大象传媒

Cory Hill yn gadael carfan Cymru cyn Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Cory HillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cory Hill wedi ennill 32 cap dros Gymru

Mae Cory Hill wedi cyhoeddi ei fod am dynnu yn 么l o garfan ymarfer Cwpan y Byd Cymru ar 么l arwyddo i glwb anhysbys.

Roedd y clo 31 oed yn rhan o gynlluniau Warren Gatland ar gyfer Cwpan y Byd Ffrainc, yn dilyn newidiadau yn rheolau argaeledd Undeb Rygbi Cymru (URC).

Ond mae Hill wedi tynnu allan er mwyn arwyddo cytundeb gyda chlwb newydd.

Dywedodd: "Rwy'n siomedig i adael y garfan, ond mae cyfle wedi codi a dwi angen edrych ar 么l fy nheulu."

Hill fydd y pedwerydd chwaraewr i adael carfan Warren Gatland yn dilyn ymddeoliadau Alun Wyn Jones, Justin Tipuric a Rhys Webb.

Mae'r prop Rhys Carr茅 hefyd wedi cael ei ryddhau o'r garfan, wedi i URC ddweud nad oedd wedi cyrraedd targedau ffitrwydd penodol cyn Cwpan y Byd.

Enillodd Hill Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019 a 2021, ond mynnodd oedd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol, a'i fod dal yn gobeithio chwarae dros Gymru yn y dyfodol er na fydd yn teithio i Ffrainc yn yr hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Hill ei gap diweddaraf i Gymru yn 2021

Mewn datganiad gafodd ei rannu gan Undeb Rygbi Cymru, dywedodd Hill: "Rwy'n dymuno'r gorau i'r bechgyn yng Nghwpan y Byd, ac rwy'n gobeithio bod 'n么l yng nghrys Cymru yn y dyfodol."

Enillodd Hill 32 cap dros Gymru cyn symud i glwb y Yokohama Canon Eagles yn Japan, ac felly doedd e ddim yn gymwys i gynrychioli ei wlad o ganlyniad i'r rheol 60 cap i chwaraewyr tramor.

Ers hynny, mae'r rheol wedi newid i 25 cap, gan olygu ei fod ar gael i gael ei ddewis yng ngharfan ymarfer Cwpan y Byd.

Nawr mae'r sefyllfa wedi newid eto, gan ei fod wedi arwyddo gyda chlwb arall sydd eto wedi cael ei enwi.

Mae hefyd yn golygu bod Gatland wedi colli dau chwaraewr ail reng ers cyhoeddi'r garfan gychwynnol.