Gemau rhagbrofol Euro 2024: Cymru 2-4 Armenia
- Cyhoeddwyd
Roedd yna siom i d卯m p锚l-droed Cymru nos Wener yng ngemau rhagbrofol Euro 2024 wedi iddyn nhw golli adref yn erbyn Armenia.
Roedd yna gyfnod da i Gymru ar y dechrau ac o fewn llai na 10 munud roedd Daniel James wedi sgorio wedi croesiad ardderchog gan Brennan Johnson - chweched g么l Dan James i Gymru.
Yn sicr roedd Cymru yn hyderus wedi dechrau cystal a Chymru 71 safle yn uwch nag Armenia yn rhestr detholion y byd ond wedi 19 munud roedd yr ymwelwyr yn gyfartal wedi i foli Lucas Zelarayan fynd mewn i'r g么l.
Wedi hanner awr o chwarae sioc a mudandod yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i Armenia sgorio eto - Grant-Leon Mamedova y tro hwn wedi cic nerthol gan y capten Eduard Spertsyan o gryn bellter.
Doedd Cymru ddim am ildio ac roedd Harry Wilson ar d芒n ond yn annisgwyl Armenia oedd ar y blaen ar yr egwyl o ddwy g么l i un.
Ar ddechrau'r ail hanner roedd yna ddigon o ysbryd cystadleuol yn nh卯m Cymru ond y cochion yn methu 芒 sgorio.
Croesawu Brooks
Wedi 66 munud cefnogwyr Armenia oedd yn dathlu eto wedi iddyn nhw sgorio y drydedd g么l.
Digon digalon oedd cefnogwyr Cymru ond roedd yna groeso cynnes i David Brooks wrth iddo gamu i'r cae ar 么l gwella o ganser ac yn fuan wedyn newyddion gwell i Gymru wedi g么l gan Harry Wilson (2-3).
Ond doedd y Cymry ddim yn gorfoleddu am hir wrth i Lucas Zelarayan sgorio ei ail g么l ac roedd yr ymwelwyr ddwy g么l ar y blaen unwaith eto (2-4).
I roi halen ar y briw roedd yna gerdyn coch i Kieffer Moore - roedd Cymru lawr i 10 dyn ac roedd anhrefn ar y cae.
Doedd yna ddim sg么r pellach i'r naill d卯m na'r llall er bod Cymru wedi cael rhediad da ar y b锚l.
Roedd hi'n noson siomedig felly i Gymru wedi iddyn nhw ildio pedair g么l adref - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers 2006.
Bydd g锚m nesaf Cymru nos Lun a hynny oddi cartref yn ninas arfordirol Samsun yn Nhwrci.
Mae angen gorffen yn y ddau safle uchaf yn y gr诺p er mwyn bod yn saff o gyrraedd Euro 2024 yn Yr Almaen.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2023