Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor cymuned yng Ngwynedd wedi colli 拢9,000 i dwyll ariannol
Fe wnaeth cyngor cymunedol yng Ngwynedd golli 拢9,000 o arian cyhoeddus i dwyll ariannol, yn 么l cofnodion o ddechrau'r flwyddyn.
Mewn cofnodion cyfarfod o 9 Ionawr ar eu gwefan, dywedodd Cyngor Cymuned Harlech eu bod wedi colli'r arian drwy dwyll APP (authorised push payment).
Yn 么l gwefan HSBC, mae APP yn fath o dwyll lle mae troseddwr yn twyllo pobl i drosglwyddo arian iddyn nhw, yn hytrach na'i gymryd heb iddyn nhw sylwi.
Dywedodd y cyngor: "Mae'r trysorydd wedi adrodd bod y cyngor yn anffodus wedi colli 拢9,000 drwy sgam gan berson o'r enw Oluwafeni Odunuga - a wnaeth ddatgan ei fod yn mynd i wneud gwaith ymgynghorol i'r cyngor a bod angen taliad o flaen llaw."
Aeth y datganiad ymlaen i ddweud bod y trysorydd wedi cysylltu gydag adran dwyll eu banc, a'u bod wedi delio gyda'r mater ar y pryd.
Ychwanegodd clerc y cyngor, Annwen Hughes: "Mae'r mater yma wedi cael ei ddelio gyda gan y cyngor cymuned, ac ni fydd yn cael ei drafod ymhellach."