Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mari Grug: 'Ymateb anhygoel' wedi diagnosis canser
Mae'r cyflwynydd teledu Mari Grug wedi dweud ei bod "mor lwcus" o'r gefnogaeth y mae wedi ei dderbyn ers datgelu iddi gael diagnosis o ganser.
Wedi rhannu ei diagnosis yn gyhoeddus ddydd Llun, dywedodd y fam i dri bod y canser wedi lledu i'r afu a'r nodau lymff.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd cyflwynydd Prynhawn Da a Heno ei bod yn "teimlo'n bositif", a bod y gefnogaeth wedi bod "mor arbennig".
"Dwi wedi cael lot o negeseuon o anogaeth gan bobl sydd wedi dod drwy hyn yn dweud wrtha'i am ddal i gredu, dal y ffydd ac mae hynny o help hefyd."
Ar 么l dechrau ar ei thriniaeth, esboniodd Mari beth sydd o'i blaen:
"Rwy'n cael cemotherapi pob tair wythnos ar ddydd Llun wedyn codi mron a'r driniaeth yma tan Tachwedd felly'n gobeithio cael mastectomy cyn y Nadolig ac aros i weld beth yw'r sefyllfa gyda'r afu.
"Bydd na gyfres o sganiau wedyn i weld sut dwi'n ymateb, ac mae'r driniaeth wedi datblygu gymaint dros y blynyddoedd diwethaf, felly dwi yn teimlo'n bositif.
"Pan mae rhywun yn s么n i chi am ofal lliniarol ar y dechre, palliative care, mae'n rhaid aros yn bositif bod fi'n cael cyfle i frwydro hwn."
'Mor arbennig, mor lwcus'
Yn cyfeirio at y gefnogaeth mae wedi ei dderbyn ers gwneud ei diagnosis yn gyhoeddus, fe ychwanegodd: "Ma'r bois dal yn y sioe gyda'r teulu... sori fi'n teimlo'n emosiynol yn siarad amdanyn nhw, ond mor lwcus - teulu a ffrindiau, cydweithwyr, pawb.
"Mor arbennig, mor lwcus. A hefyd ers prynhawn ddoe falle, y gymuned ar y w锚 hefyd yn gefn ac yn annog."
Esboniodd iddi sylwi gyntaf fis Ebrill, gan ddarganfod lwmp yn ei bron wrth wylio'r teledu un noson, "yn hollol ddirybudd".
"Lwcus, wrth drafod gyda'r g诺r, mi ffonies i'r doctor a chael apwyntiad mewn cwpl o ddyddiau a mynd at y doctor fore dydd Mawrth a chadarnhad bod yna lwmpyn yn y fron bryd hynny yng Nghaerfyrddin," meddai Mari, sy'n 39.
"O'n i'n lwcus, fe ges i apwyntiad yn yr uned arbenigol yn Llanelli o fewn 10 diwrnod."
"Ar 28 Ebrill fe ges i wybod yn answyddogol bryd hynny bod gen i ganser y fron oedd wedi ymledu i'r lymff achos ro'dd e'n wasanaeth ffantastig, sgan, mamogram, biopsi a phrawf gwaed o fewn awr a hanner.
"A na'th y doctor ddweud bryd hynny, 'Na, dyw e ddim yn edrych yn gr锚t Mari'.
"Felly ges i a'r g诺r gyfnod o ryw dair wythnos o brosesu'r newyddion, ond yn anffodus fe ddaeth dwy 诺yl banc wedyn a chalan Mai ac roedd yn rhaid aros tair wythnos cyn cael canlyniad y biopsi yn swyddogol."
'Ewch yn syth at y meddyg'
Serch hynny, dywedodd Mari fod gwahaniaethau amlwg yn lefel y gwasanaeth o'i gymharu 芒 blynyddoedd a fu, gan bwysleisio'r holl bwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd.
Pan holwyd a oedd hi'n bwysig i rannu ei stori ar y cyfryngau cymdeithasol, fe ddywedodd: "Mae'n amlwg o hynny, o'r hyn rwy' wedi ei rannu ers p'nawn ddoe a'r ymateb anhygoel.
"Ond beth sydd wedi fy synnu yw'r aros. Fe gafodd fy Mam ganser y fron bron i 25 mlynedd yn 么l.
"Fe gafodd hi ganlyniad biopsi dydd Llun a chael tynnu ei bron erbyn dydd Gwener.
"Mae triniaeth wedi newid erbyn hyn ac rwy'n cael cemotherapi i ddechrau sy'n norm erbyn hyn, ond oni bai fy mod i wedi mynd pan es i yn syth at y meddyg, mi fyddwn i wedi gorfod aros yn hirach.
"Felly rwy'n annog pobl i fynd yn syth at y meddyg am fy mod i wedi gorfod aros mwy na'r 62 diwrnod o darged y llywodraeth i gael triniaeth.
"Ac fel ry' ni'n gwybod gyda chanser dyw e ddim yn aros i neb ac mae e yn y nodau lymff gyda fi a dyna lle mae'n gallu lledu, ac yn anffodus mae yna ddwy ddarn bach yn yr afu gyda fi.
"Dwi wedi cael lot o negeseuon o anogaeth gan bobl sydd wedi dod drwy hyn yn dweud wrtha'i am ddal i gredu, dal y ffydd ac mae hynny o help hefyd."