Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Costau dychwelyd i’r ysgol yn ‘bryder’ i nifer
- Awdur, Megan Davies
- Swydd, Newyddion ´óÏó´«Ã½ Cymru
Mae rhieni yn rhybuddio bod costau paratoi ar gyfer y tymor ysgol newydd yn fwy o bryder nag erioed o'r blaen.
Wrth i ddrysau'r ystafell ddosbarth ailagor ar gyfer y tymor newydd, mae un cymuned yng Nghaerdydd wedi trefnu digwyddiad i geisio cynnig cymorth i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Yn ardal Llaneirwg mae digwyddiad cymunedol wedi ei gynnal yr wythnos hon yn cynnig gwasanaeth torri gwallt am ddim, gwisgoedd ysgol ail-law am ddim, a nwyddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae plant oedran dosbarth derbyn hyd at Flwyddyn 11 sydd ar hyn o bryd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn gallu gwneud cais am grant tuag at wisg ysgol, a dillad ac offer ar gyfer chwaraeon.
'Cymaint angen cymorth'
Un sydd wedi gwirfoddoli ei hamser yn Llaneirwg yw Kelly Arthurs, sydd wedi bod yn cynnig torri gwallt plant am ddim cyn iddyn nhw ddychwelyd i'r ysgol.
"Mae torri gwallt nawr yn beth moethus dyw teuluoedd methu fforddio ar hyn o bryd," meddai'r triniwr gwallt.
Cafodd Kelly sgwrs gyda mam yn ei hardal oedd wedi rhybuddio y byddai talu i gael gwallt ei phlant wedi'u torri yn effeithio ar ei gallu i brynu bwyd yr wythnos honno.
"Mae hi'n wasanaeth nawr dwi'n ystyried cynnig ar draws Caerdydd," meddai Kelly.
Holly James, 30 oed, sy'n rhedeg yr hwb cymunedol lle mae Kelly wedi bod yn cynnig ei gwasanaeth am ddau ddiwrnod yr wythnos hon.
"Roedd 'na 200 o bobl yma ddoe a 200 o bobl eto yma heddiw," meddai Holly.
Yn ogystal â chynnig torri gwallt, mae'r gwirfoddolwyr hefyd yn cynnig nwyddau dysgu megis pennau ysgrifennu.
Dywedodd Holly: "Roedd gen i tua 300 o becynnau pennau ysgrifennu. Maen nhw i gyd wedi mynd nawr.
"Mae hynny'n dangos cymaint o angen sydd yn y gymuned i gael y plant yn ôl i'r ysgol."
Cyfnod costus i deuluoedd
Un sy'n ddiolchgar iawn am y cymorth ydy Niall Foster, 32 oed, sy'n dad i chwech o blant oedran ysgol.
"Mae dychwelyd i'r ysgol yn gostus iawn i fi," meddai Niall.
"Unrhyw beth allai 'neud i leihau'r gost, mi wnâi wneud i'r plant."
Yn ôl Niall, mae costau bywyd dyddiol gyda chwech o blant yn golygu ei fod e'n "stryglo" yn economaidd.
Mae cynllun tebyg, lle mae cynnig gwisgoedd ysgol am ddim, hefyd wedi bod ar waith yng Nghanolfan y Mynydd Du ym Mrynaman.
Dywedodd rheolwr y ganolfan, Scott Davies: "Ma' hwn yn gyfle i rieni yn y gymuned ddod mewn i ailgylchu eu gwisg ysgol a chyfle hefyd i rieni i safio arian yn lle prynu rhai newydd.
"Mae'r prosiect wedi bod yn boblogaidd iawn i ddweud y gwir. Ma' lot o rieni wedi bod mewn, ma' lot wedi rhoi a ma' lot wedi cymryd gwisg ysgol."
Yn ôl Scott mae'r prosiect hefyd yn gyfle gwych i ailgylchu, gyda'r dillad maent wedi'u derbyn o safon uchel.
Ychwanegodd: "Ma' cwpl o bobl wedi bod yn teimlo bach yn embarrassed, ond yn y prynhawn mae'r ganolfan tamed bach yn dawelach, so beth dwi'n gweud yw i ddod yn y prynhawn pan fydd neb o gwmpas.
"Mae'n amser anodd iawn i rieni yn y gymuned ac mae'n bwysig i Ganolfan y Mynydd Du helpu."
Cymorth
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cymorth ar gael i ddysgwyr a'u teuluoedd yng Nghymru a allai fod yn cael trafferth fforddio costau fel gwisg ysgol, prydau bwyd a chludiant.
Un cynllun y gallai teuluoedd fod yn gymwys ar ei gyfer yw'r grant Hanfodion Ysgol.
Mae'r grant yn cynnig cymorth tuag at wisg ysgol, cit ac offer chwaraeon, prydau ysgol am ddim a thrwyddedau Office 365 er mwyn i ddisgyblion cael mynediad at adnoddau addysgol ar-lein.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Emma Horne-Edwards, sy'n fam i 12 o blant ac wyth o'r rheiny yn blant oedran ysgol, ei bod yn falch bod eu plant yn gorfod gwisgo gwisg ysgol.
Ond fe gytunodd ei bod hi'n "lwcus" i gael grant i'w helpu gyda'r gost.
"Ond 'di o dal dim digon i gyfro popeth 'dan ni angen," meddai. "Mae'r costau'n ridiculous."
Mae'r "ymateb enfawr" ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau newydd ym mis Mai, yn gofyn i ysgolion ailedrych ar eu polisïau a gwneud y gost yn fwy fforddiadwy, yn dangos "faint o issue" yw'r costau i rieni yn ystod yr argyfwng costau byw, dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles.
"Bydd ysgolion eisoes wedi edrych ar eu polisi, neu yn bwriad neud hynny, i sicrhau, er enghraifft, nad y'n nhw'n mynnu bod logo yn ofynnol ar bob eitem," dywedodd ar Dros Frecwast.
"Bydd lot o deuluoedd falle yn prynu eitem gyda logo a wedyn dillad plaen... sy'n gyson â'r polisi."
Ychwanegodd bod sicrhau bod disgyblion "yn dod i'r ysgol yn teimlo bod nhw'n rhan o'r ysgol" heb i unrhyw bwysau ariannol ar eu teuluoedd "sefyll yn eu ffordd" yn "wir bwysig".
Mae'r canllawiau diweddaraf, meddai, yn gofyn i bob ysgol gynnal cynllun ailgylchu dillad ysgol, ac mae nawr yn bosib ymgeisio am grant Hanfodion Ysgol bob blwyddyn, yn lle bob yn ail flwyddyn.
Mae hwnnw'n werth hyd at £125 y flwyddyn, a hyd at £200 y flwyddyn wrth i ddisgybl symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.