Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Protestio ar faes y Sioe Fawr yn erbyn cynllun peilonau
Mae nifer o wrthwynebwyr cynllun i godi peilonau yng nghefn gwlad wedi cynnal protest yn erbyn y datblygiad ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Daeth dros 50 o bobl ynghyd ddydd Mercher, i brotestio yn erbyn cynllun cwmni Bute Energy / Green Gen Cymru i godi peilonau yn ymestyn tua 60 milltir o Barc Ynni Nant Mithil ger Llandrindod, i is-orsaf drydan newydd ger Caerfyrddin.
Dywed y cwmni y bydd y peilonau'n lleihau'r pwysau ar y grid trydan presennol, yn cefnogi busnesau "gwyrdd", ac yn hybu cynlluniau gwresogi "gwyrdd" a cheir trydan yng nghefn gwlad.
Ond mae'r protestwyr yn mynnu y bydd y peilonau'n "distrywio'r ardal" ac yn graith ar y tirlun.
Mae nifer o brotestiadau eraill wedi cael eu cynnal yn ardal Dyffryn Tywi dros y misoedd diwethaf - gan gynnwys codi craen er mwyn dangos pa mor uchel fyddai'r peilonau.
Mae'r gwrthwynebwyr yn galw am osod y gwifrau trydan dan ddaear.
Dywedodd Gareth Williams, cyfarwyddwr grid Bute Energy: "Yn gynharach eleni gwnaeth 2500 o bobl leol cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cychwynnol.
"Dywedodd pobl bod ganddynt bryderon am effaith weledol ein cynlluniau ac fe ofynnodd rhai i ni ystyried rhoi rhai neu'r holl wifrau o dan ddaear, ac roeddent eisiau i ni ddeall mwy am yr effeithiau ar gymunedau.
"Mae ein t卯m yn y Sioe Fawr wythnos yma, yn siarad gyda thirfeddianwyr a rhanddeiliaid eraill am ein prosiectau a'u buddiannau i Gymru.
"Mae'r mwyafrif o'r sgyrsiau rydym wedi'u cael yn y sioe wedi bod yn bositif - mae pobl eisiau siarad am newid hinsawdd, yn gofyn beth allan nhw wneud i helpu, a sut bydd ein prosiectau'n dod 芒 buddsoddiadau, swyddi a sgiliau i gymunedau Cymraeg.
"Rydym wedi ymroi i wneud popeth a allwn i sicrhau yr aflonyddwch lleiaf i'r amgylchedd ac i'r bobl sy'n byw, gweithio ac yn mwynhau amser hamdden yn agos i'n cynlluniau."
Ychwanegodd bod disgwyl i'r rownd nesaf o ymgynghori ar y prosiect ddigwydd yn 2024.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod uwchraddio'r grid yng Nghymru yn hanfodol "os ydym am gael system ynni addas yn tymor hir".
"Mae ein polisi ynni yn datgan y dylid gosod gwifrau o dan ddaear lle bo hynny'n bosib."