Gwrthdrawiad Ysbyty Llwynhelyg: Merch fach wedi marw

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Mabli Cariad Hall ei chludo i Gaerdydd ac yna i Fryste, lle bu farw o'i hanafiadau ddydd Sul

Mae merch fach wyth mis oed wedi marw ychydig ddyddiau ar 么l i gar daro pobl ger ysbyty yn Sir Benfro.

Cafodd Mabli Cariad Hall ei hedfan o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd i Gaerdydd ar 么l iddi hi a cherddwr arall gael eu taro gan gar ddydd Mercher.

Fe gafodd ei chludo i Ysbyty Plant Bryste, lle bu farw o'i hanafiadau yn oriau m芒n y bore ddydd Sul.

Mewn teyrnged dywedodd ffrind i'r teulu fod Mabli yn blentyn "pert, hapus, fyddai o hyd yn gwenu".

Mae gyrrwr y car - BMW gwyn - yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond sydd ddim yn peryglu bywyd.

Mae teithiwr o'r BMW a'r cerddwr arall a gafodd ei daro eisoes wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Disgrifiad o'r llun, Mae teyrngedau wedi'u gadael i Mabli ger safle'r gwrthdrawiad y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd ffrind i'r teulu, Sin茅ad Morris, mai gyda "chalon drom" y bu'n rhaid cyhoeddi fod Mabli wedi dioddef "anafiadau a oedd yn rhy ddifrifol i'w gwrthdroi".

"Er diwrnodau o gryfder aruthrol gan Mabli, croesodd yn heddychlon dros y bont enfys ym mreichiau cariadus Gwen a Rob yn oriau m芒n ddydd Sul," meddai.

Ychwanegodd Ms Morris fod y teulu am "fynegi eu diolch mwyaf i'r gweithwyr iechyd ymroddedig a fu'n rhan o ofal Mabli."

Mae ymgyrch codi arian eisoes wedi casglu dros 拢20,000 i'r teulu.

Disgrifiad o'r llun, Roedd BMW gwyn yn rhan o'r gwrthdrawiad

Dywedodd dirprwy brif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yr Athro Phil Kloer fod y bwrdd wedi eu "tristau'n ofnadwy" gan farwolaeth Mabli, a'u bod yn cydymdeimlo 芒'r teulu.

"Mae effaith y gwrthdrawiad wedi'i deimlo ar draws ein teulu yn Hywel Dda ac mae'r bwrdd iechyd yn gweithio i gefnogi cleifion, ymwelwyr a staff oedd yn bresennol ar y pryd," meddai.

"Diolch i'n staff a sefydliadau eraill fu'n helpu gyda chymaint o dosturi, ymroddiad ac arbenigedd, ac i'n cymuned am y gefnogaeth."

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth, a bod y teulu yn derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.