Llyfr newydd yn trafod y profiad 'sy'n cael ei guddio' o golli babi

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Rhiannon gyda'i gŵr, Llion a'u plant Gwern a Miall: 'Dwi dal yn ystyried y ddau o blant ges i ar ôl y golled gyntaf fel yr ail a'r trydydd'

"Y peth gwaetha am yr holl brofiad oedd mai cyfrinach oedd y cwbl… a chyfrinach ydy hi'n wir hyd heddiw. Pam nad ydy pobol yn siarad am y peth?"

Dyna'r dyfyniad gan un o'r cyfranwyr ar gefn llyfr sy'n gasgliad o brofiadau rhai sydd wedi colli babi yn y groth; y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg i wneud hynny.

Rhiannon Heledd Williams sydd wedi golygu Darn Bach o'r Haul; fe gollodd hi a'i gŵr, Llion, fab yn y groth yn ystod ail semester ei beichiogrwydd cyntaf ym mis Mehefin 2020.

Roedd hi eisiau i'r llyfr helpu eraill i ddelio efo profiad sy'n gyffredin iawn, ond anaml yn cael ei drafod.

"Mae'n brofiad mor bersonol a sensitif a phreifat dydi nifer fawr ddim eisiau trafod ond wrth gwrs i eraill mae rhannu'r profiad yn rhywbeth pwysig iawn," meddai Rhiannon mewn sgwrs gyda Betsan Powys ar Bore Sul, Radio Cymru.

"Er ei fod yn brofiad cyffredin mae gan bawb ei stori ei hun a mae pawb yn haeddu'r cyfle i rannu eu stori nhw ac am eu babi nhw hefyd."

Cydnabod a choffáu

"I mi roedd o'n ffordd bwysig o goffáu y babi, bod na rywbeth mewn print, bod na stori iddo fo," meddai Rhiannon.

Daw hyn wrth i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr gyhoeddi canllawiau newydd ar ofal i rieni sy'n mynd drwy'r profiad o golli plentyn cyn 24 wythnos o gario, gan gynnwys argymhelliad i roi tystysgrif swyddogol i gydnabod beichiogrwydd a cholled.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n trafod sut i ddatblygu'r gofal wedi colled o'r fath yma yng Nghymru hefyd.

Ffynhonnell y llun, Gwasg y Bwthyn

Un o bob pedwar

Mae'r ystadegau yn awgrymu bod camesgor (miscarriage) neu golli babi yn digwydd i un o bob pedwar a gall ddigwydd ar unrhyw adeg yn y beichiogrwydd.

Mae'r rhan fwyaf o'r colledion yn digwydd yn y cyfnod cynnar, cyn 13 wythnos; ond mae'r gyfrol yn cynnwys ystod o brofiadau o wahanol adegau mewn beichiogrwdd gan gynnwys profiadau o gamesgor hwyr, sef rhwng 13 a 24 wythnos a marw-enedigaeth o 24 wythnos ymlaen, esboniodd Rhiannon.

"O'n i'n meddwl bod hynny'n bwysig, os oedd o wedi digwydd i rywun sy'n darllen, eu bod nhw'n gallu uniaethu efo'r profiadau yna ac mi oedd y cyfranwyr yn barod iawn i ysgrifennu am eu profiad, sy'n dangos eu bod nhw yn dymuno rhannu profiad, ac yn sicr drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd hynny'n deimlad cryf iawn."

'Cuddio'

Mae'r profiad o golli yn gallu bod yn un unig ac ynysig, yn enwedig i'r rhai sy'n colli cyn 13 wythnos a heb eto gyhoeddi eu beichiogrwydd meddai Rhiannon.

"Mae o'n rhywbeth sy'n cael ei guddio efallai," meddai.

Ond pan mae'n digwydd ar ôl y sgan 12 wythnos, a theulu a ffrindiau efallai'n gwybod erbyn hynny, mae Rhiannon yn teimlo bod y gefnogaeth sydd ar gael yn dal yn gallu bod yn brin cyn 24 wythnos.

"I mi yn bersonol doedd na ddim cwnselydd ar gael ar ôl imi golli," meddai Rhiannon, "...o ran y gefnogaeth wedyn doedd na ddim llawer o gyfleoedd i siarad - dyna pam es i ati i ddarllen."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cydnabod arwyddocad colli babi a'r "trallod o gamesgor" ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd.

Meddai llefarydd: "Mae pob teulu sy'n profi colled beichiogrwydd mewn unedau mamolaeth yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan fydwragedd profedigaeth, ar y cyd â Sands, ac yn cael cynnig blychau cofio sy'n cynnwys tystysgrif geni. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda swyddogion yn Lloegr i ddatblygu proses wedi'i ffurfioli ar gyfer teuluoedd yng Nghymru."

