Pryder am ddiogelwch plant ar-lein dros wyliau'r haf
- Cyhoeddwyd
Mae elusen Barnardo's Cymru wedi rhybuddio bod mwy o blant mewn perygl o gael eu targedu a'u cam-drin ar-lein yn ystod gwyliau'r haf.
Mewn arolwg ar-lein ymhlith dros 700 o blant - arolwg a gafodd ei gynnal gan Barnardo's - dywedodd un plentyn ym mhob 10 eu bod wedi cyfathrebu ar-lein gyda rhywun doedden nhw ddim yn ei adnabod.
Rhagwelir y bydd bron i 8% o'r plant hyn yn gwneud trefniadau i gyfarfod 芒'r bobl yma dros yr haf.
Mae Llywodraeth y DU wrthi'n cyflwyno mesur i sicrhau diogelwch ar-lein ond mae'r Blaid Lafur wedi beirniadu'r oedi sydd wedi bod ac yn galw am weithredu ac am gryfhau'r mesur yn gynt.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU wrth Newyddion S4C y bydd y mesur "arloesol" yn dod yn gyfraith "mewn ychydig o fisoedd".
Ond mae elusen Barnardo's yn pryderu am ddiogelwch plant dros wyliau'r haf, wrth i bobl ifanc dreulio mwy o amser ar-lein gan nad ydynt yn yr ysgol.
Dywedodd Louise o Barnardo's Cymru: "Ma'r rhyngrwyd yn gallu rhoi cyfleoedd ardderchog i blant, yn gymdeithasol ac yn addysgol ac mae'r rhan fwyaf o blant yn gallu defnyddio'r we yn saff iawn.
"Ond ni'n gwbod bod camfantais rhywiol yn digwydd ar-lein hefyd.
"Yn y gwyliau haf, ma' plant ddim yn yr ysgol, so ma' mwy o amser efo nhw i ddefnyddio'r we. Felly gall pobol sydd mo'yn cam-drin plant a chamfanteisio plant, dargedu plant ar-lein."
Pryder i rieni
Mae cyfrifiaduron, ffonau symudol a gemau ar-lein yn denu nifer o blant ac mae dirgelwch y byd digidol yn medru bod yn boen meddwl i rieni.
Dywedodd Rachel o Gwmrheidol ger Aberystwyth ei bod yn pryderu am ddiogelwch ei phlant ar-lein.
"Dwi'n pryderu trwy'r amser fel rhiant, chi mo'yn cadw'ch plant yn saff yn dydych chi," dywedodd.
"Ond dwi'n gobeithio bod ni fel rhieni wedi rhoi digon o bethe yn eu lle, a ni 'di sgwrsio amdano fe fel bod y plant yn aros yn saff. Ma' pob dyfais sydd gyda nhw yn gysylltiedig i e-bost fy ng诺r i.
"Wrth weld y newyddion, a phethe ar y we fy hun, ma' fe'n bwysig bod pethe yn eu lle cyn i unrhyw beth ddigwydd."
Mae'r teulu wedi mynd ati i geisio cadw'r plant yn ddiogel ar-lein drwy sicrhau cyfathrebu clir ac mae'r plant, Dollie a Herbie, yn ymwybodol iawn o beryglon y we.
Dywedodd Dollie: "Pan ni'n chware gemau ar-lein ni just yn chware gyda'n gilydd a gyda ffrindie ni fel arfer, ac os ni ishe chware gyda ffrind ni'n galw nhw i double checio bod e'n account nhw so ni'n gallu chware gyda nhw.
"A ni dim ond gyda pum ffrind achos - ni dim ond eisiau bod yn ffrindie gyda rhai ysgol a dim pobol ni ddim yn nabod".
Ychwanegodd Herbie: "A dwi di rejectio pobol eraill sydd wedi trio adio fi. Ar y foment dwi heb declino tua 600"
Ategodd Dollie: "Ie, ma' 'da fi fel 200 pobol yn trio adio fi, fi mynd i drio declino nhw gyd"
Mesur diogelwch ar-lein
Mae mesur diogelwch ar-lein Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd yn mynd drwy D欧'r Arglwyddi, ond wedi tipyn o oedi mae Llafur yn galw ar y llywodraeth i weithredu'n gyflymach.
Dywedodd Nia Griffith, AS Llanelli: "Mae'n siomedig iawn ac mae'n beryglus iawn, achos dro ar 么l tro ers 2017, chwe blynedd yn 么l, ma'r Llywodraeth wedi gohirio'r peth.
"Ac i fod yn onest mae'n drueni mawr achos mae cymaint o bobl ifanc yn mynd ar-lein ac wrth gwrs 'da ni'n gwbod bod cymaint o beryglon yna."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU y bydd y mesur "arloesol" yn dod yn gyfraith "mewn ychydig o fisoedd".
Aeth y datganiad ymlaen i ddweud eu bod wedi "cryfhau'r mesur" yn ystod y broses o'i lunio, er mwyn "amlinellu'n glir" y cyfrifoldebau a roddir ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023