Y Seintiau Newydd a Gwion Dafydd yn barod am her Ewrop

Ffynhonnell y llun, CBDC/Lewis Mitchell

Disgrifiad o'r llun, Sgoriodd Gwion wyth g么l mewn 14 g锚m gynghrair i'r Seintiau y tymor diwethaf
  • Awdur, Aled Williams
  • Swydd, Chwaraeon 大象传媒 Cymru

Mae pencampwyr Cymru y Seintiau Newydd yn dechrau ar ymgyrch arall yn Ewrop nos Fercher yn Sweden.

Bydd t卯m Craig Harrison yn wynebu BK Hacken yn Gothenburg yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr nos Fercher.

Ac mae'r ymosodwr 18 oed Gwion Dafydd yn gobeithio cael ei brofiad cyntaf o chwarae yn Ewrop.

Fe gafodd y chwaraewr, ymunodd 芒'r clwb o Gaernarfon, anaf wrth baratoi ar gyfer dechrau'r tymor diwethaf.

"Nes i fethu Ewrop i gyd ond ro ni'n ffit ar gyfer y tymor iawn," meddai.

"Y mwya' o sesiynau ges i fewn ges i fwy o hyder a gwneud mwy o argraff ar Craig [Harrison].

"Bob wythnos wedyn roedd Craig yn fy newis i'r sgwad ac os oeddwn i yn ddigon lwcus mi ro' ni'n dod on.

"Pan oeddwn i'n dod on mi ro'n i'n sgorio a gwneud argraff dda iddo fo."

'Anffodus'

Sgoriodd Gwion wyth g么l mewn 14 g锚m gynghrair wrth i'r Seintiau ennill Uwch Gynghrair Cymru am y 15fed tro y tymor diwethaf.

Roedd y Seintiau ymysg y detholion pan gafodd yr enwau eu tynnu allan o'r het fis diwethaf ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Ond roedd y rheolwr Craig Harrison yn cydnabod eu bod yn "anffodus" i fod yn wynebu pencampwyr Sweden.

Ffynhonnell y llun, cbdc/John Smith

Disgrifiad o'r llun, Chwaraewyr y Seintiau Newydd yn dathlu gyda thlws Uwch Gynghrair Cymru y tymor diwethaf

"'Da ni wedi mynd dros dipyn o bethau am y t卯m," meddai Gwion Dafydd.

"Maen nhw'n d卯m rili da a'r t卯m gorau fasa ni wedi cael allan [o'r het].

"Y ddwy wythnos ddiwethaf 'da ni wedi bod i ffwrdd yn chwarae gemau yn erbyn timau da, tua'r un safon 芒 nhw."

Mae paratoadau'r Seintiau wedi cynnwys gemau yn erbyn timau o Iwerddon - o'r Gogledd a'r Weriniaeth - Hamilton Academical a Chaerdydd.

Ond yn Hacken fe fyddan nhw'n wynebu t卯m sydd hanner ffordd drwy eu tymor nhw ac yn drydydd yn nhabl yr Allsvenskan - prif adran Sweden.

Dyma'r tro cyntaf i Hacken ymddangos yn y gystadleuaeth hon, er iddynt chwarae yn Ewrop o'r blaen.

'Sgorio mwy o goliau'

Hyd yn oed os bydd y Seintiau yn colli yn eu herbyn dros ddau gymal, bydd cyfle arall iddyn nhw yng Nghynghrair Cyngres Europa.

Uchelgais y clwb yw cyrraedd gemau gr诺p un o'r cystadlaethau Ewropeaidd ac ar lefel bersonol mae Gwion Dafydd yn gobeithio dod yn rhan mor rheolaidd 芒 phosib yn nh卯m y Seintiau.

"Dwi newydd signio contract newydd yma felly mae gennai ddwy flynedd arall," meddai.

"Sgorio mwy o goliau a cario 'mlaen be' dwi'n gwneud.

"Dwi'n mwynhau ymarfer pob dydd - dyna be' dwi 'di bod isho gwneud erioed - a dwi'n mynd i gario 'mlaen gwneud gobeithio."