Jessica Robinson: 'Profiad bythgofiadwy' Canwr y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae cantores o Gymru yn dweud fod cystadlu yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y 大象传媒 yn brofiad "bydd yn ei chofio am byth".
Jessica Robinson, y soprano 32 oed o Landysilio, Sir Benfro, oedd y Gymraes gyntaf i gyrraedd y rownd derfynol mewn 38 o flynyddoedd.
Adolfo Corrado o'r Eidal enillodd y brif wobr gyda Julieth Lozano Rolong o Colombia yn cipio gwobr y gynulleidfa.
Ond gyda dros 500 o gantorion wedi ymgeisio am le yn y gystadleuaeth eleni, roedd Jessica yn un o ond 16 o gantorion i gyrraedd y rownd derfynol.
'Pawb yn canu gyda fi'
Yn siarad ar raglen Sh芒n Cothi 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Jessica: "Alla'i ddim rhoi e mewn i eiriau, roeddwn mor browd i gerdded mas ac yn teimlo fod pawb yn canu gyda fi.
"Roedd e mor lovely, nes i joio fe lot yn fwy neithiwr na'r rownd gyntaf, roedd dal nerves 'na ond erbyn neithiwr ro'n i wedi gallu joio bach yn fwy.
"We'n i mor hapus i fod lan gyda'r cantorion 'na, yn canu yn y ffeinal, bydd e'n brofiad fyddai'n gofio am byth."
Yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu, mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac yn denu cantorion o bob cwr o'r byd.
'Gadael marc fel cantores'
Ychwanegodd Jessica: "Fi'n teimlo ges i good go arno fe neithiwr, roedd 'na just egni yn y neuadd ac o'n i'n teimlo 'fi'n really joio hwn'"
"Roedd e'n gymaint o sioc... do'n i heb ffactro mewn dros yr wythnosau diwetha' mod i am gyrraedd y ffeinal, o'n i just moyn gwneud jobyn da a gadael fy marc fel cantores o Gymru.
"O'n i'n benderfynol o joio, roedd e'n once in a lifetime."
Dechreuodd Jessica ei gyrfa'n ifanc, gan gystadlu ar lwyfannau amryw eisteddfodau.
Erbyn heddiw, mae wedi perfformio i gynulleidfaoedd ar draws y byd gan gynnwys yn Efrog Newydd, China, Y Swistir a'r Eidal.
Aeth ymlaen i ddweud: "Ar ddechre'r wythhnos dywedodd Kiri Te Kanawa wrth y cystadleuwyr i gyd, 'You will never experience nerves like this again', wel dyna ffordd i groesawu ni gyd!
"Ond o'dd pob un o'r cantorion yn dweud yr un peth... sa'i 'di teimlo nerfau fel 'ni.
"Fi 'di joio pob eiliad ond dwi 'di dihuno lan bora 'ma yn ddigon hapus nawr yn mynd n么l i fywyd a ddim yn gorfod poeni am ymarfer pob dydd!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2023