大象传媒

Jac Morgan yn gapten rygbi Cymru i herio Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Jac Morgan a Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Jac Morgan a Leigh Halfpenny yn gyd-chwaraewyr gyda鈥檙 Scarlets, ond mae'r ddau wedi gadael bellach

Mae Cymru wedi cyhoeddi'r t卯m ar gyfer g锚m gyntaf Cyfres yr Haf yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn.

Jac Morgan sydd wedi cael ei enwi'n gapten, ar 么l i Alun Wyn Jones ymddeol o rygbi rhyngwladol ym mis Mai.

Mae disgwyl i Leigh Halfpenny, sydd heb arwyddo i glwb ar gyfer y tymor nesaf, ennill ei 100fed cap.

Mae capiau newydd i Corey Damachowski, Kieron Assiratti a Max Llywelyn, a disgwyl i Taine Plumtree a Henry Thomas wneud yr un peth oddi ar y fainc.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Alun Wyn Jones a Justin Tipuric yn gyd-chwaraewyr i'r Gweilch ac i Gymru

Mae Cymru wedi colli nifer o chwaraewyr profiadol fel Alun Wyn Jones a Justin Tipuric - sydd wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol cyn Cwpan y Byd.

Mae Warren Gatland wedi dweud y bydd yn edrych ar wahanol opsiynau fel capten ar draws y dair g锚m i baratoi cyn dechrau'r bencampwriaeth yn Ffrainc.

"Rydym wedi enwi Jac fel capten ar gyfer y g锚m yma, ac mae'n fraint iddo allu arwain ei wlad," dywedodd Gatland.

"Byddwn si诺r o fod yn edrych ar gapten gwahanol i bob g锚m er mwyn rhoi'r cyfle fwyaf posib i blesio, ond hefyd yn wyliadwrus i edrych ar gyfuniadau posib wrth i ni agos谩u at enwi'r garfan derfynol."

100 cap i'r cefnwr

Leigh Halfpenny, 34, fydd y nawfed chwaraewr i gyrraedd y garreg filltir o chwarae 100 g锚m ryngwladol i Gymru, ar y rhestr yna hefyd, mae Alun Wyn Jones, Gethin Jenkins, George North, Dan Biggar, Stephen Jones, Gareth Thomas, Martyn Williams a Taulupe Faletau.

Roedd Halfpenny yn 19 pan chwaraeodd ei g锚m gyntaf i Gymru yn erbyn De Affrica yn 2008.

Ychwanegodd Gatland: "Mae cyrraedd y garreg filltir yma yn gamp arbennig ac yn destament i Leigh fel chwaraewr a person.

"Mi fydd yn ddiwrnod arbennig iawn iddo fo a'i deulu."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraeodd Corey Domachowski, Max Llewellyn a Kieran Assiratti gyda'i gilydd i Gaerdydd y tymor diwethaf

Mae propiau Caerdydd, Domachowski ac Assiratti wedi creu argraff y tymor diwethaf, a chael eu cynnwys yng ngharfan baratoadol Cwpan y Byd.

Mae'r canolwr Max Llewelyn, mab cyn-chwaraewr ail-reng Cymru, Gareth, wedi arwyddo i Gaerloyw ar gyfer y tymor nesaf.

Ymunodd Plumtree, 23, gyda charfan Cymru yn y Swistir, ddiwrnodau ar 么l ymuno gyda'r Scarlets. Cafodd ei eni yng Nghymru ac mae ei Dad yn gyn-hyfforddwr Abertawe.

Dechreuodd ei yrfa gyda Wellington, Seland Newydd cyn chwarae i'r Blues yng nghystadleuaeth Super Rugby hemisffer y de.

Mae Henry Thomas wedi chwarae saith g锚m i Loegr rhwng 2013-2014 ac yn gymwys i chwarae i Gymru drwy ei dad.

Dan reolau diweddaraf Rygbi'r Byd mae'n cael cynrychioli Cymru gan iddo chwarae ei g锚m ryngwladol olaf dros dair blynedd yn 么l.

Y garfan i wynebu Lloegr:

Leigh Halfpenny; Louis Rees-Zammit, George North, Max Llewellyn, Rio Dyer; Sam Costelow, Gareth Davies; Corey Domachowski, Ryan Elias, Keiron Assiratti, Dafydd Jenkins, Will Rowlands, Christ Tshiunza, Jac Morgan (capten), Aaron Wainwright.

Eilyddion: Elliot Dee, Nicky Smith, Henry Thomas, Ben Carter, Taine Plumtree, Tomos Williams, Dan Biggar, Mason Grady.