Pum munud gyda Bardd y Mis: Buddug Roberts

Ffynhonnell y llun, Buddug Roberts

Disgrifiad o'r llun, Mae Buddug Roberts wedi bod yn creu ym myd y theatr fel rhan o'i doethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol

Mae'n fis Awst a Buddug Roberts yw Bardd y Mis, Radio Cymru. Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod.

Fel merch o Ddyffryn Ogwen, disgrifia sut fagwraeth a gefaist, dy ardal a'i phobl. Wnaeth hynny dy siapio di?

Roedd cael fy magu yng nghesail Dyffryn Ogwen yn destun ysbrydoliaeth o oedran ifanc iawn. Gyda'r mynyddoedd gwarchodol yn tynnu llinell dwt o amgylch Bethesda, mae hi'n ardal 芒 chymuned glos iawn, a hynny'n gallu bod yn beth positif a negyddol ar yr un pryd.

Wrth dyfu fyny ro'n i wastad yn teimlo mymryn yn wahanol, ddim 'cweit yn ffitio mewn', ac er mod i ambell dro wedi - doeddwn i ddim eisiau cydymffurfio.

Ffynhonnell y llun, Buddug Roberts

Disgrifiad o'r llun, Rali Cymdeithas yr Iaith, Caernarfon

Dwi mor ffodus o gael dweud mod i'n dod o deulu tu hwnt o gefnogol a chariadus ac felly wedi cael fy annog i beidio bod yn unrhyw beth ond fi fy hun. O'r herwydd bu i mi symud o'r ardal ac yna fe gefais ledaenu fy adenydd heb i rym y Dyffryn fy nal i 'n么l.

Er hynny dw i'n fythol ddiolchgar i'r Dyffryn am ei hysbrydoliaeth a'i heriau cyson, ac am wastad fod yno gyda breichiau agored, pan ro'n i'n barod.

Ffynhonnell y llun, Buddug Roberts

Disgrifiad o'r llun, Dwy chwaer yng nghwmni Nain a Taid

Pan na fyddi di'n ysgrifennu, beth wyt yn hoffi ei wneud i ymlacio?

Os dydw i ddim yn 'sgwennu, dw i'n darllen neu'n cysgu.

Rwyt ti'n dilyn cwrs doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol gyda Phrifysgol Bangor yn rhan amser. Alli di rannu ychydig am beth wyt ti'n ei ysgrifennu fel rhan o dy ddoethuriaeth?

Ddechrau fis Gorffennaf fues i'n ddigon ffodus o gael llwyfannu fy ngwaith yng nghartref newydd Fr芒n Wen, Nyth, gyda'r cwmni ifanc, felly mae rhan gyntaf fy noethuriaeth yn olrhain yr holl waith creu a datblygu a arweiniodd at y sgript terfynol.

Ffynhonnell y llun, Buddug Roberts

Disgrifiad o'r llun, Creu gyda chriw Fr芒n Wen

Hwyrach, ar hyn o bryd dw i'n gweithio ar ddatblygu fy nofel gyntaf, a ddechreuodd fel darn a gyflwynias fel rhan o fy mhortffolio MA.

Erbyn hyn dwi yn y broses o'i chwblhau (sy'n sialens a hanner), mae'r 'llyfr' yn un go heriol, ac yn rhywbeth newydd (gobeithio) i'r gynulleidfa Gymraeg a dwi'n edrych ymlaen i'r darllenwyr ddod ar y daith faith gyda mi.

Ffynhonnell y llun, Buddug Roberts

Disgrifiad o'r llun, Diwrnod graddio gyda'i thad

Rwyt yn ymchwilydd i blatfform L诺p ar S4C sy'n creu cynnwys o'r s卯n gerddorol yng Nghymru. Ydy cerddoriaeth yn dy ysbrydoli'n greadigol?

Yn bendant, ysgrifennais fy nhraethawd hir BA dan y teitl Ddoe, Heddiw a Fory: Priodoldeb ystyried geiriau caneuon Cymraeg fel barddoniaeth.

Ffynhonnell y llun, Buddug Roberts

Disgrifiad o'r llun, Cerddoriaeth a pheint yn yr Eisteddfod

Mae cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn rhan allweddol o mywyd personol a chreadigol, dyma'r byd a gyflwynodd i mi y ffrindiau sydd gen i hyd heddiw yn ogystal a'r ysbrydoliaeth greadigol gyson. Mae dylanwad y s卯n gerddorol Gymraeg i weld yn glir iawn yn fy nofel hefyd.

Ffynhonnell y llun, Buddug Roberts

Disgrifiad o'r llun, Mwy o gigio!

Petaet yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Dafydd ap Gwilym er mwyn cael gair efo fy hun am sut dwi'n edrych ar ferched.

Ffynhonnell y llun, Buddug Roberts

Disgrifiad o'r llun, Ar wyliau gyda'i Mam, Lowri, a'i chwaer, Mari

Pa ddarn o farddoniaeth fyddet ti wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Porth gan Gruffudd Eifion Owen - fedra i ddarllen y gerdd yma drosodd a throsodd ac mae hi dal yn fy syfrdanu yn ogystal 芒 gwneud i mi chwerthin allan yn uchel.

Mae'r gerdd yma'n gampwaith sy'n crisialu'r Gymru a'r Cymry cyfoes a hynny drwy s诺n a chrefft gofalus yr hen gynghanedd.

Beth sydd gen ti ar y gweill ar hyn o bryd?

Fy nofel faswn i'n dweud sy'n flaenoriaeth gen i ar hyn o bryd, ond dwi'n awyddus iawn i roi trefn ar yr holl gerddi yma sydd gen i'n eistedd yn ap nodiadau fy ff么n.

Hefyd o ddiddordeb: