Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arwyddion i gerddwyr llwybr llechi yn Eryri wedi eu dwyn
Mae elusen sy'n gofalu am un o lwybrau mwyaf newydd a chynyddol boblogaidd yn Eryri yn dweud bod arwyddion wedi bod yn cael eu dwyn yn gyson ar hyd rhan o'r ffordd.
Mae Llwybr Llechi Eryri yn 83 milltir o hyd, ac yn mynd 芒 cherddwyr drwy rai o'r ardaloedd oedd fwyaf allweddol i'r hen ddiwydiant hwnnw.
Mae pyst i ddangos y ffordd wedi'u gosod ers 2017, ond tua wyth wythnos yn 么l cafwyd adroddiadau fod dau ar hyd rhan o dir corsiog ger Mynydd Llandygai wedi diflannu.
Cafodd pyst newydd eu gosod yna gan Gyngor Gwynedd a gwirfoddolwyr y Ramblers, yn ogystal 芒 dau bostyn ychwanegol - ond mae'r pedwar yna wedi diflannu hefyd rhyw chwe wythnos yn 么l.
'Siomedig iawn'
"Mae'r rhain yn drwm - mae'n nhw'n tua wyth troedfedd o hyd, pedair modfedd o drwch," meddai Aled Owen, un o ymddiriedolwyr y llwybr.
"I gludo'r pedwar postyn yna byddai'n rhaid i chi gael cerbyd, byddai angen beic cwad neu rywbeth felly.
"Mae gan y pyst yma gylchigau plastig wedi'u sgriwio iddyn nhw ac fe wnaeth rhywun lleol ddod o hyd i un mewn nant gyfagos, felly mae pwy bynnag sydd wedi eu cymryd wedi mynd i'r drafferth o dynnu'r cylchigau.
"'Dyn ni ddim yn meddwl mai fandaliaeth ydi hyn, neu fydden nhw jyst wedi eu tynnu nhw allan a'u taflu nhw.
"Mae rhywun wedi eu cymryd er mwyn eu hailddefnyddio, dwi'n meddwl... nid rhywun sydd yn gwrthwynebu'r llwybr ydi hwn, achos mae ffyrdd llawer haws o wneud hynny."
Ychwanegodd Mr Owen ei bod hi'n anodd monitro'r rhan honno o'r llwybr am ei bod yn anghysbell, a bod y pyst sy'n cael eu gosod yno'n gorfod gweddu i'r ardal gan ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae wedi costio tua 拢100 i ailsod y pyst, meddai, ond dydy hynny ddim yn cynnwys yr "amser a'r rhwystredigaeth" i'r rheiny sy'n gofalu am y safle.
Dywedodd Cyngor Gwynedd mewn datganiad eu bod nhw'n "ystyried eu hymateb i'r digwyddiad".
"Does dim rheswm clir ar hyn o bryd am dynnu'r pyst, a byddwn yn trafod gyda'r holl rhanddeiliaid er mwyn ceisio datrys y mater," meddai llefarydd.
"Mae'n siomedig iawn bod rhain wedi cael eu cymryd, yn enwedig gan fod aelodau'r Ramblers wedi rhoi eu hamser yn wirfoddol i'w gosod a gwella'r llwybr."
Ychwanegodd Aled Owen fod yr elusen yn ystyried ffyrdd o daclo'r broblem, gan gynnwys gosod arwyddion wedi'u gwneud o lechi, ond y byddai'n rhaid cytuno gyda Chyfoeth Naturiol Cymru cyn gallu gwneud hynny.