Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Protestio dros gartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty
Mae tua 100 o bobl wedi gorymdeithio mewn protest dros gynlluniau i droi gwesty ger Llanelli yn lety i geiswyr lloches.
Daeth y gr诺p at Westy Parc y Strade yn Ffwrnes gan ganmol staff a oedd yn eu dagrau gan bod eu swyddi o dan fygythiad.
Bydd hyd at 241 o bobl yn cael eu symud mewn i'r gwesty 77 ystafell ar 10 Gorffennaf.
Dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod yn "gwrando ar farn y cymunedau lleol".
'Wedi colli rheolaeth'
Trefnwyd yr orymdaith gan Bwyllgor Gweithredu Ffwrnes, gyda Steve Williams o'r gr诺p yn annerch y dorf ynghyd ag arweinydd Cyngor Sir G芒r, Darren Price.
"Nid wyf yn amau'r hawl sylfaenol honno i geisio lloches i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth," meddai'r Cynghorydd Price.
"Y pryder sydd gen i yw'r ffordd y mae llywodraeth y DU yn mynd ati i gyflawni eu dyletswydd, dyna'r broblem.
"Maent wedi colli rheolaeth ar y broses... ar hyn o bryd mae 160,000 yn aros i'w cais gael ei brosesu.
Dywedodd hefyd y gallai perchnogion y gwesty "roi stop ar hyn ar unwaith."
Mae ceisiwr lloches yn rhywun sy'n ffoi o'i famwlad, yn mynd i wlad arall ac yn gwneud cais am yr hawl i amddiffyniad rhyngwladol ac i aros yn y wlad honno.
Darperir tai, ond ni all ceiswyr lloches ddewis ble mae'r t欧.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau byddai pobl yn rhydd i fynd a dod o'r gwesty.
'Effaith ar gymuned mor fach'
Yn ystod y brotest gofynnodd Steve Williams i'r staff ddod allan o'r gwesty. Fe wnaethon nhw sefyll o flaen y gwesty wrth i'r dyrfa gymeradwyo - roedd rhai mewn dagrau.
Roedd gwesteion hefyd yn dal i aros yn y gwesty gyda rhai yn gwylio'r brotest.
Wrth siarad wedyn fe ddywedodd Mr Williams, a oedd yn arfer gweithio yn y gwesty yn ei arddegau, mai hwn oedd "prif westy Sir G芒r".
"Mae pobl yn sylweddoli bod yna staff yno sydd wedi gwneud llawer o ymdrech," meddai.
"Fy nealltwriaeth i yw o'r seithfed eu bo' nhw wedi canslo unrhyw archebion... dydi'r gwesty ddim ar gael tan Mawrth 2025.
"Allwch chi ddychmygu'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar gymuned mor fach?"
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Rydym wedi bod yn glir bod y defnydd o westai i gartrefu ceiswyr lloches yn annerbyniol - ar hyn o bryd mae dros 51,000 o geiswyr lloches mewn gwestai sy'n costio 拢6 miliwn y dydd i drethdalwyr y DU.
"Rydym yn cysylltu ag awdurdodau lleol cyn gynted 芒 phosib pryd bynnag y caiff safleoedd eu defnyddio ar gyfer llety lloches, gan weithio i sicrhau bod y trefniadau'n ddiogel i drigolion gwestai a phobl leol.
"Rydym yn gweithio'n agos gan wrando ar farn y cymunedau lleol a lleihau effaith safleoedd, gan gynnwys darparu diogelwch ar y safle a chymorth ariannol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cefnogi'r uchelgais o ehangu gwasgariad ceiswyr lloches yng Nghymru ond rhaid bwrw ymlaen 芒 chynlluniau gyda phartneriaid lleol allweddol gan roi ystyriaeth ofalus i gydlyniant cymunedol ac integreiddio effeithiol.
"Rydym yn disgwyl i'r Swyddfa Gartref weithio gyda ni a llywodraeth leol i chwilio am ffordd adeiladol ymlaen. Mae'n hanfodol bod y Swyddfa Gartref yn rhoi eglurder llawn i sicrhau fod y cynlluniau'n hyfyw.
"Mae ein gweledigaeth Cenedl Noddfa yn nodi sut rydym am chwarae rhan lawn yng nghynlluniau lloches ac adsefydlu'r DU a darparu'r cymorth gorau posibl i'r rhai sy'n cyrraedd."