'Clywed babis yn crio'

Mae Rhiannon wedi cyfrannu ei stori bersonol hi i'r gyfrol hefyd.

Yn ei hachos hi doedd dim amheuon bod rhywbeth yn bod tan ar ôl y sgan 12 wythnos pan fethodd y fydwraig â chlywed curiad calon.

Bu'n rhaid i Rhiannon roi genedigaeth mewn stafell breifat oherwydd y pandemig a hynny ar ward ôl-enedigaeth lle roedd hi'n gallu clywed babis newydd yn crio. Dangosodd y post mortem fod gan y babi gyflwr difrifol o'r enw triploidy - tair set o gromosomau yn lle dau - sy'n golygu na fyddai wedi byw.

Dywed Rhiannon ei bod yn "cael cysur mawr drwy ddarllen a ddim isio siarad efo llawer o bobl am y peth. Drwy'r ddefod breifat o ddarllen o'n i'n teimlo mod i'n cael mynediad i gymuned o bobl eraill lle oedd o wedi digwydd…"

Roedd y gyfrol Brink of Being gan y seicotherapydd Julia Bueno yn gysur mawr iddi ac fe ysgogodd y syniad o wneud rhywbeth tebyg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar wahân i'r cyfrif Instagram, Cylchoedd, a sefydlwyd yn sgil profiad Carys McKenzie, ychydig o lefydd sydd yn y Gymraeg i drafod y profiad, a rhai ddim eisiau siarad wyneb yn wyneb chwaith, felly mae'r cyfle i bobl allu darllen am y profiad yn bwysig meddai Rhiannon.

Ond mae ffordd bell i fynd ym mhob iaith i chwalu'r stigma o drafod colli babi, meddai Rhiannon.

"Dwi'n meddwl bod pwnc fel hyn yn tabŵ mewn unrhyw iaith, dwi ddim yn meddwl bod hynny'n unigryw i'r Gymraeg - mi drafododd Meghan Markle ychydig am hyn mewn erthygl ac mi gafodd hi ei beiriadu am wneud gan rai…

"Dwi'n meddwl ym mhob iaith ein bod ni ar ei hôl hi yn trafod pynciau fel hyn."

I Rhiannon, roedd cydnabod, cofnodi a chofio y babi na chafodd ei eni, yn hollbwysig.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranydd

Disgrifiad o'r llun, Rhiannon Williams

Mae hi wedi cael dau o blant ar ôl ei beichiogrwydd cyntaf ond dydi hynny ddim wedi newid ei theimladau am yr hyn ddigwyddodd.

"Ar flaen y gyfrol mae'n dweud 'Dydi enfys ddim yn golygu bod y storm ddim wedi digwydd'. Wrth gwrs mae na lawer iawn o fabis enfys fel maen nhw'n cael eu galw - plant sy'n cael eu geni ar ôl i rywun golli babi - maen nhw'n gysur mawr ac yn llenwi calonau rywun ond dydyn nhw ddim yn cymryd lle'r golled, mae rhywun yn dal i gofio.

"Dwi dal yn ystyried y ddau o blant ges i ar ôl y golled gyntaf fel yr ail a'r trydydd oherwydd dwi dal yn teimlo mai'r babi ges i gynta, mai hwnna oedd y babi cyntaf er na wnaeth o ddim byw.

"Dwi'n meddwl bod hynny yn bwysig i'w gofio. Pan ydych chi'n siarad efo llawer o rieni mae pobl yn dweud wrthyn nhw 'o gewch chi drio eto' a dydi o ddim mor hawdd â hynny; dydi o ddim fel colli bws [a meddwl] 'o nai ddal y bws nesaf'. Dydi colli babi ddim yn golygu 'o dwi'n cael ail gyfle efo cael babi arall'.

"Mae'r profiad yna o golli yn aros efo rywun a hefyd yn effeithio ar feichogrwydd wedyn hefyd. Mae 'na lawer mwy o bryder a phoeni.

"Felly fyswn i'n dweud bod plant ydych chi'n gael wedyn yn sicr yn dod â llawer o hapusrwydd a llawenydd ond nid yn newid y profiad yn ei hanfod."

Gallwch wrando ar sgwrs lawn Rhiannon am y gyfrol Darn Bach o'r Haul, Gwasg y Bwthyn, gyda Betsan Powys ar raglen Bore Sul, ar ´óÏó´«Ã½ Sounds.

Hefyd o ddiddordeb: