Pum munud gyda'r actores Annes Elwy

Ffynhonnell y llun, ´óÏó´«Ã½/Hartswood Films Ltd/Simon Ridgway

Disgrifiad o'r llun, "Dwi'n meddwl mai Wolf ydi'r gyfres fwyaf anesmwyth a thywyll i fi ddarllen erioed," meddai Annes Elwy

Mae'r actores o Benarth, Annes Elwy, yn un o brif gymeriadau cyfres gomedi-arswyd Wolf ar ´óÏó´«Ã½ One a ´óÏó´«Ã½ iplayer ar hyn o bryd - cyfres rwydwaith wedi ei ffilmio yng Nghymru gydag actorion Cymreig eraill fel Iwan Rheon ac Owen Teale hefyd yn y prif rannau.

Fe gymerodd Cymru Fyw ddau funud i ddal fyny gydag Annes sy'n chwarae rhan merch i gwpl cefnog (Juliet Stevenson ac Owen Teale) sy'n cael eu dal mewn sefyllfa erchyll gan ddau seicopath, gyda stori y ditectif DI Caffrey yn gefndir i'r cyfan.

Fedri di sôn ychydig am dy gymeriad yn Wolf ac am ffilmio'r gyfres?

Addasiad gan Megan Gallagher o nofel Mo Hayder ydi Wolf. Stori dditectif sy'n plethu genres gwahanol - mae o'n ddychrynllyd ac yn erchyll un eiliad, ac yn gomedi rhyfeddol y nesa'. Mae adegau tyner, gemau seicopathig, canu opera, a dawnsio i Beyoncé… Mae o'n gyfres anarferol yn sicr - yn arswydus, cyffrous, a digri.

Mae Lucia, fy nghymeriad i, yn ferch i'r teulu Anchor-Ferrers. Mae hi'n ferch sydd wedi cael bywyd breintiedig iawn - mae hi'n llwyr ddibynnol ar ei rhieni ac yn eu cymryd nhw'n ganiataol. Wrth i'r teulu ffeindio eu hunain dan glo, ac yn rhan o gynllwyn dau seicopath, fe welwn ni pa mor fregus a pha mor stoic mae Lucia yn medru bod.

Ffynhonnell y llun, ´óÏó´«Ã½/Hartswood Films Ltd/Simon Ridgway

Disgrifiad o'r llun, Sacha Dhawan ac Iwan Rheon yw'r sinistr Honey a Molina

Beth yw dy deimlad am weld cyfres ddrama proffil uchel wedi ei lleoli yng Nghymru?

Dwi wrth fy modd wrth gwrs, a gore po fwyaf! Os dwi'n deall yn iawn, nath y ´óÏó´«Ã½ ymrwymiad yn 2021 i wella cynrychiolaeth ardaloedd gwahanol y DU yn eu dramâu - gan ymrwymo i gomisiynu dramâu bob blwyddyn o Gymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Lloegr. Mae Wolf yn un o'r cynyrchiadau yna.

'Dyn ni'n gweld yn amlach ac yn amlach bod cwmnïau mawr fel Netflix ac Amazon yn dewis ffilmio eu cyfresi fan hyn, gan fod gan Gymru gymaint i gynnig, ond anaml iawn mae'r dramâu eu hunain wedi eu gosod yng Nghymru - felly dydi'r cynnydd o fewn y diwydiant yng Nghymru ddim o reidrwydd yn trosglwyddo mewn i gynnydd gwaith i actorion o Gymru.

Yn naturiol mae sgwennwyr yn gosod eu dramâu yn y llefydd maen nhw'n ei nabod fel arfer, ac efallai bod dal prinder ysgrifenwyr o Gymru ar ein sgriniau? Dwi ddim yn gwybod!

Gefaist ti gyfle i fod adre dipyn yn ystod y ffilmio?

Do! Mae Mam, sydd wedi gweld y gyfres i gyd erbyn hyn, yn rhyfeddu 'mod i 'di bod yn ffilmio'r golygfeydd welwch chi yn Wolf, ac wedyn yn dod adre fel taswn i 'di cael diwrnod hollol ddi-nod.

Roedd cael gweithio ar gyfres fel hyn a chael byw yng Nghaerdydd ar yr un pryd mor neis - dwi ddim fel arfer yn cael y cyfle i fyw fy mywyd 'normal' ar yr un pryd a gweithio. Fel arfer mae gweithio (ffilmio neu theatr) yn golygu pacio cês, symud i rywle dwi erioed 'di bod o'r blaen, colli pob elfen o normalrwydd, a pheidio gweld teulu a ffrindiau am fisoedd!

Mae sawl un wedi cyfeirio at deimlad anghyfforddus a thywyll y gyfres; gyda dy ran yn y ffilm Gwledd yn arbennig mewn cof, wyt ti'n cael dy dynnu at y math yma o ddeunydd?

Dwi'n meddwl mai Wolf ydi'r gyfres fwyaf anesmwyth a thywyll i fi ddarllen erioed, a dwi ddim yn synnu bod pobl eraill yn synnu ei fod o ar y ´óÏó´«Ã½! Ond mae o hefyd yn llawn hiwmor, ac mae o mor rhyfedd bod o dal yn hwyl i wylio!

Ges i ymateb cryf wrth ddarllen Wolf a Gwledd - yn ysu i gael chwarae'r rhannau - felly falle 'mod i'n cal fy nennu at bethau tywyll - ond dwi'n meddwl mai cyd-ddigwyddiad oedd hwnna wir. Nid yr arswyd sy'n fy nenu i o gwbl, ond dwi'n mwynhau chwarae pobl gymhleth, pobl sy'n gymysgedd o bethau gwrthgyferbyniol - yn gryf ond yn fregus, y math yna o beth. Ac mae Cadi a Lucia yn bobl gymhleth iawn - ac yn hollol wahanol i'w gilydd! Roedd Cadi (Gwledd) yn ryw fath o greadures fach dawel, rhyw gwningen nerfus mewn corff merch. Lle mae Lucia ar y llaw arall yn gegog, yn hunanol, yn ddillad a cholur a gemwaith … Lucia fysai hunllef Cadi, dwi'n meddwl!

Ffynhonnell y llun, Gwledd/The Feast

Disgrifiad o'r llun, Roedd Annes yn chwarae rhan Cadi yn Gwledd

Oes na reswm pam bod cymaint o gynyrchiadau tywyll yn dod o Gymru yn ddiweddar?

Dwi'n meddwl bod un gyfres lwyddiannus yn gallu achosi blynyddoedd o ddramâu tebyg sy'n trio cadw'r bêl i rolio, ac mae hwnna siŵr o fod wedi digwydd i ryw raddau yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf. Ond nid dim ond yng Nghymru chwaith. Mae'n teimlo fel bod 90% o ddramâu'r DU wedi bod yn ddramâu trosedd/ditectif dros y ddegawd diwethaf. Dwi'n meddwl pan o'n i'n iau, roedd lot mwy o gomedi ar y teledu - a dwi'n siŵr ddaw'r fath yna o beth nol yn ei dro. Fel cenedl, 'dyn ni'n cael ein stereoteipio gan eraill fel cenedl o bobl hoffus a chynnes a bach yn dwp, ond yn ein dramâu ein hunain - 'dyn ni'n genedl ddifrifol a threisgar iawn!

Rwyt ti wedi sôn am gynyrchiadau dwyieithog a'r peth "bizarre" yma o ofni allforio cyfresi yn y Gymraeg gydag is-deitlau - wyt ti'n gweld gobaith bod agweddau'n newid at yr iaith o fewn y diwydiant?

Do, er, ei ddweud o mewn cyfweliad â rhywun o America 'nes i - do'n i ddim yn disgwyl iddo fo ddenu gymaint o sylw! Dwi yn teimlo bod agwedd y diwydiant tuag at waith Cymraeg wedi newid lot yn sgil poblogrwydd cyfresi o dramor, bron eu bod nhw'n gweld unrhywbeth mewn iaith arall yn cool a art-house! Dwi ddim yn meddwl bo nhw'n gwybod rhyw lawer am y gwaith ei hun, ond dwi'n meddwl bod o'n cael ei weld mewn golau da, lle oedd o arfer cael ei ddiystyru yn llwyr.

Wyt ti'n mynd i'r Eisteddfod? A fuest ti erioed yn gystadleuydd?!

Ydw! Fydda i yna ail hanner yr wythnos, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr. Ac o'n - bob blwyddyn! Fe ddechreuais i pan o'n i tua tair mlwydd oed, cyn gynted a ges i (neu mam a dad!) y cyfle. Adrodd oedd y prif gystadleuaeth i fi, er, es i byth yn bell iawn! Ac wedyn yn yr ysgol uwchradd - bach o bopeth! Côr, celf, ymgom, parti llefaru, adrodd, detholiad llafar, popeth heblaw dawnsio!

Hefyd o ddiddordeb: