Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Beirniadu cynlluniau i fynd i'r afael 芒 thlodi plant
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi beirniadu cynlluniau'r llywodraeth i daclo tlodi plant yng Nghymru.
Yn 么l Rocio Cifuentes mae diffyg "uchelgais, eglurder a manylder" yn y strategaeth ddrafft ar daclo tlodi plant.
Dywedodd ei bod wedi derbyn sylwadau cryfion ar y pwnc gan y bobl ifanc yr oedd hi wedi cwrdd 芒 nhw.
Gwnaeth Ms Cifuentes ei sylwadau wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cydraddoledeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, fel rhan o'r ymchwiliad i dlodi plant.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori ar ei strategaeth ddrafft ar dlodi plant, sy'n anelu i leihau costau a helpu teuluoedd i wneud y gorau o'u hincwm, a chefnogi lles.
Does gan weinidogion Cymru ddim pwerau dros fudd-daliadau lles, ond maen nhw'n awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y mater.
Dywedodd Ms Cifuentes ei bod "yn siarad yn blaen oherwydd cryfder y teimladau ymhlith y plant a'r bobl ifanc yr wyf wedi dod i gyswllt 芒 nhw".
'Cyfnod o argyfwng'
"Dyw'r uchelgais, yr eglurder, y mandylder, a'r cynllun gwaith ddim yna," meddai.
Roedd diffyg manylder ar weithredu amserlen a'r gwasanaethau oedd ar gael yn golygu nad oedd unrhyw ffordd o ddal y llywodraeth i gyfrif, meddai.
"Rydym mewn cyfnod o argyfwng, mae angen strategaeth dlodi plant gydlynol, gref."
Rhestr o gynlluniau polisi oedd y ddogfen ddrafft, a oedd ddim wir yn egluro sut, pryd a phwy fyddai'n atebol am y gwahanol bolis茂au er mwyn dileu tlodi plant, meddai.
Mewn datganiad diweddarach dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i daclo tlodi plant fel blaenoriaeth glir, ac i barhau i weithio gyda'n gilydd a gyda'n partneriaid tuag at Gymru lle gall pob plentyn, person ifanc a theulu, ffynnu.
"Mae dros 3,000 o blant, pobl ifanc, teuluoedd a sefydliadau wedi cymryd rhan yn natblygiad y Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig.
"Mae hyn wedi'n helpu ni i ganolbwyntio ar ble gall ein polis茂au wneud y mwyaf o wahaniaeth, ac adnabod blaenoriaethau lle byddwn yn gweithredu'n fwy cyflym.
"Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o rymoedd ar gyfer taclo tlodi, megis budd-daliadau a llawer o bwerau ariannol, yn nwylo San Steffan.
"Er mwyn cwtogi tlodi plant yn sylweddol bydd angen i Lywodraeth y DU ddangos yr un ymrwymiad, a chwarae llawer mwy o ran mewn taclo anghydraddoldebau strwythurol nag y mae wedi'i wneud ers 2010."