Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Penderfyniadau anodd i ddod' medd y Prif Weinidog
Mae'r cyhoeddiad na fydd prydau ysgol ar gael am ddim ar gyfer plant cymwys dros wyliau'r haf yn esiampl o'r "penderfyniadau anodd" sy'n wynebu Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn nesaf, yn 么l y Prif Weinidog.
Mae penderfyniad y weinyddiaeth i ddileu'r polisi wedi cael ei feirniadu gan y gwrthbleidiau a rhai gwleidyddion Llafur.
Rhybuddiodd Mark Drakeford hyd yn oed petai arian yn dod i'r amlwg "trwy wyrth ar y foment hon", y byddai'n rhy hwyr i wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer gwyliau'r haf yma.
Cymru oedd gwlad cyntaf y DU, yn Ebrill 2020, i gynnig prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau i blant o aelwydydd incwm isel.
Fe gafodd y polisi ei gyflwyno mewn ymateb i'r argyfwng Covid, a'i ehangu tu hwnt i'r pandemig tan ddiwedd y gwyliau hanner tymor diwethaf.
Nawr mae gweinidogion yn dweud y byddai'n costio 拢15m i ymestyn y cynllun tan ddiwedd y gwyliau haf a dyw'r arian hwnnw ddim ar gael.
Yn gynharach yn yr wythnos, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, bod Plaid Cymru wedi gwrthod rhyddhau'r arian ar gyfer y prydau o'r gyllideb sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y cytundeb cydweithio rhwng y blaid a Llafur Cymru yn y Senedd.
'Rhaid talu staff, agor ceginau...'
Dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n trafod yn rheolaidd gydag arweinwyr Plaid Cymru yr arian ry'n ni wedi glustnodi ar gyfer y cytundeb cydweithio, ac mae wedi ei neilltuo ar gyfer y pwrpasau hynny.聽
"Hyd yn oed pe tasai arian ym ymddangos trwy wyrth ar y foment yma, ni fyddai modd iddo wneud pethau yn ystod y gwyliau ysgol yma.聽
"Mae'n rhaid i chi dalu staff, agor ceginau, archebu bwyd o flaen llaw. Ni ellir gwneud hynny ar gyfer y gwyliau yma."聽
Dywedodd Plaid Cymru fod maint yr arian sydd wedi ei glustnodi ar gyfer ymrwymiadau'r cytundeb cydweithio "yn ganran fach iawn o gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru".
Fe alwodd yr arweinydd, Rhun ap Iorwerth, ar y llywodraeth i wneud tro pedol "hyd yn oed mor hwyr yn y dydd 芒 hyn".
"Mae'n rhaid i lywodraeth Cymru edrych ar beth yw ei blaenoriaethau o ran gofalu am y plant tlotaf," meddai.
"Does dim byd yn fwy o flaenoriaeth, a thra ei bod hi'n hwyr yn y dydd, mae hyn mor bwysig fel bod yn rhaid i'r llywodraeth fod yn edrych ym mhob cornel o'i chyllideb i weld beth ellir ei wneud."
Blwyddyn 'heriol'
Dywedodd Mr Drakeford wrth y rhaglen hefyd bod y flwyddyn nesaf yn mynd i fod yn "heriol iawn" a bod cyllideb y llywodraeth yn werth 拢900m yn llai o ran yr hyn mae'n bosib i'w brynu erbyn hyn na phan gyhoeddwyd ei maint.
"Mae'n golygu y bydd yna rai penderfyniadau anodd iawn, iawn am sut ydyn ni'n llwyddo i gario ymlaen i wneud y pethau ry'n ni mo'yn eu gwneud gyda'r arian sydd gyda ni," meddai.
"Ac mae'r 拢15m yna ar gyfer prydau ysgol am ddim yn y gwyliau yn arwydd cynnar o ba mor heriol y bydd y penderfyniadau hynny."
Fe gafodd y mater ei drafod ar yr rhaglen hefyd gydag AS Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb.
Yn ystod y pandemig fe wnaeth Mr Crabb wrthwynebu penderfyniad Llywodraeth y DU i stopio cynnig prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol.
"Mae'n mynd i fod yn wyliau ysgol anodd," dywedodd. "Pe tasai yna ffordd i ganfod adnoddau i helpu teuluoedd a phlant trwy gyfnod y gwyliau yna yn amlwg mi fyswn i'n cefnogi hynny," meddai.
Ond fe ychwanegodd Mr Crabb ei fod yn "cydymdeimlo rhywfaint" gyda Llywodraeth Cymru o ystyried yr heriau ariannol sydd o'u blaenau.