Pennaeth iechyd wedi ei thalu 'deirgwaith yr uchafswm cyflog'
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg fod un o benaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael eu talu ar gyfradd fyddai gyfystyr 芒 拢469,500 mewn blwyddyn.
Roedd hynny dros deirgwaith yn uwch na'r uchafswm ar gyfer y r么l, yn 么l rheolau Llywodraeth Cymru.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o bryderon ariannol sydd wedi bod yn ddraenen yn ystlys bwrdd iechyd y gogledd - a gafodd ei roi yn 么l dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror eleni.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn "benderfynol o wella llywodraethiant", a bod "ystod o welliannau brys eisoes yn digwydd".
拢105k am fisoedd o waith
Cafodd y t芒l mawr i'r swyddog gweithredol ei ddatgelu mewn adroddiad gan Archwilio Cymru, a ryddhawyd i aelodau bwrdd Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf.
Nododd yr Archwilydd Cyffredinol nad oedd yn gallu cadarnhau a yw cyfrifon y bwrdd iechyd ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn gywir ai peidio.
Mae hynny'n rhannol am fod problemau wedi parhau ers cyfrifon 2021/22. Ond fe wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol hefyd dynnu sylw at gamgymeriadau yn y cyfrifon, gan nodi bod dros 拢9m wedi'u priodoli i'r flwyddyn ariannol anghywir.
Fe bwysleisiodd hefyd bod t芒l un swyddog gweithredol yn sylweddol uwch na'r swm oedd wedi ei gymeradwyo.
Yn 么l yr adroddiad, cafodd cyfarwyddwraig interim dros nyrsio a bydwreigiaeth y bwrdd ei thalu 拢105,648, am waith a wnaeth yn ystod cyfnod o bedwar mis rhwng 1 Ebrill-31 Gorffennaf 2022.
Petai hi wedi cael ei thalu ar y gyfradd honno am flwyddyn gyfan, byddai wedi bod gyfystyr 芒 chyflog o 拢469,500.
Ond dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol y dylai'r r么l fod wedi dod o dan fand cyflog 14, sydd yn cynnig uchafswm cyflog o 拢149,334.
Cadarnhaodd Gaynor Thomason, swyddog profiadol o fewn y gwasanaeth iechyd sydd wedi gweithio mewn sawl bwrdd ar draws y Deyrnas Unedig, mai hi oedd yn gweithio yn y r么l dan sylw yn y cyfnod a nodwyd gan yr archwilydd.
Does dim awgrym iddi hi wneud unrhyw beth o'i le.
Pan ofynnwyd a oedd hi'n gwybod am reolau Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒 chyflogau'r swydd, dywedodd nad oedd hi'n ymwybodol o unrhyw gyfraddau t芒l, gan ofyn am gyfeirio unrhyw gwestiynau pellach at y bwrdd iechyd.
Nododd Archwilio Cymru fod y bwrdd iechyd hefyd wedi cofnodi cyflog y prif weithredwr ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn anghywir, gan adrodd cyflog o 拢208,000 i gychwyn, cyn newid y ffigwr i 拢223,000.
'Cofnodion anghywir a bwriadol'
Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi gwario 拢768,000 ar adroddiad gan gwmni Ernst & Young (EY) i bryderon am gyfrifon y bwrdd yn 2021/22.
Nid yw adroddiad EY wedi cael ei gyhoeddi, ond mae 大象传媒 Cymru wedi gweld copi sydd yn honni i swyddogion Betsi Cadwaladr wneud cofnodion anghywir a bwriadol i'r cyfrifon.
Ym mis Ebrill, fe ollyngodd uned gwrth-dwyll GIG Cymru ymchwiliad i dwyll honedig o fewn y bwrdd iechyd.
Ond mae Heddlu'r Gogledd hefyd wedi bod yn adolygu gwybodaeth, ac fe gadarnhaodd y llu wrth Newyddion S4C fod yr adolygiad hwnnw wedi ei gwblhau gydag adroddiad terfynol yn cael ei baratoi ar hyn o bryd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y pryderon a godwyd yn fater i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Mewn datganiad, dywedodd prif weithredwraig interim y bwrdd iechyd, Carol Shillabeer: "Mae'n glir i'r bwrdd iechyd brofi blwyddyn heriol iawn yn 2022/23 a arweiniodd at benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r corff dan Fesurau Arbennig.
"Mae cyfrifon y cyfnod hwnnw wedi bod yn destun i archwiliad trylwyr, ac mae'r rhesymau am farn yr Archwilydd Cyffredinol yn glir.
"Mae'r bwrdd newydd yn benderfynol o wella llywodraethiant, gan gynnwys llywodraethiant ariannol, ac mae cyfres o welliannau sydd i ddigwydd ar unwaith eisoes wedi cychwyn."
'Cwestiynau difrifol'
Dywedodd AS Plaid Cymru, Hywel Williams ei fod yn "ddiwrnod arall o sgandal" i'r bwrdd iechyd.
"Mae wedi bod yn amlwg fod problemau difrifol wedi bod o fewn y bwrdd, yn enwedig ar yr ochr reolaeth, am rai blynyddoedd," meddai.
"Ond mae hyn yn drawiadol, rhywun yn cael ei thalu cymaint o arian heb fod angen i'r peth gael ei awdurdodi'n iawn."
Ychwanegodd yr Aelod Senedd Ceidwadol, Darren Millar fod canlyniad cychwynnol yr archwiliad "yn codi cwestiynau difrifol am effeithlonrwydd" y camau roedd Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd.
"Mae'n rhaid i drethdalwyr yng ngogledd Cymru gael hyder fod y rheiny sy'n gyfrifol am wario ar wasanaethau cyhoeddus yn geidwaid gofalus o'r adnoddau prin sy'n cael eu rhoi iddyn nhw," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023