大象传媒

Dymchwel rhan o stryd eiconig yng Nghaerdydd heb ganiat芒d

  • Cyhoeddwyd
Cilgant Guildford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae blaen sawl un o'r adeiladau ar Gilgant Guildford wedi cael eu dymchwel

Mae rhan o stryd eiconig yng nghanol Caerdydd wedi cael ei dymchwel gan ddatblygwr, yn groes i ganiat芒d cynllunio.

Er gwaethaf ymgyrch i'w hachub, cafodd cynlluniau i ddymchwel corff yr adeiladau ar Gilgant Guildford eu cymeradwyo ychydig flynyddoedd yn 么l, gyda'r bwriad o adeiladu bloc mawr o fflatiau yno.

Fel rhan o'r caniat芒d hwnnw penderfynwyd y byddai blaen sawl un o'r adeiladau eiconig - gan gynnwys bar Gwdih诺 - yn cael eu cadw.

Ond dywedodd Cyngor Caerdydd ddydd Mawrth fod y datblygwr sy'n adeiladu ar y safle wedi dymchwel blaen rhai o'r adeiladau dan sylw "yn groes i'w caniat芒d cynllunio".

Dywedodd y datblygwr, Galliford Try, eu bod wedi gorfod dymchwel blaen yr adeiladau am eu bod yn ansefydlog, ac y byddan nhw'n cael eu hail-adeiladu.

'Croes i'w caniat芒d cynllunio'

Dywedodd y cyngor eu bod wedi derbyn cais gan Galliford Try yn ddiweddar yn gofyn am adolygu'r caniat芒d cynllunio er mwyn dymchwel, ac yna ailadeiladu, blaen yr adeiladau.

Roedd y cais yn dweud fod y strwythurau yn ansefydlog.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Doedd gan y datblygwr ddim caniat芒d i ddymchwel blaen yr adeiladau, meddai Cyngor Caerdydd

Yn 么l y cyngor, roedd y datblygwr wedi cael cyngor i beidio 芒 dymchwel blaen yr adeiladau cyn iddynt gael caniat芒d, ond mae hynny bellach wedi digwydd "yn groes i'w caniat芒d cynllunio a chyn i'w cais gael ei ystyried gan yr adran gynllunio".

Ychwanegodd Cyngor Caerdydd eu bod wedi cynghori'r datblygwr i roi stop ar unrhyw waith ar y safle, a'u bod yn ystyried "gweithredu yn ffurfiol".

"Bydd y mater nawr yn cael ei basio i'r Pwyllgor Cynllunio, ble bydd aelodau yn cael gwybod am statws y safle ac ystyried buddion y cais presennol i ailadeiladu blaen yr adeiladau, ynghyd ag unrhyw weithredu sydd ei angen er mwyn mynd i'r afael 芒 thorri'r caniat芒d cynllunio," meddai'r cyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran Galliford Try mai peirianwyr strwythurol oedd wedi rhoi cyngor iddynt fod "angen dymchwel blaen yr adeiladau oherwydd rhesymau diogelwch".

"Fel adeiladwr cyfrifol, rydym yn cymryd iechyd a diogelwch o ddifrif, ac fe wnaethon ni weithredu'n sydyn er mwyn atal unrhyw ddigwyddiad posib.

"Bydd blaen yr adeiladau yn cael ei ail-greu fel rhan o'r datblygiad er mwyn cadw cymeriad hanesyddol y cilgant."

Pynciau cysylltiedig