Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Croeso i gynllun amddiffyn Aberaeron rhag stormydd
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae yna groeso brwd wedi bod yn lleol i'r newyddion y bydd bron i 拢32m yn cael ei wario ar fesurau i amddiffyn Aberaeron rhag stormydd y dyfodol, yn sgil bygythiad newid hinsawdd.
Bydd 拢26.85m yn dod o gronfeydd rhaglen rheoli risg arfordirol Llywodraeth Cymru, gyda Chyngor Sir Ceredigion yn cyfrannu 拢4.74m.
Mae'r cynllun i amddiffyn rhag stormydd wedi cael ei ddisgrifio fel un "hanfodol" gan y cynghorydd lleol, Elizabeth Evans.
Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu gymryd 18 mis.
Mae'r cynllun wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gan y cyngor a chwmni peirianyddol Atkins dros gyfnod o bum mlynedd.
Yn 么l yr aelod cabinet ar gyfer priffyrdd, gwasanaethau amgylcheddol a rheoli carbon, Keith Henson, mae'n hanfodol bod y cynllun yn cael ei wireddu yn sgil bygythiad newid hinsawdd.
'Derbyn bod rhaid i hyn ddigwydd'
Bu'n rhaid cau Pen Cei yn Aberaeron yn dilyn stormydd ym mis Rhagfyr 2013, Ionawr 2014 a Hydref 2017, wrth i dd诺r y m么r orlifo dros yr amddiffynfeydd presennol o fewn yr harbwr a'r traeth deheuol.
Roedd yna lifogydd difrifol hefyd yn 2008.
Yn 么l y cynghorydd Elizabeth Evans, mae yna groeso cynnes wedi bod i'r newyddion yn nhref Aberaeron ymhlith busnesau a thrigolion.
Dywedodd: "Mae'r ymateb wedi bod mor bositif. Hir yw pob aros, ond o'r diwedd mae'r prosiect yn symud ymlaen.
"Mae fe mor hanfodol a fi'n credu mae pobl yn deall 'na. Mae pobl sydd yn byw yma yn derbyn bod rhaid i hyn ddigwydd."
Dywedodd ei bod hi'n awyddus i drefnu cyfarfod gyda'r cwmni fydd yng ngofal y gwaith er mwyn osgoi unrhyw effaith ar fusnesau twristiaeth dros yr haf y flwyddyn nesaf.
Fe gyfaddefodd y cynghorydd Keith Henson hefyd ei bod yn rhyddhad bod yr arian wedi dod i law ar adeg o gwtogi i gynghorau.
"Ni'n falch iawn o'r buddsoddiad," meddai.
"Wrth feddwl am sut mae'r hinsawdd yn newid dros y blynyddoedd, mae eisiau i ni sicrhau bod ni'n rhoi'r cynlluniau mewn lle.
"Ni'n hyderus bod y cynllun mynd i ddiogelu eiddo a busnesau yn y dref."
'Eisiau buddsoddiad ers blynyddoedd'
Mae un o hwylwyr brwd y dref hefyd yn falch o weld y buddsoddiad.
Yn 么l Glyn Heulyn, sydd wedi bod yn defnyddio'r harbwr ers 25 mlynedd, mi fydd codi morglawdd newydd o bier y gogledd yn gwella diogelwch i hwylwyr sydd yn mynd a dod o Aberaeron.
"Mae eisiau buddsoddiad ers blynyddoedd," meddai.
"Mae'r pier deheuol yn cwympo lawr, yn ara' bach. Dwi'n falch i weld bod hwnna yn mynd i gael ei atgyweirio.
"Unrhyw bryd mae storom o'r gogledd-orllewin mae'r tonnau yn dod mewn i'r harbwr a lot o gychod yn y cefn yn suddo bob blwyddyn, felly mae eisiau'r wal ogledd yma i roi cysgod o'r gogledd orllewin."
Ychwanegodd: "Cafodd yr harbwr ei adeiladu rhyw 200 mlynedd 'n么l gan Alban Gwynne, ac ail ran ei gynllun oedd braich yn mynd mas o'r ochr ogleddol fel sy'n mynd i ddigwydd nawr.
"Mae e 220 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ond ni'n mynd i gael y cysgod i'r harbwr."
Beth fydd y mesurau?
Dyma rhai o'r mesurau sydd yn rhan o'r cynllun newydd:
- Adeiladu morglawdd creigiau newydd sy'n ymestyn allan o Bier y Gogledd;
- Adnewyddu ac ailadeiladu pen pier Pier y De, gan gynnwys atgyweirio waliau;
- Adeiladu argae yn y lleoliadau canlynol: Wal gerrig a gwydr newydd ar hyd Pen Cei, codi argae presennol Afon Aeron rhwng cefn Y Seler a'r A487 ac adeiladu wal llifogydd cerrig a gwydr newydd rhwng Pwll Cam a'r Seler;
- Adeiladu llifddor yn harbwr mewnol Pwll Cam;
- Gwelliannau i'r amddiffynfeydd presennol ar Draeth y De, gan gynnwys disodli'r grwynau pren presennol; disodli ac ymestyn y wal gynnal creigiau presennol a chynllun adfer y traeth o'r newydd.
Cwmni BAM Nuttall fydd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu - yr un cwmni a gwblhaodd waith Traeth y Gogledd Aberaeron yn llwyddiannus yn 2009, ac oedd yng ngofal dau gam cyntaf cynllun amddiffyn arfordirol Borth i Ynyslas yn 2012 a 2015.
Yn 么l y cynghorydd Keith Henson y gobaith yw dechrau ar y cynllun erbyn diwedd y flwyddyn, ac fe fydd hi'n cymryd rhyw 18 mis i gwblhau'r gwaith.