Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
拢700,000 i droi tri thafarn yng Nghymru'n rai cymunedol
Mae mentrau sy'n gobeithio troi tri thafarn yng Nghymru yn rai cymunedol wedi cael gwybod y byddan nhw'n rhannu bron i 拢700,000 fel rhan o gynllun ffyniant bro.
Bydd prosiectau yng Nghymru yn derbyn cyfanswm o 拢1.44m fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU, sydd 芒'r nod o helpu grwpiau cymunedol i "gymryd perchnogaeth o sefydliadau lleol".
Yn Sir Benfro bydd y Cross Inn yng Nhgas-lai yn derbyn 拢244,250, tra bydd Tafarn Crymych Arms yn derbyn 拢210,000.
Bydd gwesty'r Radnor Arms ym Maesyfed, Powys yn derbyn 拢240,000 er mwyn "adnewyddu'r adeilad yn dafarn gymunedol."
Nod grwpiau lleol yw prynu'r tafarndai, sydd un ai wedi cau neu'n wynebu cau, a'u hatgyweirio a'u hailagor fel tafarndai cymunedol.
Mae'r cynllun yng Nghrymych yn cael ei gydlynu gan y clwb p锚l-droed lleol, a gobaith y Cynghorydd Cris Tomos, sydd hefyd ynghlwm 芒'r fenter, yw y gall ailagor mor gynnar 芒'r haf hwn.
"O'dd hi'n dipyn o sioc i godi bore 'ma a chael yr e-bost bod cadarnhad o 拢210,000," meddai ar Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru.
"Mae'n golygu dipyn oherwydd o'dd rhaid i ni godi arian cyfatebol - matched funding - o 拢50% yn erbyn hwn, felly mae'n dda i weld bod pobl leol wedi bwrw ati, casglu'r arian, talu am gyfranddaliadau yn y fenter.
"Nawr y'n ni'n cael yr arian cyfatebol, felly mae'n golygu bo' ni'n medru bwrw 'mlaen i brynu'r dafarn, sydd wedi bod ar gau ers blwyddyn a hanner, a byddwn ni nawr yn edrych i benodi rheolwr.
"Beth sy'n gr锚t gyda chwmni cydweithredol fel hyn yw mai pobl leol sydd yng ngofal y peth, pobl leol sy'n penderfynu be' sy'n digwydd."
Ychwanegodd y bydd y safle yn ganolfan ar gyfer y clwb p锚l-droed, ac mai'r gobaith yw denu rhagor o ddigwyddiadau yno.
"Ni moyn agor e fel tafarn gymunedol y pentref, a hefyd bod e fel hwb i bobl ddod i gynnal digwyddiadau, gwersi Cymraeg, pethau'n ymwneud 芒 datblygu chwaraeon, a lles meddwl.
"Felly mae'n gyffrous, a gobeithio allwn ni gael y lle wedi agor erbyn canol yr haf ar gyfer y tymor p锚l-droed y flwyddyn nesaf.
"Ma' rywfaint o waith adnewyddu. Ni'n torri trwyddo ambell i wal, ond [y gobaith yw] ailagor erbyn diwedd mis Awst fel ein bod ni'n gallu masnachu."
Prosiectau eraill
Tri phrosiect arall yng Nghymru fydd hefyd yn derbyn cyllid yw:
- Neuadd Les Pendyrus yn Rhondda Cynon Taf, lle gwnaed cyhoeddiad carfan Cwpan y Byd Cymru y llynedd - 拢200,000
- Hwb Cymunedol Tabernacl Treforys yn Abertawe - 拢250,000
- The Fern Partnership er mwyn datblygu cyfleuster i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf - 拢300,000