Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynghrair y Pencampwyr: BK H盲cken 3-1 Y Seintiau Newydd
Mae'r Seintiau Newydd wedi cael eu trechu'n gyfforddus yng nghymal cyntaf eu rownd ragbrofol gyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Ar noson anodd yn Sweden, fe aeth pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru ar ei h么l hi'n gynnar yn erbyn BK H盲cken a threulio gweddill yr ornest yn ceisio gwrthsefyll pwysau'r t卯m cartref.
H盲cken oedd gryfaf o'r dechrau ac fe lwyddodd Ibrahim Sadiq i wasgu foli i mewn i'r postyn agosaf o ongl dynn ar 么l saith munud.
Roedd y Seintiau wedyn ddwy ar ei h么l hi o fewn llai na chwarter awr, wrth i groesiad ganfod Mikkel Rygaard mewn lle yn y cwrt cosbi i droi'r b锚l i gefn y rhwyd.
Rhoddwyd rhywfaint o obaith i'r t卯m o Groesoswallt wedi 32 munud, wrth i Declan McManus sgorio gyda'i ben o rediad a chroesiad Jordan Williams.
Ond bron yn syth cafodd H盲cken eu mantais o ddwy g么l yn 么l, wrth i gic rydd Even Hovland fynd yr holl ffordd drwy'r chwaraewyr yn y cwrt cosbi a sleifio i mewn ar y postyn pellaf.
Parhau wnaeth y pwysau yn yr ail hanner gydag ond amddiffyn cadarn, ychydig o lwc, ac arbediadau campus gan Connor Roberts yn achub y Seintiau Newydd rhag ildio rhagor.
Bydd y ddau d卯m yn wynebu ei gilydd yn yr ail gymal yng Nghroesoswallt nos Fawrth 18 Gorffennaf, gyda'r enillydd yn mynd drwyddo i ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
Bydd y t卯m sy'n colli, ar y llaw arall, yn disgyn i rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa, sef y gystadleuaeth drydedd haen.