Gwasanaeth Bwcabws yn dod i ben ddiwedd mis Hydref
- Cyhoeddwyd
Bydd gwasanaeth fflecsi Bwcabws y gorllewin yn dod i ben ddiwedd mis Hydref.
Yn 么l Cyngor Sir G芒r, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd yn gallu parhau i ariannu'r cynllun.
Mae hyn yn "ergyd annisgwyl a sylweddol i ddefnyddwyr yn ardaloedd mwyaf gwledig gorllewin Cymru," meddai'r cyngor.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod diffyg cyllid gan lywodraeth y DU ers Brexit yn golygu na allai barhau i ariannu'r gwasanaeth, a'i bod yn ymchwilio i opsiynau eraill.
Mae'r gwasanaeth wedi cysylltu pobl yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro 芒 chanolfannau lleol a gwasanaethau bws eraill ers 14 mlynedd.
Mae disgwyl iddo ddod i ben ar 31 Hydref 2023.
'Cyfran deg o'r gacen'
"Rwy'n hynod drist a siomedig ar 么l colli gwasanaeth gwych a ddylai fod yn derbyn cefnogaeth barhaus," meddai'r Cynghorydd Edward Thomas o Gyngor Sir G芒r.
"Mae natur wledig yr ardaloedd sy'n cael eu gwasanaethu 芒 dwysedd poblogaeth isel yn golygu nad oes m脿s critigol o bobl sydd eisiau teithio ar yr un pryd i'r un lleoedd - sy'n golygu nad yw gwasanaethau bws traddodiadol yn gweithio.
"Yn anffodus, mae'n ymddangos bellach nad yw'r dull arloesol hwn sy'n cyd-fynd 芒 gweledigaeth y Llwybr Newydd yn gynaliadwy ychwaith."
Ychwanegodd y Cynghorydd Keith Henson o Gyngor Sir Ceredigion: "Byddwn yn parhau i lob茂o Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ardaloedd gwledig yn cael cyfran deg o'r gacen, a bod yr heriau sy'n gysylltiedig 芒 chael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn cael eu cydnabod."
'Cydfynd 芒 gweledigaeth y llywodraeth'
Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Sir G芒r am y gwasanaeth "arloesol ac arobryn cenedlaethol":
"Daw'r newyddion ar 么l i Lywodraeth Cymru gadarnhau na fyddai'n gallu cyfrannu at y cynllun yn dilyn diwedd y Grant Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) a oedd yn ei gefnogi tan ddiwedd mis Mehefin eleni.
"Ers i arian y RhDG ddod i ben mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu'r gwasanaeth yn llawn.
"Mae trafodaethau wedi bod ar waith dros 18 mis rhwng swyddogion o Gynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion a swyddogion o Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.
"Sicrhaodd Llywodraeth Cymru fysiau newydd ar gyfer y gwasanaethau hyn mor ddiweddar 芒 mis Gorffennaf 2023 ac roedd lefel o optimistiaeth bod pethau'n mynd rhagddynt yn gadarnhaol.
"Darparwyd y gwasanaeth mewn partneriaeth rhwng yr awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, a chredwyd ei fod yn cyd-fynd 芒 gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer atebion trafnidiaeth wledig fel yr amlinellwyd yn ei pholisi trafnidiaeth, Llwybr Newydd."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er gwaetha'r addewidion na fyddai Cymru geiniog yn dlotach wedi Brexit, mae llywodraeth y DU wedi methu 芒 darparu cyllid ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth wledig oedd wedi'u hariannu gan yr UE gynt.
"O ganlyniad i hynny, allwn ni ddim parhau i gefnogi gwasanaeth Bwcabws.
"Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn newyddion siomedig i'r rheiny sy'n defnyddio'r gwasanaeth, ond rydym yn cydweithio 芒 Thrafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a Chymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol Cymru i ymchwilio i ospiynau eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd21 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Mai 2022