'Paratowch yn iawn er mwyn osgoi galwadau achub di-angen'
- Cyhoeddwyd
Mae t卯m achub mynydd prysuraf Cymru yn gobeithio bydd ymgyrch sydd wedi ei anelu at dwristiaid yn arwain at lai o alwadau "y fyddai wedi gallu eu hosgoi".
Mae Croeso Cymru wedi ymuno gyda Mentro'n Gall Cymru ar yr ymgyrch 'Addo', sy'n ddangos i bobl sut i fwynhau'r awyr agored mewn modd diogel.
Daw hynny yn sgil pryderon fod gwirfoddolwyr achub mynydd yn gorfod ymateb i alwadau a fyddai wedi gallu eu hosgoi drwy well paratoi o flaen llaw.
Mae yna amcangyfrif bod twristiaeth werth 拢3bn i economi Cymru, ond bwriad yr ymgyrch 'Addo' yw gofyn i ymwelwyr gynllunio yn well cyn mentro i gefn gwlad Cymru.
Gyda'r ymgyrch yn cael ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol, radio digidol a Spotify dros fisoedd yr haf, y tri cwestiwn sy'n cael eu hannog yw:
A oes gennyf yr wybodaeth a'r sgiliau ar gyfer y diwrnod?
Ydw i'n gwybod sut bydd y tywydd?
A oes gennyf y dillad a'r offer cywir ar gyfer y gweithgareddau a'r amodau?
Mae hefyd yn gofyn i bobl roi sylw i arwyddion a chyngor diogelwch lleol, fel dewis i nofio ar draethau ag achubwr bywydau a nofio rhwng y baneri coch a melyn.
'Dim rheswm galw am wasanaeth brys'
Dywedodd Elfyn Jones o D卯m Achub Mynydd Llanberis fod yr ymgyrch Mentro'n Gall wedi'i lansio i gael "gwybodaeth syml allan i bobl sy'n defnyddio cefn gwlad Cymru".
Fe gafodd y t卯m o wirfoddolwyr 237 o alwadau yn ystod 2021, y nifer fwyaf maen nhw wedi'i dderbyn erioed, a'r uchaf o unrhyw d卯m achub mynydd drwy Brydain.
Ond maen nhw'n parhau i fod yn brysur, ac eisoes wedi ymateb i 160 o alwadau er nad ydi'r tymor twristiaeth wedi cyrraedd ei hanfod eto.
"Mae t卯m achub Llanberis yn hynod brysur eleni," meddai.
"'Dan ni wedi delio hefo rhyw 160 o ddigwyddiadau y flwyddyn yma'n barod a 'dan ni ddim mewn i fis Awst eto.
"Mae nifer o'r rheiny... mae'n bosib osgoi y digwyddiadau hynna os fysa pobl wedi paratoi cyn mynd i fyny.
"Does 'na ddim rheswm i rai pobl alw am wasanaeth brys pan mae hi wedi mynd yn dywyll, neu pan maen nhw wedi mynd yn wlyb neu wedi mynd ar goll.
"Drwy gynllunio o flaen llaw mae'n bosib osgoi hynny, ac os ydyn nhw'n paratoi o flaen llaw maen nhw am gael diwrnod llawer gwell ac maen nhw'n mynd i fwynhau eu hunain llawer mwy drwy wneud hynny hefyd."
Fe ychwanegodd: "Gall damwain ddigwydd i rhywun, dyna pam 'dan ni'n dweud wrth pobl i baratoi a chynllunio o flaen llaw.
"Does neb yn mentro allan er mwyn cael damwain neu digwyddiad, ac mae miloedd o bobl yn cael diwrnod bendigedig ar y mynydd am bob un person sy'n cael anaf.
"Ond ydi be' mae'n nhw'n ei wneud o fewn eu gallu, ydi'r offer iawn ganddyn nhw a ydyn nhw'n gwybod be mae'r tywydd am fod y diwrnod hwnnw?
"Mae'r mynydd am fod yno o hyd, does dim drwg o gwbl os ydi pobl yn pryderu i droi rownd a mynd 'n么l i lawr."
Ychwanegodd Emma Edwards-Jones, Cydarweinydd ymgyrch Mentro'n Gall: "Gyda'i chyfuniad hyfryd o fryniau, mynyddoedd, llynnoedd ar arfordiroedd, Cymru yw'r lleoliad perffaith ar gyfer mwynhau antur yn yr awyr agored.
"Bydd mentro'n gall a rhoi amser i gynllunio eich diwrnod yn sicrhau eich bod yn mwynhau eich amser yn fwy o lawer, a byddwch yn cyrraedd gartref yn ddiogel.
"Drwy asesu eich gallu a'ch sgiliau, gwybod sut bydd y tywydd a gwneud yn si诺r bod gennych y dillad a'r offer cywir, gallwch helpu ein gwasanaethau achub i fwynhau eu haf nhw hefyd!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2021