Ateb y Galw: Gwenllian Ellis
- Cyhoeddwyd
Gwenllian Ellis oedd enillydd categori Barn y Bobl yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni am ei chyfrol Sgen I'm Syniad - Snogs, Secs, Sens.
Yr awdures sy'n wreiddiol o Bwllheli ond sydd bellach yn byw yn Llundain sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
'Sion Corn' aka Mam ac Yncl Alan yn cerddad fyny grisiau wedi meddwi a deffro fi! Shocking!!! Diolch byth es i'n syth n么l i gysgu a ddim meddwl gormod am y peth.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Yr ardd yng Ngwynfryn, ble ces i fy magu. Mae gen i gymaint o atgofion melys yn yr ardd 'na.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae 'na lawer un - nosweithiau yng ng诺yl Green Man o dan y s锚r, nosweithiau yn bloeddio canu yn 'Steddfod, Sesiwn Fawr, gigiau amryw, priodasau, lansiadau Sgen i'm Syniad ym Mhwllheli a Chaerdydd, dinyr partis sy'n troi'n ddawnsio ar ben byrddau, barbeciws yn yr ardd, partis penblwydd a phrynhawniau diog sy'n troi yn nosweithiau gwallgo - ac mae nhw wastad wedi eu treulio yng nghwmni teulu a ffrindiau yn malu awyr am yr un pethau 'dan ni'n falu awyr amdanyn nhw ers blynyddoedd!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Ffyddlon, Mewnol, Hwyliog.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Mae gen i gymaint o straeon am Nain sy'n gwneud i mi chwerthin o hyd - 'da ni wastad yn dweud y byswn i'n medru ysgrifennu llyfr am ei straeon hithau!
Un tro ddaru ni gyd sylwi ar yr ogla putrid yn ei char hi, ag oedd o jesd yn gwaethygu wrth i amser fynd yn ei flaen, neb yn dalld be uffar oedd yr ogla'... turns out mi oedd hi wedi colli blydi fillet steak amrwd o dan y carped!
Oeddan ni'n rhoi lifft i'n cymdogion i'r ysgol yn y car a ddaru nhw ddechra cerddad i sbario gorfod eistedd yn y fath ogla. Lot o'r straeon yn involvio'r car - Toyota Yaris, turquoise. Dyna'r tip of the iceberg, mi oedd hi'n chwip o ddynes.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi'n codi cywilydd ar fy hun mor aml mae hi'n anodd dewis. Dwi dal i grinjio wrth feddwl am y tro nes i rechan yn ddamweiniol mewn arholiad mathemateg ym mlwyddyn pump a Mr Jones yn dweud 'bydd rhaid i ni sortio'r llygod 'na yn y to.'
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Dwi'n crio bob diwrnod am bob math o bethau - y newyddion, rhaglenni teledu, ffilmiau, llyfrau neu pan dwi'n gweld pethau trist neu hapus. Y Pisces yndda'i am wn i, dwi'n sensitif!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gor-feddwl bob dim a byw yn fy mhen rhan fwyaf o'r amser.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?
Mae pob un yn newid yn gymharol aml gen i, ond yr eiliad hon: Romantic Comedy gan Curtis Sittenfeld. Mae o'n lyfr ffraeth, dychanol, rhamantus, gafaelgar ac mae'r ddeialog yn arbennig ynddo.
Mae'r cymeriadau mor ffaeledig a byw, mi o'n i'n feddw ar y teimlad penysgafn 'na o ddisgyn mewn cariad ar ddiwedd y llyfr ac eisiau dweud wrth pawb i'w ddarllen!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Alison Hammond 'chos dwi'n meddwl ei bod hi'n iconic - mae hi'r balans perffaith o fod yn hileriys ond yn ofnadwy o feddylgar a sensitif ar yr un pryd.
Dwi'n meddwl y bysa hi'n medru rhoi pep talk go dda i mi a fysan ni'n cael noson wych. Mae hi yr ultimate hun.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n datgelu lot fawr am fy hun yn Sgen I'm Syniad, felly dwi am fod yn shameless a dweud wrth bawb i fynd i'w ddarllen a chadw mymryn bach o fy mywyd i'n gyfrinachol!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Fyswn i'n dechrau'r diwrnod hefo screening o Twilight, coffi cryf a chocolate twist o Marks and Spencers. Wedyn fyswn i'n treulio'r prynhawn yn coginio hefo glasiad o win yn fy llaw er mwyn cael gwledd enfawr efo'n nheulu a'm ffrindiau yn yr ardd yng Ngwynfryn, fysa'n sicr yn troi mewn i uffar o barti mawr hefo pawb yn dawnsio a chanu ar ben byrddau.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Ddaru'n chwaer i redeg marathon Llundain fis Ebrill, a dyma lun ohonom ar 么l iddi orffen. Mi o'n i mor prowd ohoni 'sa nghalon i 'di medru byrstio.
Roedd o'n ddiwrnod anhygoel a'r atmosffer yn drydanol, roedd o wir yn teimlo fel fod Lludain yn anghofio pa mor oeraidd ac amhersonol mae o'n medru bod gan fod pawb mor gefnogol o'i gilydd. Diwrnod gwych.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Taylor Swift - fyswn i'n licio cael insight i mewn i'w psyche - mashwr fod ei br锚n hi'n mynd can milltir yr awr a dwi jesd yn meddwl ei bod hi'n genius.
Ella fyswn i'n trio ail-weirio ei br锚n hi fel ei bod hi'n cadw'n glir o Matty Healy hefyd... fedra i ddim byw mewn byd lle ma Denise Welch yn fam-yng-nghyfraith i Taylor Swift, sori!
Hefyd o ddiddordeb: