Cymru v Lloegr: T卯m cwbl newydd i'r g锚m ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Bydd y bachwr Dewi Lake yn gapten ar d卯m cwbl newydd ddydd Sadwrn wrth i Gymru wynebu Lloegr yn Twickenham.
Mae Warren Gatland wedi gwneud 15 o newidiadau i'r t卯m drechodd Lloegr 20-9 yng Nghaerdydd.
Dyma fydd y tro cyntaf i Lake fod yn gapten wedi i Jac Morgan arwain y t卯m penwythnos diwethaf.
Bydd y canolwr Joe Roberts yn ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn a Taine Plumtree yn dechrau yng nghrys rhif wyth wedi perfformiad da yng Nghaerdydd.
'Cyfle i griw arall'
Roedd Gatland yn barod wedi awgrymu ei fod yn mynd i ddefnyddio tri chapten gwahanol yn ystod Cyfres yr Haf, ac mae'n si诺r i Morgan greu argraff dda yng Nghaerdydd, gan ennill seren y g锚m.
Wrth edrych tuag at y penwythnos a'r capten newydd dywedodd Gatland: "Mae Dewi wedi gwneud argraff dda iawn.
"Mae'n uchel ei barch yn y gr诺p, mae ganddo lais ac mae ganddo hyder yn ei hun a'i allu."
Mae Lake, sy'n 24, wedi chwarae wyth g锚m ryngwladol i Gymru ond fe fethodd 芒 chwarae yng ngemau'r Chwe Gwlad yn 2023 oherwydd anaf.
Hefyd ar y penwythnos bydd Josh Adams yn ennill ei 50fed cap i Gymru.
Dywedodd Gatland: "Mae 'na gyfle i griw arall o chwaraewyr nad oedd yn rhan o'r g锚m wythnos ddiwethaf.
"Mae 'na gystadleuaeth wych o fewn y garfan. Roeddwn i'n eithaf hapus gyda pherfformiad y t卯m a'r canlyniad wythnos ddiwethaf."
Y garfan i wynebu Lloegr:
Liam Williams; Josh Adams, Joe Roberts, Nick Tompkins, Tom Rogers; Owen Williams, Tomos Williams; Gareth Thomas, Dewi Lake (capten), Tomas Francis, Adam Beard, Rhys Davies, Dan Lydiate, Tommy Reffell, Taine Plumtree.
Eilyddion: Sam Parry, Kemsley Mathias, Dillon Lewis, Christ Tshiunza, Taine Basham, Kieran Hardy, Dan Biggar, Kieran Williams.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023
- Cyhoeddwyd2 Awst 2023
- Cyhoeddwyd3 Awst 2023