Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gweinidog: 'Cymru i barhau 芒 chynllun dychwelyd poteli'
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n parhau gyda chynlluniau i ychwanegu ffi ad-daladwy i boteli a chaniau, er i gynlluniau tebyg yn Yr Alban cael eu rhwystro gan Lywodraeth y DU.
Mae'r Cynllun Dychwelyd Ernes i fod yn dod i rym yng Nghymru mewn dwy flynedd, ond mae cynllun Yr Alban wedi cael ei ohirio'r wythnos hon ar 么l i Lywodraeth y DU ddweud nad oes modd cynnwys gwydr.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd y penderfyniad yn effeithio ar gynlluniau Cymru hefyd.
Ond mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James wedi dweud y bydd yn herio Llywodraeth y DU am eu penderfyniad.
'Lloegr sy'n wahanol'
Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio cynnwys poteli gwydr yn eu Cynllun Dychwelyd Ernes, gan ddweud wrth Lywodraeth yr Alban bod rhaid gwneud yr un peth yno er mwyn cael rheolau cyson ar draws y DU.
Pryderon ynghylch creu cymhlethdod i fusnesau oedd tu 么l eu penderfyniad i beidio cynnwys gwydr, medden nhw.
Ond dywedodd Ms James: "Lloegr sy'n wahanol fan hyn, nid Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae'n rhaid iddyn nhw ddeall hynny."
Dan y cynlluniau yng Nghymru byddai pobl yn cael arian yn 么l os oedden nhw'n dychwelyd poteli diodydd gwag wedi'u gwneud o blastig, gwydr, dur neu alwminiwm.
Dywedodd Ms James y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno'r cynllun mewn dwy flynedd.
"Nid ydym yn meddwl bod angen caniat芒d Llywodraeth y DU arnom ni i wneud hynny," meddai.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y cyd gyda Llywodraeth y DU a Gogledd Iwerddon wrth ddylunio'r cynlluniau.
Mewn neges ar Twitter dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fod Ms James "yn amlwg ddim wedi siarad gyda bragwyr annibynnol Cymreig sy'n dweud y byddai [cynnwys gwydr] yn ergyd i'w busnesau".
"Mae Llafur yn caru gwneud pethau yn wahanol (ac yn waeth) yng Nghymru jyst er mwyn gwneud," ychwanegodd.
'Rhy gymhleth i fusnesau'
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod "tyfu'r economi a chefnogi busnesau'n flaenoriaeth" iddyn nhw.
"Dyna pam rydyn ni eisiau sicrhau cysondeb ar draws y DU gyda'r cynllun dychwelyd poteli, gan sicrhau system syml ac effeithiol i fusnesau a chwsmeriaid," meddai.
"Rydyn ni wedi gwrando ar y diwydiant. Mae busnesau wedi bod yn glir y byddai ychwanegu gwydr at gynllun dychwelyd poteli yn ei gwneud hi'n llawer mwy cymhleth i dafarndai a bwytai, cynyddu'r baich ar fusnesau bach, a chreu mwy o anghyfleustra i gwsmeriaid."
Ychwanegodd y byddan nhw'n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru cyn i'r cynllun ddod i rym ym mis Hydref 2025.