Gwesty Strade: 'Dim hawl i brotestwyr rwystro mynediad'

Disgrifiad o'r llun, Mae protestwyr wedi bod yn gosod baneri ger mynedfa'r gwesty i brotestio yn erbyn y cynllun

Mae llys wedi caniat谩u gorchymyn sy'n golygu nad oes hawl gan brotestwyr i rwystro mynediad i westy yn Llanelli fydd yn gartref i geiswyr lloches.

Fe wnaeth perchnogion Gwesty Parc y Strade, Gryphon Leisure Ltd, i'r Uchel Lys gan ddweud bod mynediad y safle wedi ei rwystro.

Dywedodd y barnwr ei fod am glywed gan bobl leol cyn parhau, ac fe glywodd dystiolaeth gan gynrychiolwyr Pwyllgor Gweithredu Ffwrnes a thrigolion eraill ddydd Iau.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Pwyllgor eu bod yn "siomedig" gyda'r dyfarniad.

'Cynllun gwirion'

Roedd disgwyl i'r ceiswyr lloches ddechrau cyrraedd ar 10 Gorffennaf, ond mae protestiadau cyson y tu allan i'r gwesty wedi peri problemau i berchnogion y safle.

Fe wnaeth Gryphon Leisure Ltd ofyn i'r llys roi gorchymyn brys i atal rhwystro a thresmasu ar y safle gan brotestwyr.

Dywedodd y Barnwr Roger ter Haar wrth y gwrandawiad yn Llundain ei fod yn gosod gorchymyn nes 27 Ionawr 2024.

Bydd modd cael mynediad i'r gwesty drwy goridor 12 troedfedd o led o'r brif ffordd i'r giatiau.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i 241 o geiswyr lloches ymgartefu yng Ngwesty Parc y Strade

Dywedodd Robert Lloyd o Bwyllgor Gweithredu Ffwrnes eu bod nhw'n "falch" o fod wedi rhoi eu hachos o flaen y llys, a'u bod nhw'n "siomedig" ond yn "parchu" penderfyniad y barnwr.

"Dim ond rhan o'r frwydr 'dyn ni wedi ei golli," meddai.

"Mae gennym ni dal arfau eraill yn ein hymgais i geisio stopio'r cynllun gwirion yma gan y Swyddfa Gartref i ddefnyddio'r gwesty ar gyfer ceiswyr lloches."

Ychwanegodd y byddai'r dyfarniad yn "newid pethau" i'r protestwyr, gan fod posib i'r heddlu gymryd camau llymach yn eu herbyn nhw os oedd eu protestio cyfreithlon nhw'n parhau i rwystro'r mynediad.