T卯m p锚l-droed Cymru i chwarae Gibraltar ar y Cae Ras, Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bydd t卯m p锚l-droed dynion Cymru'n dychwelyd i'r gogledd yn yr hydref.
Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru wedi cadarnhau bydd y g锚m gyfeillgar yn erbyn Gibraltar yn cael ei chwarae yn Wrecsam.
Y SToK Cae Ras fydd yn cynnal y g锚m ar 11 Hydref wrth i Gymru ddychwelyd i stadiwm p锚l-droed rhyngwladol hynaf y byd.
Bydd y g锚m gyfeillgar yn erbyn Gibraltar - sy'n rif 198 ar restr detholion y byd FIFA - yn cael ei chwarae bedwar diwrnod cyn i Croatia ymweld 芒 Chaerdydd mewn g锚m ragbrofol ar gyfer Euro 2024.
Ar 么l llwyfannu g锚m ryngwladol am y tro cyntaf yn 1877, y tro diwethaf i d卯m dynion Cymru chwarae yn Wrecsam oedd 2019 pan sgoriodd Ben Woodburn unig g么l y g锚m yn erbyn Trinidad a Tobago.
Cyn hynny nid oedd y maes hanesyddol wedi llwyfannu g锚m ryngwladol lawn ers 2008.
Ond er fod y rhan fwyaf o gemau'r t卯m rhyngwladol bellach yn cael eu chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mae Wrecsam hefyd wedi cynnal sawl g锚m cofiadwy dros y blynyddoedd.
Mae nifer o chwaraewyr Cymru yn hannu o'r gogledd-ddwyrain, gan gynnwys Harry Wilson, Dylan Levitt, Neco Williams a Danny Ward.
Eisoes mae gwaith wedi dechrau ar eisteddle newydd ar y Cae Ras fydd yn dal 5,500 o gefnogwyr, gan ehangu'r stadiwm i ddal cyfanswm o tua 15,600 o bobl.
Ond er na fydd yn barod erbyn y g锚m fis Hydref, dywedodd CBDC eu bod yn obeithiol bydd y datblygiad yn sicrhau mwy o gyfleoedd i groesawu gemau rhyngwladol i Wrecsam dros y blynyddoedd i ddod.
'Ymroddiad enfawr y cefnogwyr'
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr CBDC: "Ni'n hynod o gyffrous bod y t卯m p锚l-droed rhyngwladol yn dychwelyd i'r gogledd ym mis Hydref.
"Mae aelodau'r Wal Goch yn yr ardal yn dangos ymroddiad enfawr wrth deithio'n aml i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer ein gemau rhagbrofol.
"Rwy'n obeithiol byddwn ni'n gallu rhoi perfformiad campus ar gyfer y g锚m yn erbyn Gibraltar."
Ychwanegodd Steve Williams, Llywydd CBDC: "Fe ges i fy magu yn yr ardal ac rwy'n hynod o falch i weld Cymru yn dychwelyd i'r SToK Cae Ras unwaith eto.
"Mae'r g锚m yn dangos bod gan CBDC ymrwymiad i gynnal p锚l-droed rhyngwladol yng ngogledd Cymru ar draws pob un o'n timau cenedlaethol, a bod Wrecsam yn rhan allweddol o'n hymgais i gynnal pencampwriaeth UEFA EURO D19 2026 a fydd yn dathlu penblwydd 150 oed y Gymdeithas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd15 Mai 2022