Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Israddio D诺r Cymru wedi methiannau amgylcheddol
Mae cwmni d诺r mwyaf Cymru wedi cael ei israddio am yr ail flwyddyn yn olynol yn dilyn cynnydd yn yr achosion o lygredd.
Roedd D诺r Cymru yn gyfrifol am 89 achos o lygredd carthion yn 2022, gyda phump ohonynt wedi'u hystyried fel rhai ag "effaith arwyddocaol".
O ganlyniad mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi israddio sg么r y cwmni o dair i ddwy seren, gan nodi'r "angen i wella".
Mewn ymateb dywedodd D诺r Cymru eu bod yn "siomedig", gan gydnabod "nad oedd y perfformiad lle rydym eisiau iddo fod".
Mae pysgotwr wedi dweud fod y sefyllfa yn "warth", gan holi pam nad ydy cwmn茂au d诺r yn cael eu herlyn.
'Angen cymryd camau brys'
Llynedd cafodd D诺r Cymru ei israddio o fod yn gwmni pedair seren (yn arwain y diwydiant) i statws tair seren (da), yn dilyn adroddiad perfformiad amgylcheddol ar gyfer 2021.
Gwnaed y penderfyniad wedi i D诺r Cymru fod yn gyfrifol am 83 achos o lygredd yn ymwneud 芒 charthion, o'i gymharu 芒 77 y flwyddyn gynt.
Fis Ebrill fe gynyddodd y darparwr y bil cyfartalog i gwsmeriaid i 拢499 y flwyddyn - sef yr ail uchaf yng Nghymru a Lloegr.
Yn 么l adolygiad blynyddol diweddaraf CNC, a gafodd ei gyhoeddi fore Mercher, roedd llygredd wedi cynyddu 7% yn 2022, a nifer y digwyddiadau a gafodd effaith sylweddol wedi codi o dri i bump.
Mae perfformiad cwmni Hafren Dyfrdwy, sef y cyflenwr gwasanaethau d诺r yfed a d诺r gwastraff i rannau o ogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru, hefyd wedi ei adolygu ond nid yw'n cael ei sgorio gan fod yn gweithredu mewn ardal cymharol fach yng Nghymru.
Serch hynny, dywedodd CNC fod Hafren Dyfrdwy wedi "parhau eu perfformiad da ar ddigwyddiadau llygredd difrifol", gan adrodd dim yn 2022, a'u bod wedi lleihau nifer y digwyddiadau llygredd o wyth yn 2021 i bedwar yn 2022.
Dywedodd Clare Pillman, prif weithredwr CNC, ei bod yn "siomedig iawn" bod perfformiad D诺r Cymru wedi parhau i waethygu.
"Mae angen i gwmn茂au d诺r gymryd camau brys a pharhaus i wneud y newidiadau sydd eu hangen i fynd i'r afael 芒'r achosion llygredd sylweddol yr ydym yn eu gweld yn ein dyfroedd.
"Yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur, mae'r angen i weithredu nawr yn bwysicach nag erioed, wrth i'n rhwydwaith o garthffosydd sy'n heneiddio ddod dan fwy o bwysau.
"Heb fuddsoddiad digonol a fframwaith rheoli perfformiad cryf gan gwmn茂au d诺r, bydd yr amgylchedd yn parhau i dalu'r pris.
Yn ein cyfarfodydd gyda D诺r Cymru, rydym wedi bod yn eglur iawn yngl欧n 芒 pha welliannau y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni."
'Gwarth'
Dywedodd Hywel Morgan, sy'n bencampwr byd ar bysgota, fod y sefyllfa yn "warth" a bod D诺r Cymru "ddim yn haeddu hyd yn oed un seren".
"Does dim un afon yng Nghymru sy'n iawn i nofio ynddi.
"Ry'n ni fel pysgotwyr yn adrodd llygredd yn wythnosol a does dim byd yn digwydd am y peth.
"Mae'r ffeithiau a'r ffigyrau i gyd yno - mae pob gollyngiad yn cael ei nodi. Pam nad yw'r cwmn茂au hyn yn cael eu herlyn?"
Dywedodd llefarydd ar ran D诺r Cymru eu bod yn cymryd eu cyfrifoldeb amgylcheddol "o ddifrif", gan "gydnabod nad yw ein perfformiad lle rydym am iddo fod".
"Rydym yn gweithio'n ddiflino i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen, mewn amgylchiadau heriol, yn enwedig wrth i ni brofi mwy o dywydd garw ac amrywiadau hinsawdd eithafol.
"Mae'r newidiadau hyn yn cael effaith sylweddol a chynyddol ar ein seilwaith d诺r a d诺r gwastraff, gan brofi'n her i sut rydym yn darparu ein gwasanaethau."
Ymddiheuro am 'unrhyw niwed amgylcheddol'
Ychwanegon nhw: "Er i ni gofnodi pum digwyddiad llygredd difrifol ar gyfer 2022, o gymharu 芒 thair yn 2021, mae gennym yr ail lefel isaf o achosion o lygredd yn y diwydiant d诺r, gyda nifer y digwyddiadau llygredd wedi haneru dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
"Mae'n ddrwg gennym, fodd bynnag, am unrhyw niwed amgylcheddol yr ydym wedi'i achosi.
"Fis Mai fe wnaethom gyhoeddi ein Maniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru, yn amlinellu ein buddsoddiadau a'n hymrwymiadau i helpu i wella ansawdd d诺r afonydd."
Dywedodd y cwmni eu bod yn bwriadu buddsoddi 拢100m yn ychwanegol i wella ansawdd afonydd erbyn 2025, fel rhan o gynllun gwella gwerth 拢840m.
"Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol ac mae wedi helpu i sicrhau bod 44% o'n hafonydd yn cwrdd 芒 'statws ecolegol da' - o gymharu 芒 dim ond 14% yn Lloegr - a bod gennym tua thraean o draethau Baner Las y DU er mai dim ond 15% o'r arfordir sydd gennym."