大象传媒

Cyhoeddi cyngherddau prif bafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CyngherddauFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyngerdd Y Curiad: Ddoe, Heddiw, Fory fydd ar y nos Sadwrn agoriadol, a'r Gymanfa Ganu ar y nos Sul

Gyda deufis i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd, mae'r trefnwyr wedi cyhoeddi manylion y cyngherddau fydd yn cael eu cynnal ym mhrif bafiliwn y Brifwyl eleni.

Ar y nos Sadwrn bydd C么r Gwerin yr Eisteddfod a gr诺p gwerin Pedair yn agor yr wythnos gyda chyngerdd Y Curiad: Ddoe, Heddiw, Fory.

Yn ymuno 芒 Pedair - sef Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym a Si芒n James - bydd casgliad o artistiaid amlwg fel Gwilym Bowen Rhys, Elidyr Glyn, Einir Humphreys a Twm Morys.

Yn 么l yr arfer, y Gymanfa Ganu fydd yn y pafiliwn mawr ar y nos Sul, gyda'r arweinydd profiadol Pat Jones wrth y llyw ac Ilid Anne Jones yn organydd.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sioe Cracharela fydd nos Fawrth a Nos Fercher, cyn Gig y Pafiliwn nos Iau

Nos Fawrth a nos Fercher bydd criw Cabarela yn dychwelyd i lwyfan y pafiliwn gyda sioe newydd Cracharela.

Dywedodd y trefnwyr fod Cabarela yn cynnal dwy noson eleni "oherwydd y galw mawr am docynnau" i'w gweld y llynedd.

Cyn i'r cystadlu gael blaenoriaeth yn y prif bafiliwn nos Wener a nos Sadwrn, Gig y Pafiliwn fydd yno nos Iau.

Yng nghwmni Huw Stephens a Cherddorfa'r Welsh Pops, bydd y gig eleni yn rhoi llwyfan i "rai o artistiaid mwyaf cyffrous y sin yng Nghymru", fel Dom a Lloyd, Mr Phormula, Izzy Rabey ac E盲dyth a skylrk.

'Cyhoeddiad cyffrous' am Na, Nel!

Ychwanegodd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain: "Bydd nifer o bobl wedi clywed si bod Na, Nel! yn dychwelyd i'r Eisteddfod eleni - gwyliwch allan am gyhoeddiad cyffrous am sioe i'r teulu cyfan yn fuan.

"A byddwn ni hefyd yn cyhoeddi ein hamserlenni ni dros yr wythnosau nesaf, gyda chyfle i bawb ddechrau paratoi ar gyfer yr wythnos a chynllunio lle i fynd yn ystod y dydd - ac yn hwyr i'r nos."

Bydd tocynnau ar gyfer cyngherddau'r pafiliwn yn mynd ar werth ddydd Gwener, 16 Mehefin - pan fydd 50 diwrnod i fynd tan ddechrau'r Eisteddfod.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan ger Pwllheli rhwng 5 a 12 Awst.