Ras seiclo y Tour of Britain yn dychwelyd i Wrecsam

Ffynhonnell y llun, Martin Rickett

Disgrifiad o'r llun, Olav Kooji o d卯m Jumbo-Visma oedd yn fuddugol yn Wrecsam

Daeth rhai o seiclwyr gorau'r byd i Wrecsam ddydd Llun, wrth i ail gymal ras y Tour of Britain gael ei gynnal yno.

Roedd y cymal yn dechrau a gorffen yn y ddinas, wrth i nifer o gefnogwyr ddod i wylio'r cyffro.

Dyma'r tro cyntaf i'r ras ymweld 芒 Wrecsam ers 2015.

Mae'r Tour of Britain yn ras 789 milltir, dros wyth cymal, a ddechreuodd yn Altrincham ddydd Sul.

Mae'r cystadleuwyr yn cynnwys rhai o s锚r mwya'r gamp, gan gynnwys Wout van Aert, a enillodd y ras bedair blynedd yn 么l, y Sbaenwr Gonzalo Serrano, a Tom Pidcock o Loegr.

Mae Gareth Williams yn aelod o glwb seiclo lleol, ac mewn cyfweliad ar Dros Frecwast fore Llun dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at wylio'r beicwyr, yn enwedig gan fod y cwrs yn mynd heibio'i gartref.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Y peloton ger Manceinion yn ystod cymal cynta'r ras ddydd Sul

Mae'r digwyddiad yn "andros o bwysig" am sawl rheswm, meddai.

"Dydi'r Tour of Britain ddim yn agos at faint y Tour de France, na'r Vuelta [a Espa帽a] na'r Giro [d'Italia], ond mae'n fawr iawn o'n safbwynt ni - ac yn anferth i le fel Wrecsam wrth gwrs.

"Mae'n dod 芒 pobl yma a rhoi ymwybyddiaeth o'r dref ac yn dod ag arian a twristiaeth.

"Ond yn bwysicach na dim mae'n rhoi bach o sylw i seiclo a mae hynna'n andros o bwysig, yn enwedig y dyddiau yma lle bo' ni'n cael y cyflymder newydd 20mya ymhob man.

"Mae seiclo'n ddiogel yn bwysig iawn, iawn."

Y g诺r o'r Iseldiroedd, Olav Kooij, oedd enillydd cymal dau, gan ailadrodd ei fuddugoliaeth yng nghymal cynta'r ras.

Yng Nghymru y bydd y bydd cymal ola'r ras hefyd, a hynny rhwng Margam a Chaerffili ddydd Sul, 10 Medi.