Oedi ar brosiect ynni gwynt pwysig yn y M么r Celtaidd

Ffynhonnell y llun, BOWL

Disgrifiad o'r llun, Mae dwy fferm wynt sy'n arnofio eisoes yn bodoli oddi ar arfordir Yr Alban

Mae cynlluniau ar gyfer y fferm wynt arnofiol gyntaf oddi ar arfordir de Cymru yn wynebu oedi o flwyddyn o leiaf, ar 么l i'r cwmni y tu 么l iddi benderfynu na allai fforddio bwrw ymlaen 芒'r prisiau yr oedd Llywodraeth y DU yn eu cynnig.

Mae lleisiau'r diwydiant yn dweud bod penderfyniad Blue Gem Wind i beidio 芒 cheisio am y cytundebau yn "larwm" i Lywodraeth y DU.

Bwriad fferm wynt Erebus oedd rhoi hwb i fath o ynni adnewyddadwy 芒'r potensial i greu 10,000 o swyddi yng Nghymru erbyn 2050, yn ogystal 芒 ffurfio rhan ganolog o darged Llywodraeth Cymru o gyflawni ei holl anghenion ynni drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Dyma fyddai'r drydedd fferm wynt arnofiol yn y DU - mae yna ddwy yn Yr Alban - ond mae'r 100MW o ynni a gynhyrchir gan y prosiect yn fwy na dwbl y prosiectau hynny.

Mewn ergyd bellach i'r llywodraeth, mae wedi dod i'r amlwg nad oes unrhyw brosiectau gwynt ar y m么r wedi sicrhau cytundebau yn y rownd ddiweddaraf yma.

Fel y prosiect cyntaf yn y M么r Celtaidd y gobaith yw y bydd Erebus yn creu diwydiant cwbl newydd yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, DOCK90

Disgrifiad o'r llun, Gweithwyr yn fferm wynt arnofiol Kincardine oddi ar yr arfordir ger Aberdeen

Tra bod tyrbinau gwynt ar y m么r traddodiadol yn cael eu hadeiladu gyda sylfeini sefydlog yng ngwely'r m么r, mae tyrbinau arnofiol yn eistedd ar strwythurau dur arnofiol enfawr, sydd wedyn yn cael eu clymu i wely'r m么r.

Mae hyn yn caniat谩u i'r tyrbinau gael eu gosod ymhellach allan ar y m么r mewn lleoliadau gyda gwyntoedd uwch.

Mae hefyd yn golygu y gall y tyrbinau enfawr gael eu hadeiladu a'u cydosod ar dir sych a'u tynnu allan i'r m么r, yn hytrach na cheisio eu hadeiladu yn yr amodau heriol a wynebir yn aml ar y m么r.

Gall y strwythurau enfawr hyn hefyd ddychwelyd i'r lan ar gyfer gwaith atgyweirio, gyda Llywodraeth y DU eisoes wedi cyhoeddi cyllid i borthladdoedd Cymru fuddsoddi yn y seilwaith sydd ei angen i drin gwrthrychau mor enfawr.

Gall y tyrbinau ar gyfer Erebus gyrraedd 265m o'r m么r i ddiwedd llafn ei dyrbin.

Ffynhonnell y llun, Erebus

Disgrifiad o'r llun, Pe bai cynllun Erebus yn cael ei wireddu fe fyddai cebl tanddwr yn cael ei osod i Aberdaugleddau

Mae un o gwmn茂au ynni mwyaf y byd, Total Energies, yn bartner yn Blue Gem Wind, a gr毛wyd yn benodol i ddatblygu cynhyrchu ynni yn y M么r Celtaidd.

Ddydd Gwener fe gadarnhaodd y cwmni nad oedd wedi gwneud cais am AR5 - yr arwerthiant ynni adnewyddadwy diweddaraf y mae Adran Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y DU yn cynnal yn flynyddol er mwyn cymell datblygiad prosiectau ynni adnewyddadwy.

Y syniad yw cynnig cytundebau am dymor o 15 mlynedd a fyddai'n sefydlogi'r prisiau ynni - sy'n draddodiadol gyfnewidiol - ac yn caniat谩u i ddatblygwyr sicrhau'r cyllid a'r buddsoddiad preifat sydd ei angen arnynt i adeiladu'r prosiectau.

Dywedodd Blue Gem Wind fod cynnydd enfawr mewn costau yn golygu nad oedd yr arian oedd ar gael yn ddigon i symud ymlaen.

'Ffactorau byd-eang'

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod "ffactorau byd-eang sydd wedi cynyddu costau cadwyni cyflenwi yn sylweddol yn y 18 mis diwethaf".

Mae hynny, ar ben "cyflwyno technoleg arnofio mewn rhanbarth sydd heb gynnal gwynt ar y m么r o'r blaen, wedi creu amgylchedd heriol i gyrraedd y pris [Administrative Strike Price] a gafodd ei osod gan Lywodraeth y DU" ar gyfer y bumed rownd o gytundebau.

Ychwanegodd bod y cwmni'n datblygu strategaeth bosib gyda golwg ar rowndiau dosrannu yn y dyfodol, a'u bod yn parhau i weithio gyda holl adrannau perthnasol Llywodraeth y DU.

Disgrifiad o'r fideo, Manon Kynaston o RenewableUK Cymru yn ymateb i gyhoeddiadau dydd Gwener

Dywedodd y corff diwydiant RenewableUK Cymru ei fod yn "anhygoel o siomedig" gyda'r newyddion, gan ddweud fod y diwydiant wedi rhybuddio'r llywodraeth nad oedd y pris oedd yn cael ei gynnig yn ddigon da.

"Bydd y canlyniad hwn yn achosi oedi i benderfyniadau buddsoddi i ddatblygwyr, porthladdoedd, cwmn茂au cadwyn cyflawni a seilwaith," dywedodd eu dirprwy gyfarwyddwr, Manon Kynaston.

"Dyma oedd prif gyfle presennol ynni gwynt arnofiol Cymru i ddechrau rhoi hwb i ddiwydiant sy'n tyfu, i ddarparu trydan i filoedd o dai a busnesau.

"Rydan ni nawr eisiau gweld gwelliant i'r cynllun ar gyfer y rownd nesa' a chefnogaeth ar gyfer twf diwydiannol yma yng Nghymru a hefyd ar draws y Deyrnas Unedig."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "disgwyl rhagor o fanylion ar y cyhoeddiad", ond ychwanegodd y bydd prosiectau ynni morol yng Nghymru "angen datrysiadau buddsoddi sylweddol gan Lywodraeth y DU".

Newyddion da hefyd

Er bod cwestiynau mawr bellach am wynt ar y m么r, mae yna newyddion da i Gymru am dechnoleg arloesol arall - ffrwd llanw.

Mae pedwar prosiect llai ar Ynys M么n wedi cael s锚l bendith i ddatblygu'r dechnoleg newydd hon.

Mae technoleg llif llanw, sy'n cynhyrchu ynni o gerrynt llanw, yn rhagweladwy ac yn gyson.

Er bod y dechnoleg yma eisoes yn darparu ynni i'r grid mewn rhannau eraill o'r DU, y gobaith yw y bydd y pedwar prosiect ar Ynys M么n - tra ar raddfa sylweddol lai nag Erebus - yn arwain at brosiectau mwy, ac yn eu tro manteision economaidd ac amgylcheddol.