大象传媒

Diffyg cynghorau Cymru 'o leiaf yn 拢395m' dros 24 mis

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau cyngorFfynhonnell y llun, Getty Images/大象传媒
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynghorau'n darparu nifer fawr o wasanaethau gan gynnwys gofal, addysg, casglu gwastraff ac adnoddau hamdden

Fe fydd diffyg ariannol yng nghyllidebau cynghorau yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus, meddai awdurdodau lleol.

Yn 么l ymchwil gan y 大象传媒 mae cynghorau Cymru yn disgwyl diffyg cyllid cyfunol o leiaf 拢394.8m dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae cyllidebau ysgolion dan bwysau a chost darparu gofal cymdeithasol yn codi'n aruthrol, meddai cynghorau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda chynghorau, ond bod mwy o bwysau ar arian cyhoeddus oherwydd chwyddiant uchel.

Fe wnaeth Shared Data Unit y 大象传媒 gynnal arolwg o gynghorau a'u cyllidebau.

O'r 22 cyngor sir yng Nghymru, dywedodd 17 bod angen iddyn nhw arbed 拢182m eleni, roedd 20 yn rhagweld diffyg ar y cyd o 拢394.8m dros ddwy flynedd ac roedd 10 wedi codi'r dreth gyngor o leiaf 5%.

Disgrifiad,

Dr Marlene Davies: "Efallai bod e'n amser nawr i aildrefnu llywodraeth leol?"

Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n bwriadu gwneud yr arbediad mwyaf eleni sef 拢27.8m.

Mae'r 拢16.5m sydd angen ei arbed ym Mhowys yn cyfateb i 拢123.50 y pen yn y sir - yr arbediad mwyaf y pen gan unrhyw gyngor.

Daw'r arolwg wedi rhybuddion eraill bod gwasanaethau sy'n cael eu rhedeg gan gynghorau yn teimlo'r pwysau yn sgil toriadau, biliau ynni a chwyddiant uchel.

Dywedodd un o bwyllgorau'r Senedd fis diwethaf fod angen arian ychwanegol i gadw ar agor.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau wedi gwario arian sy'n cael ei neilltuo ar gyfer costau annisgwyl, ond "bod hyn ddim yn gynaliadwy".

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yna rybudd diweddar bod angen mwy o arian i gadw llyfrgelloedd cyhoeddus ar agor

Mewn datganiad dywedodd: "Rydym hefyd yn poeni am y goblygiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn y tymor canolig. Bydd toriadau yn cael effaith ar wasanaethau a swyddi.

"Rydym yn amcangyfrif y gallai fod bwlch yn y gyllideb o rhwng 拢330m a 拢480m y flwyddyn nesaf a fydd yn cael effaith ddifrifol ar ddarpariaeth gwasanaethau lleol, ac rydym ar hyn o bryd yn cynnal arolwg o gynghorau i gael amcangyfrifon mwy manwl gywir ac asesu'r risgiau."

'Ysgolion mewn dyled'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru dywedodd y Cynghorydd Sir ym Mhowys ac arweinydd y Ceidwadwyr yno, Aled Davies, fod pethau'n "mynd yn galetach bob blwyddyn".

"Mae wastad wedi bod yn sefyllfa anodd ers i fi fod yn gynghorydd dros y 15 mlynedd diwethaf. Ma' wastad wedi bod diffyg yn ein cyllid ni.

"Mae'n rhaid i ni edrych ar sut mae'r llywodraeth yng Nghaerdydd yn dosbarthu y pres dros yr awdurdodau lleol.

"Pan 'dw i'n edrych ar ysgolion, yn enwedig yr ysgolion uwchradd, ma' nhw mewn dyled. Pan 'dach chi'n edrych ymlaen dros y ddwy, tair mlynedd nesa fe fyddan nhw 拢5m mewn dyled.

"Felly dydy hwnna ddim yn sustainable yn yr hir dymor."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cost darparu gwasanaethau gofal wedi codi'n sylweddol i'r awdurdodau lleol

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd sy'n aelod o Blaid Cymru, Dyfrig Siencyn, fod pob gwasanaeth "yn wynebu bygythiad" yn sgil toriadau.

"'Dan ni wedi bod yn wynebu toriadau ers degawd, bob blwyddyn, 'dan ni wedi wynebu toriadau yn y gyllideb.

"Mae 'na ddewis eitha' syml pan 'dach chi'n wynebu toriadau i'ch cyllideb, un ai 'dach chi'n codi'ch incwm a'r ffordd pennaf y gallwn ni wneud hynny ydy edrych ar gynnydd yn y dreth.

"A'r ochr arall wrth gwrs ydy gwneud toriadau i wasanaethau, a ma' pob un gwasanaeth dan ryw fath o fygythiad neu ei gilydd.

"Fel arfer fydden ni yn edrych ar geisio amddiffyn y gwasanethau hynny sy'n effeithio ar ein bobl mwya bregus ni - gofal oedolion, gofal plant ac addysg - hyd y medrwn ni.

"Nid problem sut mae'r arian yn cael ei ddosbarthu ydy hwn. Ond problem maint y gacen. Dydy llywodraeth leol ddim yn cael digon o arian i ddarparu'r gwasanaethau sy'n gyfrifoldeb i ni."

A yw'n bryd adolygu'r fformiwla?

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi'r bai ar chwyddiant a "chamreoli economaidd" gan Lywodraeth y DU.

Mae'r cyllid i gynghorau wedi cynyddu eleni, ond dywedodd llefarydd: "Rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniad anodd ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chynghorau i gwrdd 芒'r her."

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn cytuno ar fformiwla gyda chynghorau i benderfynu faint o gyllid y mae pob un o'r 22 awdurdod yn ei gael, ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylid adolygu hynny.

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Tor茂aid yn Senedd Cymru, Sam Rowlands: "Gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn gyfrifol am ariannu ein cynghorau, mae'n rhaid gweithredu ar frys i adolygu'r fformiwla ariannu, cefnogi ein cynghorau, a rhaid i'r Lywodraeth Lafur amlinellu pa wasanaethau a chyfrifoldebau maen nhw'n disgwyl i gynghorau dorri."