Liam Williams i adael Caerdydd am Japan
- Cyhoeddwyd
Mae cefnwr Cymru a'r Llewod, Liam Williams, i adael Caerdydd ar 么l sicrhau trosglwyddiad i Japan.
Bydd Williams, 32, yn cael ymuno 芒'r clwb o Japan - sydd heb ei enwi eto - yn dilyn Cwpan y Byd os bydd yn cael ei ddewis ar gyfer y gystadleuaeth.
Er ddim ond hanner ffordd trwy gytundeb dwy flynedd, roedd Caerdydd yn awyddus i leihau eu bil cyflogau wrth wynebu toriad cyllideb o 拢2m ar gyfer y tymor nesaf.
Wedi ennill 84 o gapiau i Gymru, mae Williams yn parhau'n gymwys ar gyfer y t卯m cenedlaethol ac mae disgwyl iddo fod yn rhan o'u cynlluniau ar gyfer Cwpan y Byd.
Fodd bynnag, deellir bod y symudiad yn dibynnu ar basio archwiliad meddygol llym oherwydd ei hanes hir o anafiadau.
Williams yw'r chwaraewr rhyngwladol diweddaraf i adael rygbi rhanbarthol yng Nghymru.
Bydd Joe Hawkins (Caerwysg), Cory Hill (Japan), Rhys Webb (Biarritz), Tom Francis (Provence), Ross Moriarty (Brive), Will Rowlands (Racing 92) a Dillon Lewis (Harlequins) yn chwarae i dimau y tu allan i Gymru y tymor nesaf.
Mae Leigh Halfpenny, Gareth Anscombe a Rhys Patchell hefyd yn wynebu dyfodol ansicr ar 么l cael eu rhyddhau gan eu timau rhanbarthol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023