Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carchar am oes i Lucy Letby am lofruddio saith babi
Mae nyrs 33 oed wedi cael ei dedfrydu i weddill ei hoes yn y carchar am lofruddio saith o fabanod oedd yn ei gofal mewn ysbyty yng Nghaer.
Ddydd Gwener cafwyd Lucy Letby yn euog hefyd o geisio llofruddio chwe baban arall yn Ysbyty Countess of Chester, ac ni fydd modd ystyried ei rhyddhau o'r carchar.
Roedd y nyrs, sy'n dod o Henffordd yn wreiddiol, wedi pledio'n ddieuog i'r holl gyhuddiadau yn ei herbyn, mewn cysylltiad ag achosion rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.
Bob blwyddyn mae 20,000 o bobl o ogledd-ddwyrain Cymru'n defnyddio'r ysbyty, ac mae'r 大象传媒 yn deall bod babanod a gafodd eu geni i deuluoedd o Gymru ymhlith y rheiny a effeithiwyd.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau'r llofruddiaethau "er mwyn helpu sicrhau bod teuluoedd yn cael yr atebion maen nhw eu hangen".
Clywodd yr achos, a barodd am naw mis yn Llys y Goron Manceinion, bod Letby wedi defnyddio sawl techneg i ymosod ar y babanod, gan gynnwys gwenwyno gydag inswlin, chwistrellu aer i wythiennau neu bibellau bwydo, neu orfwydo.
Fe gafwyd Letby yn ddieuog o ddau gyhuddiad o geisio llofruddio, ond fe fethodd y rheithgor 芒 phenderfynu yn achos cyhuddiadau pellach o geisio llofruddio pedwar o fabanod.
Mae bargyfreithiwr yr erlyniad wedi gofyn am 28 diwrnod i ystyried a ddylid cynnal achos llys newydd yn achos y chwe chyhuddiad yna.
Cododd aelod o staff bryderon am y cynnydd yn nifer y marwolaethau a salwch sydyn yn yr uned babanod newydd-anedig yn 2016. Yr unig berson yn bresennol ym mhob achos oedd Lucy Letby.
Dechreuodd yr heddlu ymchwilio ac ar 么l ymgynghori gydag arbenigwyr, fe ddaethon nhw i'r casgliad mai un person allai fod yn gyfrifol.
Fe ymosododd Letby ar y plant yn gyson dros gyfnod o flwyddyn.
Mae'r ysbyty a'r bwrdd iechyd lleol yn wynebu cwestiynau pam na chafodd Letby ei hamau ynghynt, o ystyried iddi droseddu cyhyd.
Dydy'r 17 o blant sy'n rhan o'r achos ddim wedi cael eu henwi, ac fe gyfeiriwyd atyn nhw yn y llys yn 么l llythyren - o Fabi A i Fabi Q.
Wrth archwilio cartref Lucy Letby yn 2018, daeth yr heddlu o hyd i dros 250 o dudalennau o nodiadau meddygol, gan gynnwys rhai oedd yn perthyn i ddioddefwyr honedig.
Roedd hi wedi gyrru cardiau i rieni plant roedd hi wedi eu llofruddio, ac wedi chwilio am eraill ar y cyfryngau cymdeithasol.
Hefyd yn ei th欧 roedd nodiadau yn ei llawysgrifen ei hun yn dweud pethau fel "dwi'n ddieflig".
Er i'r llys ei chael hi'n euog o 13 cyhuddiad ddydd Gwener, does dim esboniad pam wnaeth Lucy Letby ymosod ar y babanod yn ei gofal.
'Sefyllfa erchyll'
Wrth ymateb i'r achos fe ddywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan wrth 大象传媒 Cymru fod yr achos yn un "trasig", gan ychwanegu y byddan nhw'n gweld a oes gwersi i'w dysgu o'r ymchwiliad hefyd.
"Mae'n calonnau ni i gyd yn mynd mas i'r teuluoedd 'na sydd wedi diodde'n enbyd gyda'r sefyllfa erchyll," meddai.
"Yn amlwg rhaid i ni weld os oes 'na wersi i'w dysgu, ond eisoes mae ganddon ni duty of candour a duty of quality lle mae 'na gyfrifoldeb ar bobl sydd yn gweithio yn NHS Cymru bod nhw'n pwyntio pethau allan os maen nhw'n gweld rhywbeth o'i le.
"Yn amlwg mae'r inquiry yn gyfle i ddysgu pethau newydd, ac mi fyddwn ni yn gwneud ein gorau i ddysgu o'r rheiny hefyd."