredu gan fod ei haelodau wedi gwrthod y cynnig o 53% i 47%.

Ar y pryd mynnodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan mai dyma oedd y cynnig "gorau" a "therfynol".

Ond mae'r RCN yn mynnu fod angen i'r llywodraeth fynd ymhellach er mwyn atal mwy o weithredu.

'Mwy nag arian'

"Dyw'r undebau eraill ddim yn streicio oherwydd nid undebau nyrsys ydyn nhw," medd Katherine Davies - un o drefnwyr y streic.

"Ni'n dal i feddwl fod cefnogaeth y cyhoedd gyda ni a'u bod nhw'n deall fod hyn yn ymwneud 芒 mwy nag arian.

"Dwi'n meddwl mai amodau gwaith yw'r peth mwyaf pwysig i ni ar hyn o bryd.

"Ry'n ni wedi cael codiad yn ein cyflogau ond dyw e ddim yn ddigon 芒 beth y'n ni wedi'i golli dros y blynyddoedd.

"Ond amodau yw'r broblem nawr, a sut i ddenu pobl i fod yn nyrsys ac i weithio yn y gwasanaeth iechyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Katherine Davies ei bod yn credu fod y cyhoedd yn "deall fod hyn yn ymwneud 芒 mwy nag arian"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er ein bod yn cydnabod cryfder teimladau ymhlith aelodau, rydym yn siomedig bod streicio yn parhau er gwaethaf y penderfyniad ar y cyd i dderbyn y cynnig cyflog.

"Rydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd, undebau a phartneriaid i sicrhau bod gofal achub bywyd a chynnal bywyd yn cael ei ddarparu yn ystod y gweithredu diwydiannol, fod diogelwch cleifion yn cael ei gynnal a bod cyn lleied o darfu 芒 phosibl.

"Ond mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod gweithredu diwydiannol ac ystyried yn ofalus pa weithgareddau rydyn ni'n cymryd rhan ynddyn nhw.

"Dylai unrhyw un sydd mewn perygl uniongyrchol ffonio 999 ac rydym yn annog pobl i ddefnyddio gwefan GIG 111 Cymru i gael cyngor iechyd lle nad oes bygythiad uniongyrchol i fywyd, neu siarad 芒 fferyllydd, meddyg teulu neu uned m芒n anafiadau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Eluned Morgan eu bod nhw'n gwneud popeth i geisio dod o hyd i arian i dalu am godiad cyflog i nyrsys

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod Llywodraeth Cymru wedi "symud y nefoedd a'r ddaear" i geisio dod o hyd i arian ychwanegol i ddod 芒'r streiciau i ben.

"Ni wedi cael trafodaethau am fisoedd ar fisoedd, a ni'n deall bod rhwystredigaeth ymysg gweithwyr y GIG," meddai.

"Dyna pam ni wedi symud y nefoedd a'r ddaear i ddod o hyd i arian ychwanegol i'r cyllid.

"Rydyn ni wedi rhoi cynnig o ystyried y cyfyngiadau ariannol rydyn ni'n gweithio o dan.

"Mae gennym ni lawer o gydymdeimlad am eu sefyllfa, y broblem yw nad oes mwy o arian gyda ni."