大象传媒

Cau canolfan syrffio Parc Antur Eryri yn Nyffryn Conwy

  • Cyhoeddwyd
Hiroto AraiFfynhonnell y llun, Richard Johnson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pan agorodd y lag诺n syrffio yn 2015 ar safle hen waith alwminiwm, honno oedd canolfan syrffio mewndirol gyntaf y DU

Mae Parc Antur Eryri wedi cyhoeddi y bydd eu canolfan syrffio yn Nolgarrog, Dyffryn Conwy yn cau yn syth.

Dywedodd y cwmni eu bod yn "siomedig tu hwnt" i orfod cau'r safle, gan feio rhesymau ariannol.

Pan agorodd y lag诺n syrffio yn 2015 ar safle hen waith alwminiwm, honno oedd canolfan syrffio mewndirol gyntaf y DU.

Cafodd y ganolfan ei datblygu ar gost o 拢12m, gyda'r bwriad o ddenu 75,000 o bobl bob blwyddyn.

'Costio ffortiwn'

Mewn neges ar Facebook dywedodd y cwmni y byddai'r safle antur yn cau ar unwaith, ond y byddai'r gwesty a'r spa yn parhau ar agor.

"Y realiti trist yw, er y boddhad a'r anturiaethau mae'r tonnau wedi eu rhoi i gymaint fel yr arloesiad cyntaf o'i fath yn y byd, mae'r peiriant wedi costio ffortiwn i ni mewn amser segur, atgyweirio a cholled busnes," meddai'r cwmni.

Ychwanegodd Parc Antur Eryri y byddan nhw'n edrych ar "opsiynau ar gyfer pennod newydd gyffrous" o 2024 ymlaen.

"Diolch am ddeall yn ystod y cyfnod anodd yma," ychwanegodd y neges.

"Mae'r t卯m wedi gwerthfawrogi eich cefnogaeth ac ymroddiad drwy'r cyfnod hynod o anodd hwn."

Pynciau cysylltiedig