大象传媒

Gwynedd: Ailagor tafarn y Ring wedi blwyddyn o ansicrwydd

  • Cyhoeddwyd
Y Ring, LlanfrothenFfynhonnell y llun, Google Streetview
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Brondanw Arms, neu'r Ring, yn Llanfrothen

Bydd un o dafarndai adnabyddus Meirionnydd yn ailagor ei ddrysau nos Iau yn dilyn blwyddyn o bryder dros ei ddyfodol.

Er yn rhan ganolog o gymuned Llanfrothen ers yr 17eg ganrif, roedd pryderon dros ddyfodol y Brondanw Arms yn dilyn cyfnod o ansicrwydd.

Gyda'r dafarn yn cael ei adnabod fel y 'Ring' yn lleol, wedi misoedd o fod ar gau fe ysgogwyd gr诺p ymgyrchu i alw ar y bragdy sy'n berchen arni i unai ei ailagor neu rhyddhau'r les er budd y gymuned.

Ond wedi i'r fragdy Robinsons gytuno i fuddsoddi'n helaeth yn yr adeilad, mae un o cyn-denantiaid y dafarn wedi cytuno i ail gydio yn yr awenau am chwe mis wrth i'r chwilio barhau am denant hirdymor.

Mewn datganiad dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr William Robinson: "Ry'n yn falch o gael agor Brondanw Arms gyda chefnogaeth y gymuned leol fel cynllun tymor byr.

"Ry'n yn gobeithio unwaith bydd y tafarn ar agor y byddwn yn gallu dod o hyd i bartner busnes a fydd yn sicrhau dyfodol y lle yn y tymor hir ar gyfer y gymuned."

'Cynnig ei redeg'

Emlyn Roberts, fu'n rhedeg y dafarn am 20 mlynedd, sydd wedi cytuno i gamu i'r adwy ac yn paratoi i ailagor nos Iau.

Fe ddywedodd wrth Cymru Fyw fod y datblygiad yn un i'w groesawu ac yn cynnig "gobaith o ddyfodol go iawn" i'r Ring.

"Ar 么l y ddadl hefo'r bragdy am brynu'r les fuodd na ddim symud arnyn nhw, felly y cam nesa' oedd iddyn nhw fuddsoddi rhywfaint yn y dafarn ei hun.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Mi ddoethon nhw i fyny hefo'r syniad o wario rhwng 拢150,000 a 拢180,000 ar y dafarn ac mi ddoethon ni i gytundeb fod hynny'n OK.

"Yr unig bryder oedd beth fysa'n digwydd rhwng r诺an a mis Ebrill, gan doeddan nhw ddim yn bwriadu agor tan hynny [wedi cwblhau gwaith adnewyddu].

"Felly wnes i gynnig ei redeg am chwe mis gan fod cau am flwyddyn a hanner yn swnio'n lawer rhy hir, a 'da ni'n agor heno [nos Iau]."

'Wedi colli gymaint'

Aeth Mr Roberts ymlaen i ddweud: "Mae'n hanfodol fod y dafarn yn ailagor, da ni wedi colli gymaint, fel trefnu nosweithiau a chodi arian at elusennau lleol a'r ysgol a ballu.

"R诺an da ni'n mynd i gael yr ail gyfle i wneud hynny a chael bandiau byw yn 么l i fewn a chreu nosweithiau diddorol.

"Dwi wedi cytuno i gamu fewn am chwe mis, ond mae pawb yn dweud mod i am fod yno am byth!

"Ond dwi wedi ymrwymo i chwech, a'r gobaith ydi fydd 'na ateb hirdymor.

"Mae'n edrych lot taclusach nag oedd hi... doedd hi ddim yn dda yna ond 'da ni wedi cael dipyn o drefn erbyn hyn.

"Yn sicr mae 'na obaith gwell nag oedd 'na flwyddyn yn 么l."

Ffynhonnell y llun, Tudalen Facebook 'Rhyddhewch y les'
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ymddangosodd posteri ar y dafarn fis Mai yn galw ar y bragdy i ryddhau'r les er budd y gymuned

Ychwanegodd y Rheolwr Gyfarwyddwr William Robinson: "Unwaith y byddwn wedi dod o hyd i'r partner iawn - ry'n yn edrych ymlaen i ymrwymo i ailwampo'r lle.

"Ry'n yn hynod o falch o gael gweithio gyda'r gymuned i ailagor y tafarn prydferth hwn."