Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd am effaith trwsio tomenni glo ar fywyd gwyllt
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru
Mae yna rybudd y gallai ymdrechion i drwsio neu gael gwared ar hen domenni glo gael effaith "drychinebus" ar rywogaethau prin iawn o fywyd gwyllt.
Ers 2020 mae adolygiad wedi bod yn cael ei gynnal o ddiogelwch tomenni yn dilyn tirlithriad difrifol.
Ond mae arbenigwyr ecoleg blaenllaw wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru nad ydyn nhw'n teimlo'n rhan o'r drafodaeth.
Mynnu mae Llywodraeth Cymru ei bod wrthi'n ystyried "y cysylltiadau" rhwng cyfreithiau amgylcheddol a'r gwaith o ddiogelu'r tomenni.
'Dim rhaid i chi fynd i'r Amazon'
Ar draws y wlad mae yna bron i 2,500 o hen domenni glo - olion amlwg o ddiwydiant fu unwaith mor bwysig yma.
Gyda degawdau lawer bellach ers i gyfnod y cloddio fod ar ei anterth, mae natur wedi cydio unwaith eto yn y tirweddau hyn, ac arolygon diweddar wedi datgelu bod y safleoedd bellach yn gartref i ystod eang iawn o blanhigion, pryfed, adar, ymlusgiaid ac amffibiaid.
"Does dim rhaid i chi fynd i'r Amazon i ddod o hyd i rywogaethau newydd. Allwch chi jysd mynd am dro i'ch tip glo lleol," eglurodd Liam Olds o'r Colliery Spoil Biodiversity Initative.
Mae'r arbenigwr ar bryfed wedi treulio bron i ddegawd yn archwilio'r safleoedd drwy dde Cymru, gan nodi dros 1,000 o rywogaethau di-asgwrn-cefn - gydag un ym mhob pump yn rai sy'n cael eu hystyried "o bwysigrwydd cadwriaethol".
Ymysg y canfyddiadau newydd roedd pryfed miltroed a chafodd yr enwau Beddau Beast a Maerdy Monster.
Mae'r tomenni wedi datblygu'n gymaint o hafan ar gyfer bywyd gwyllt am eu bod yn cefnogi sawl gwahanol fath o gynefin yn agos i'w gilydd - o gaeau blodau gwyllt, i ardaloedd o goetir, pyllau a llynnoedd i ardaloedd o dir noeth.
Mae 99 o'r tipiau bellach wedi'u dynodi yn safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, a 32 arall wedi'u cofrestru yn ardaloedd cadwraeth arbennig.
"Mae 'na lot o bobl - gan gynnwys rheiny sy'n gwneud penderfyniadau yngl欧n 芒 dyfodol y safleoedd yma - sydd ddim yn deall yn iawn pa mor bwysig ydyn nhw," meddai Mr Olds.
'Heb ystyried y goblygiadau'
Cafodd tasglu ei sefydlu ar y cyd rhwng llywodraethau Cymru a'r DU yn 2020 i drafod dyfodol tomenni glo'r wlad.
Daeth hynny ar 么l i ran o domen ym Mhendyrus yng Nghwm Rhondda lithro yn ystod glaw trwm Storm Dennis y flwyddyn honno, gyda 60,000 o dunelli o wastraff yn disgyn i'r afon islaw.
Mae mesur diogelwch tomenni glo wedi'i addo gan Lywodraeth Cymru yn ystod y tymor Seneddol nesaf, allai weld corff newydd yn cael ei sefydlu i reoli'r gwaith o arolygu tomenni ac unrhyw waith adfer.
Ond dywedodd Mr Olds nad oedd goblygiadau'r cynigion ar natur wedi'u hystyried yn ddigonol eto.
Doedd "dim ymgynghori wedi bod" gyda grwpiau bywyd gwyllt, meddai - gan alw am "fwy o ddeialog rhwng y bobl sy'n gwneud penderfyniadau a ni sydd wir yn deall y safleoedd yma".
"Mae'n rhaid i ddiogelwch y cyhoedd fod ar flaen ein meddyliau ni, ond mae'n hanfodol hefyd bod unrhyw waith adfer neu glirio ar domenni glo yn cymryd i ystyriaeth eu pwysigrwydd gwirioneddol o ran bioamrywiaeth.
"Mae 'na risg go iawn heb i ni fod yn ofalus y gallai gwaith o'r fath gyfrannu at golli bioamrywiaeth yn ystod argyfwng natur, fyddai'n drychinebus yn ecolegol."
'Ynysoedd bach o fioamrywiaeth'
Daeth ymchwil ar wah芒n i'r casgliad fod pob tomen bellach yn gartref i leiafrif o 350 rhywogaeth o ffwng - rhywbeth sydd wedi'i ddisgrifio fel rhywbeth "hollol hynod" gan yr arbenigwr Emma Williams o brosiect Coal Spoil Fungi.
Eglurodd bod gan y ffwng r么l allweddol wrth ddelio 芒 deunyddiau gwenwynig yn y tir ac ailgylchu gwastraff, sy'n galluogi rhywogaethau eraill i oddef yr amodau ar y tomenni.
Ond doedd ffwng "ddim wrth y bwrdd trafod" o ran yr adolygiad mawr sydd wrthi'n digwydd, honnodd Ms Williams.
"Mae'n rhaid i ni edrych ar be'n union fydd yr effaith, be' fyddwn ni'n colli pan fydd y gwaith peirianyddol yn digwydd.
"Mae'r safleoedd yma yn ynysoedd bach o fioamrywiaeth - a dylid eu gweld nhw fel llefydd hudol."
'Angen taro balans'
Cafodd yr Athro Robert Lee o Brifysgol Birmingham, sy'n arbenigo ar gyfraith amgylcheddol, gais gan Lywodraeth Cymru i edrych ar eu cynlluniau am ddeddfwriaeth newydd i reoli tomenni glo.
Daeth ei bapur ymchwil i'r casgliad bod yna "falans anodd i'w daro rhwng caniat谩u ymyrryd yn ystod argyfwng i drwsio tomenni tra'n diogelu'r cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y gwaith hwnnw".
Mewn cyfweliad 芒 大象传媒 Cymru eglurodd yr Athro Lee fod hyn yn "ond un enghraifft o'r hyn sy'n mynd i'n hwynebu ni yn y dyfodol wrth geisio mynd i'r afael 芒 newid hinsawdd ac addasu iddo fe.
"Fe fydd e'n dod 芒 gwrthdaro o ran beth i'w flaenoriaethu."
Gyda 327 o domenni eisoes wedi'u nodi fel rhai sy'n peri risg uchel, dywedodd y gallai "gwaith o flaen llaw" gael ei wneud nawr i asesu pa rywogaethau sy'n bresennol yno a'u pwysigrwydd o ran bioamrywiaeth.
"Lle maen nhw'n fygythiad, dwi'n credu y gallwn ni ddechrau ar y dasg nawr o ofyn, os ydyn ni angen gwneud gwaith ar frys, beth allwn ni wneud i geisio cadw'r hyn sydd yno gorau gallwn ni?" meddai. 聽
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ddiolchgar i'r Athro Lee am "gwblhau'r gwaith pwysig yma sy'n ein helpu ni ddeall yn well y cysylltiadau rhwng diogelu'r tomenni a chyfreithiau amgylcheddol".
"Ry'n ni wrthi'n ystyried y casgliadau ar y cyd ag adroddiad Comisiwn y Gyfraith, fel rhan o'n hadolygiad o ddeddfwriaeth tomenni glo."